<p>Chwaraeon Cyswllt</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:03, 4 Hydref 2017

Rwy’n falch bod y Gweinidog newydd sôn am chwaraeon eraill, achos er bod rygbi wedi cael tipyn o sylw, mae’n wir dweud bod pob math o chwaraeon tîm â rhyw elfen o risg a chyswllt. Wrth gwrs, mae’n rhaid diogelu plant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn hynny. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, pa arfau a dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru i fesur a phwyso’r risg a ddaw mewn ambell i chwaraeon cyswllt, ond hefyd y budd ehangach sy’n dod o annog y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc i feddwl yn nhermau cadw’n iach, cadw’n actif a bod yn rhan o chwaraeon fel budd ehangach wedyn i’r gymdeithas gyfan?