2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2017.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r risg o niwed i blant a phobl ifanc drwy chwarae chwaraeon cyswllt fel rygbi? (OAQ51113)
Diolch. Mae Prif Swyddog Meddygol y DU wedi comisiynu pwyllgor gweithgarwch corfforol y DU i ystyried y dystiolaeth sy’n galw am wahardd rygbi cyswllt ar gyfer plant oedran ysgol. Gwrthododd y pwyllgor yr alwad i wahardd taclo ac nid oedd yn teimlo bod chwarae rygbi yn peri risg annerbyniol o niwed.
Diolch am yr ateb, ac mae’n ymateb go galonogol. Gofynnwyd y cwestiwn mewn perthynas ag erthygl a ymddangosodd yn ddiweddar yn y ‘British Medical Journal’, a gafodd gryn dipyn o gyhoeddusrwydd, felly rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol ohoni. Wrth gwrs, rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r risgiau, ond rydym hefyd yn ceisio annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Felly, rwy’n chwilio am sicrwydd nad oeddem yn mynd i orymateb i’r erthygl hon. Felly, rwy’n meddwl bod eich ymateb yn galonogol yn y goleuni hwnnw, ac rwy’n casglu nad oes dim wedi newid o ganlyniad i’r erthygl hon yn y BMJ.
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn effro iawn i bwysigrwydd cadw plant yn ddiogel yn yr ysgol ym mhob modd, ond rydym yn rhoi pwys arbennig ar ddiogelwch chwaraeon ysgol. Mae’n bwysig rhoi camau cymesur ar waith i greu amgylcheddau diogel i blant allu cymryd rhan mewn chwaraeon. Gall anafiadau ddigwydd mewn unrhyw weithgaredd hamdden wrth gwrs, er bod rhai chwaraeon, yn amlwg, yn cynnwys mwy o risg nag eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar gyfergyd ac anafiadau i’r ymennydd i gynorthwyo pobl sy’n ymwneud â chwaraeon ysgol a chymuned hyd at 19 oed er mwyn lleihau’r posibilrwydd o anaf. Cynhyrchwyd y canllawiau hynny ar y cyd ac mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid gan gynnwys y GIG, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Felly, mae’n bwysig mabwysiadu ymagwedd gymesur tuag at y mater, gan wneud chwaraeon mor ddiogel ag y gallwn ond gan gydnabod hefyd y manteision enfawr y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu rhoi i unigolion.
Gweinidog, diolch i chi am eich atebion hyd yma ar hyn. Rwy’n derbyn y pwynt fod yna gorff o dystiolaeth ar gael sy’n werth ei archwilio, ond rwy’n cytuno â’r teimladau a fynegoch mai camau cymesur yw’r hyn sydd ei angen. Fel rhywun sy’n hoffi meddwl ei fod wedi elwa o chwaraeon cyswllt dros y blynyddoedd ac sydd â phlant a fu’n cymryd rhan mewn pob math o chwaraeon hefyd, rwy’n gweld y manteision ehangach. Ond mae’n creu rhwymedigaeth arnom ni fel gwleidyddion a chi fel Llywodraeth yn wir, i weithio gyda’r cyrff rheoli chwaraeon sy’n cael eu nodi’n chwaraeon cyswllt i wneud yn siŵr fod y cyfleusterau diweddaraf ar gael lle y caiff y chwaraeon hynny eu chwarae. Hoffwn wybod pa ryngweithio a wnewch gyda’r cyrff rheoli—gan ein bod yn ei weld yn Stadiwm y Mileniwm, wyddoch chi, meddygon ar ymyl y cae os oes rhywun yn cael cyfergyd ac yn y blaen—pa gyfleusterau sydd ar gael, ar lefel fwy cymunedol, i wneud yn siŵr nad oes neb yn agored i risg ddiangen a bod cydymffurfio’n digwydd â’r camau cymesur y soniwch amdanynt ar lefel gymunedol, lle y bydd y rhan fwyaf o bobl yn chwarae’r chwaraeon cyswllt hyn?
Mae Chwaraeon Cymru, fy swyddogion a minnau mewn cysylltiad rheolaidd â’r cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ac wrth gwrs, eu cyfrifoldeb hwy hefyd yw gwneud yn siŵr fod unigolion sy’n cymryd rhan yn y chwaraeon hyn yn gwneud hynny’n ddiogel. Gwn fod y cyrff rheoli wedi rhoi arweiniad da yn y maes hwn. Er enghraifft, mae’r undeb rygbi wedi cyhoeddi eu cyfarwyddyd eu hunain ynghylch cyfergyd a chaiff ei adolygu’n flynyddol gan bwyllgor ymgynghorol meddygol Undeb Rygbi Cymru. Maent hefyd wedi dweud bod cyfergyd yn faes blaenoriaeth iddynt ac maent yn gweithio gyda dyfarnwyr yn arbennig dros y flwyddyn hon. Hefyd, ceir protocolau cyfergyd gorfodol yn y gêm ar lefel ryngwladol, proffesiynol a lled-broffesiynol, a chaiff hynny eto ei gyflwyno drwy ddogfen meini prawf safonau gofynnol URC. Caiff honno ei harchwilio’n flynyddol hefyd. Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn mynd i ddarparu eu canllawiau cyfergyd eu hunain cyn hir, gan fod pryderon wedi’u mynegi o’r blaen ynglŷn â phenio peli, er enghraifft. Felly, mae canllawiau cyfergyd ar y ffordd yn fuan iawn gan Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Bydd y rheini’n cael eu dosbarthu i bob clwb yng Nghymru, gyda thaflenni a phosteri ar gael i gynorthwyo gyda chodi ymwybyddiaeth o’r materion hyn.
Rwy’n falch bod y Gweinidog newydd sôn am chwaraeon eraill, achos er bod rygbi wedi cael tipyn o sylw, mae’n wir dweud bod pob math o chwaraeon tîm â rhyw elfen o risg a chyswllt. Wrth gwrs, mae’n rhaid diogelu plant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn hynny. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, pa arfau a dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru i fesur a phwyso’r risg a ddaw mewn ambell i chwaraeon cyswllt, ond hefyd y budd ehangach sy’n dod o annog y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc i feddwl yn nhermau cadw’n iach, cadw’n actif a bod yn rhan o chwaraeon fel budd ehangach wedyn i’r gymdeithas gyfan?
Fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda chyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ac mewn gwirionedd hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall meysydd risg penodol y chwaraeon hynny ac maent yn darparu eu canllawiau eu hunain ar gyfergyd. Pan ydym wedi darparu cyfarwyddyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda’r cyrff hynny. Rwy’n gwbl ddiwyro ynghylch pwysigrwydd annog plant i ddod o hyd i chwaraeon y maent yn dwli arnynt a chael cymaint o gyfleoedd â phosibl i roi cynnig ar wahanol chwaraeon, gan ein bod yn gwybod bod pobl sy’n gwneud gweithgarwch corfforol yn wynebu 30 y cant yn llai o risg o farw’n gynnar. Credaf fod y ffigur hwnnw ynddo’i hun yn go drawiadol, yn ogystal â’r ffaith, er enghraifft, fod 50 y cant yn llai o risg o ddiabetes math 2 a 30 y cant yn llai o risg o gwympiadau, os ydych yn berson hŷn. Rwy’n credu ein bod yn gallu gweld manteision gweithgarwch corfforol yn amlwg ar draws y rhychwant oes, felly mae’n bwysig mabwysiadu ymagwedd wybodus a chymesur i ddiogelwch mewn chwaraeon.
Diolch i’r Gweinidog.