4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:19, 4 Hydref 2017

Artist ei bobl oedd Aneurin Jones, a’i bobl oedd cymeriadau ei febyd ym Mrycheiniog ac, yn ddiweddarach, yng nghefn gwlad y gorllewin. Ei gynfas oedd ail hanner yr ugeinfed ganrif yn y cymdeithasau gwledig hyn, a’i gymeriadau i’w gweld yn sefyll a chloncan yn y mart, yn rhedeg merlod mynydd a chobiau, yn canu neu’n chwarae draffts, yn bwydo’r ffowls neu’n sefyll wrth iet y capel. I fi, fel llawer arall, rydw i’n siŵr, rydw i’n gweld ffedog liwgar fy mam-gu a ffrâm sgwâr fy nhad-cu yn y delweddau yma.

Roedd Aneurin Jones yn artist poblogaidd, gydag ymwelwyr cyson i’w stiwdio neu ei gartref yn Aberteifi i brynu ei waith. Nid oes llawer o artistiaid yn medru cynnal oriel stryd fawr, ond mi oedd Aneurin a’i fab, Meirion, yn artistiaid felly, gyda’u horiel yn Awen Teifi, Aberteifi. Mi oedd Aneurin yn llawn gymaint o gymeriad â’r holl rai yn ei luniau—yn athro, yn dynnwr coes, yn gymwynaswr, yn Gymro cadarn. Mi fu’n driw i’w bobl. Nid oedd ei waith yn mawrygu na bychanu ei bobl, ond yn cofnodi eu byw mewn celf, a’r gwaith celf hwnnw’n cael ei gymeradwyo a’i ganmol gan ei gydartistiaid yng Nghymru a thu hwnt.

Bu farw Aneurin yr wythnos diwethaf, yn un o artistiaid mawr ein gwlad, artist a oedd yn adnabod ei bobl ac yn perthyn i’w dir. Mae’n fraint i gydnabod camp a chelfyddyd Aneurin Jones heddiw, yma yn ein Senedd.