Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 4 Hydref 2017.
Rwy’n deall beth y mae’r Gweinidog yn ei ddweud, yn sicr o ran rhai o’r materion cymhwysedd ac yn y blaen sy’n ymwneud â chynllun cyfrif carbon personol ffurfiol, ond mae’r cysyniad o bob un ohonom yng Nghymru yn gwybod beth yw ein carbon personol—sut rydym yn ei ddefnyddio, sut rydym yn ei wario, gan gysylltu â phwyntiau Jenny Rathbone ynglŷn â chynhyrchu bwyd yn ogystal—yn rhywbeth y dychmygaf y gallai Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth ag ef a gallai helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion mewn gwirionedd.