Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 4 Hydref 2017.
Mae materion a nodwyd yn rhai o argymhellion penodol yr adroddiad, ac yn ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion hynny, yr hoffwn sôn amdanynt ac y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymateb iddynt yn ei gyfraniad i’r ddadl. Felly, trwy edrych ar rhai o’r argymhellion penodol, roedd argymhelliad 5 yn galw am ragor o gymorth a chefnogaeth i gyflogwyr a busnesau’r sector preifat er mwyn iddyn nhw ddatblygu ac ehangu eu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad hwn a dywedwyd y câi rhagor o fanylion eu cyhoeddi yn y strategaeth newydd. A allai’r Gweinidog roi gwybod pa gymorth a chefnogaeth ychwanegol sydd yn mynd i gael ei ddarparu?
Argymhelliad 6 oedd yn un o’r prif argymhellion. Roedd yn galw am asesiad brys o’r nodweddion ychwanegol y bydd eu hangen i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y proffil gwariant dros gyfnod cynnar y strategaeth a chost gymharol y gwahanol ymyriadau y bydd eu hangen o bosibl. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad yn rhannol, gan gyfeirio at y £10 miliwn ychwanegol sydd eisoes wedi’i ymrwymo i ddechrau cyflawni’r strategaeth newydd, nid oes asesiad strategol o lefel yr adnoddau y bydd eu hangen o hyd. Yn wir, roedd yr ymateb yn dweud nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol i weithredu’r strategaeth y tu hwnt i’r £10 miliwn hynny sydd eisoes wedi cael ei ymrwymo. So, roeddwn i eisiau trio deall a ydy hynny’n debygol o ddigwydd. A fydd angen mwy na’r £10 miliwn yna i weithredu’r polisi yn y maes yma? A yw’r Gweinidog wedi cynnal asesiad o’r adnoddau y bydd eu hangen, y modd y mae proffil ohonynt a phryd y bydd yn gwneud mwy o gyhoeddiadau ynghylch adnoddau ychwanegol?
Argymhelliad 11: roedd hwnnw yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’n fanwl sut y mae’n bwriadu symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol, a sut y bydd hyn yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon gan rieni a’r gymuned ehangach. Roedd ymateb y Llywodraeth, yn eithaf cywir, yn canolbwyntio ar rôl awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer lleoedd mewn ysgolion a datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg drwy gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Fodd bynnag, roedd yr ymateb hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r rheoliadau a’r canllawiau i gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg er mwyn annog, ac rydw i’n dyfynnu, symud ar hyd y continwwm ieithyddol’.
A allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y cynnydd a wnaed yn y gwaith hwnnw, a sut y caiff awdurdodau lleol eu hannog i symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol?
Roedd argymhelliad 14 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’n glir nifer yr athrawon ychwanegol y byddai eu hangen a all addysgu Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n falch bod y strategaeth yn nodi targedau penodol yn hynny o beth. Er enghraifft, bydd angen i nifer yr athrawon cynradd a all addysgu drwy’r Gymraeg gynyddu o 2,900 yn bresennol i 3,900 erbyn 2031, ac i 5,200 erbyn 2050. Yn yr un modd, roedd hyn yn cael ei efelychu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd. Fodd bynnag, byddwn ni’n ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ddarparu ychydig yn rhagor o wybodaeth ynghylch sut y caiff y targedau hyn eu cyflawni, ac yn benodol sut y caiff y cynnydd sylweddol hwn mewn darpariaeth ei ariannu.
Mae cwestiynau tebyg yn cael eu codi gydag argymhelliad 15, o ran sut y gellir cynyddu nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n mynd i mewn i’r proffesiwn addysg ei hun. Unwaith eto, a oes modd i ni gael mwy o fanylder am sut y caiff hwn ei gyflawni a pha adnoddau y bydd eu hangen?
Roedd argymhellion 17 ac 18 yn ymwneud â sicrhau gwelliannau mewn addysgu Cymraeg fel ail iaith, gyda’r consensws eang nad yw’r hyn sydd yn deillio o’r addysg honno gystal ag y dylai fod. A allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, felly, am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno un continwwm dysgu i’r holl ddisgyblion yng Nghymru fel rhan o’r cwricwlwm newydd?
Cyn i mi ddod i ben, hoffwn i ddweud yn fras fy mod i’n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. A gaf i hefyd ddweud fy mod yn falch bod y strategaeth wedi dechrau ateb nifer o’r cwestiynau ymarferol ynghylch sut y gellir gwireddu’r uchelgais honno? Bron nad oes angen dweud bod yn dal angen lot mwy o waith ar y mater hwn, ond rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog yn hynny o beth.
Roedd y cyfrifiad diwethaf yn dangos dirywiad bach ond sylweddol yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Fodd bynnag, os ydym am ddod â’r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i ben, a gwrthdroi tueddiad y ganrif ddiwethaf, yna mae angen bod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol. Felly, rydw i’n croesawu yr hyn y mae’r pwyllgor wedi ei wneud—a holl aelodau y pwyllgor hwnnw—yng nghyd-destun y ffaith hefyd fod y staff wedi gweithio yn gryf ar hyn. Rydym ni yn cefnogi’r uchelgais, ond eto mae angen inni weld yn glir sut y mae hynny yn mynd i gael ei weithredu. Diolch.