Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 4 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch hefyd i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn, gan gynnwys y tystion a’r staff cymorth?
Roedd y Gweinidog eisoes wedi rhoi arwyddion eang am ei weledigaeth ar gyfer Cymru ddwyieithog, ac roedd hynny wedi cael lefel o gonsensws, fel yr ydym yn ei wybod; felly, roeddem yn credu ei bod yn ddefnyddiol i brofi’r consensws hwnnw drwy ofyn cwestiynau rhagarweiniol i helpu hwylio’r Gweinidog at rai o’r manylion cynnar. Er bod un o’r manylion cynnar, sef y Papur Gwyn, efallai wedi methu cyrraedd consensws yn y ddadl ddoe, mae pethau yn edrych ychydig yn fwy addawol o ran ein hadroddiad.
Fel arfer, mae’r Llywodraeth yn awyddus i dderbyn argymhellion adroddiadau’r Cynulliad, a chroesawn hynny, wrth gwrs, ond nodwn ei bod yn hawdd derbyn argymhellion pan fyddant yn dod heb gost i’r Llywodraeth. Ond mae’n well bod yn glir ar hyn. Bydd y goblygiadau cost o gytuno â’r argymhellion yn cael eu diwallu gan ‘ailflaenoriaethu cyllidebau rhaglenni presennol’. Rwy’n awyddus i ddeall beth fydd y newid a thros ba gyfnod. Y gyllideb adrannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol yw £36.2 miliwn, a gwyddom fod £5 miliwn o hynny yn mynd i hyfforddiant yn y gweithle ac i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Rwy’n tybio, er nad yw’n glir, fod y £2 miliwn y cyfeiriwyd ato mewn ymateb i argymhellion 3 a 21 yn rhan o’r £5 miliwn hwnnw. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n gadael llawer o le i ailflaenoriaethu cyllidebau rhaglenni presennol, rwy’n credu. Rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi rhyw syniad i ni beth fydd cost debygol gweithredu’r argymhellion, a beth y bydd yn ei newid i ddarparu ar gyfer hynny. Pa raglenni a fydd yn cael eu gollwng, neu eu torri, a pha dystiolaeth o effaith y mae’n dibynnu arni i gyfiawnhau ei benderfyniad? Hoffwn y manylion hyn oherwydd, y flwyddyn nesaf, mae’n debyg y bydd £10 miliwn ychwanegol yn dod i’r adran am flaenoriaethau allweddol. A fydd y £10 miliwn hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl gan wella’r Gymraeg yn y gweithle, hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi’r sector addysg, neu a fydd unrhyw geiniog yn mynd at yr argymhellion i osgoi’r angen i ddibynnu ar ailflaenoriaethu cyllidebau’r rhaglenni dirgel hynny?
Ymdriniwyd â rhai o’r argymhellion yn strategaeth 2050, a bydd yn rhaid i ni, rwy’n credu, fonitro’r ddarpariaeth yn erbyn ein gofynion wedi i’r strategaeth gael ei rhoi ar y gweill. Nid yw’r risg yn y syniadau, ond yn y gweithredu, a bydd cynllunio’r gweithlu i athrawon yn her fawr. Weinidog, rydych chi’n cydnabod hynny yn eich ymateb i argymhelliad 4, pan ddywedwch y bydd angen strategaethau gwahanol i sicrhau cyflenwad digonol. Mae hynny’n swnio’n ddrud, ac yn ddrud dros lawer o flynyddoedd, nes ein bod ni’n cyrraedd más critigol o sgiliau dwyieithog yn y boblogaeth gyffredinol. Byddwn i’n synnu’n fawr pe bai ailflaenoriaethu cyllidebau rhaglenni yn rhoi ffrwd incwm parhaus i chi ar gyfer hyn. Dim ond rhywfaint o £10 miliwn y flwyddyn nesaf a fydd yn mynd i gefnogi’r sector addysg, beth bynnag, ac nid yw’n glir a yw cefnogi’r sector addysg hyd yn oed yn cynnwys cynllunio gweithlu. Rwy’n derbyn na allwch ymrwymo arian yn y tymor hir oherwydd y cylch cyllideb blynyddol, ond gallech ddarparu ffigurau arwyddol o’r gost ar gyfer y maes gwaith penodol hwn—y flaenoriaeth allweddol hon. Ni wnaethom weld hynny mewn ymateb i argymhellion 4, 6 nag 14.
Roedd y rhan fwyaf o’n hargymhellion yn ymwneud ag addysg, fel y byddech yn disgwyl. Dyna ble mae’r Gweinidog wedi dechrau hefyd. Felly, i orffen, hoffwn dynnu sylw at rai o’r argymhellion sydd ar waelod ein rhestr o argymhellion—y rhai sy’n cyfeirio’n fyr at hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac yn y gweithle, a chymorth i oedolion sy’n dysgu. Yn y dyfodol, bydd y rhain yn llai o broblem oherwydd y twf mewn sgiliau dwyieithog yn y boblogaeth gyffredinol, ond mae’n rhaid i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, a bydd newid diwylliant yn gyfnod pontio hir sy’n gofyn am ddyfalbarhad, amynedd ac arian.
Rwy’n gobeithio y bydd yn broses o wella, yn hytrach na dyheadau sy’n lleihau, ond bydd y cynnydd yn erbyn anfantais a gwrthsefyll yn araf. Bydd hynny’n gwneud y gwaith hwn yn agored i doriadau neu ailflaenoriaethu mewn blynyddoedd i ddod. Mi fydd pwysau cyllidebol bob amser, pwy bynnag sy’n rhedeg y wlad. Felly, gofynnodd argymhelliad 22 gwestiwn anodd iawn am yr ymdrech a ddylai fynd mewn i Gymraeg i oedolion. A oes posibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn gorfod cau ei llygaid ar oedolion heddiw er mwyn sicrhau bod oedolion yfory yn wirioneddol ddwyieithog?