Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 4 Hydref 2017.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar adroddiad ein pwyllgor ni ar ‘Gwireddu’r Uchelgais—Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, y nod, fel rydym ni wedi ei glywed llawer tro, ydy cael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae o’n nod mentrus iawn, fel rydym ni’n nodi fan hyn yn y rhagair bendigedig gan Cadeirydd bendigedig y pwyllgor yma. Wrth gwrs, mae goroesiad yr iaith Gymraeg yn rhywbeth hollol ryfeddol, achos y cyd-destun ydy weithiau rydym ni’n mynd yn llwm ac yn oeraidd ac ychydig bach yn isel ynglŷn â dyfodol yr iaith, ond, o gofio bod yna dros 7,000 o ieithoedd ar wyneb ddaear, mae yna un iaith yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear bob yn ail fis. Dyna realiti’r sefyllfa, ac, o dderbyn y cyd-destun yna, wrth gwrs, mae goroesiad y Gymraeg yn rhyfeddol yn y lle cyntaf, a’r ffaith bod yna dros 0.5 miliwn o bobl yn dal i’w siarad o heddiw yn dal yn rhyfeddol.
Ac, wrth gwrs, yr hen Gymraeg ydy iaith wreiddiol ynys Prydain. Wrth gwrs, mae’r gair ‘Britain’ yn dod o ‘Prydain’, achos, nôl yn y chweched ganrif, roedd pawb o Gaeredin i lawr yn gallu siarad yr hen Gymraeg. Dyna pam mae’r holl enwau Cymraeg yna gyda ni, fel Ystrad Clud—Strathclyde—a Lanark, o Llannerch, ag Ecclefechan—Eglwys Fechan—yn Dumfries, a Chaerliwelydd ydy Carlisle, ac yn y blaen. So, mae hyn yn rhan o hanes—ddim jest hanes pobl Cymru, ond hanes pobl Prydain. Wedi dweud hynny, mae’r nod o filiwn o siaradwyr i’w gefnogi, ac rydw i’n llongyfarch y Gweinidog ar y nod yna. Wrth gwrs, mae’r Gweinidog hefyd yn gwybod ein bod ni wedi bod yn fan hyn o’r blaen. Jest dros ganrif yn ôl, roedd gyda ni filiwn o siaradwyr Cymraeg o’r blaen, a wedyn rydym ni’n sôn yn fan hyn am angen adennill y tir, a wedyn dyna beth oedd bwriad ein pwyllgor ni wrth gyflawni’r adroddiad yma: edrych ar sut rydym ni i gyd—nid jest tasg i’r Llywodraeth yw hyn—yn mynd i adennill y tir yna o gael miliwn o siaradwyr.
Ac, wrth gwrs, yn allweddol bwysig yn y lle cyntaf ydy hyrwyddo. Mae yna gryn dipyn o sôn yn yr adroddiad yma am yr angen i hyrwyddo—hynny yw, fel y mae Suzy Davies wedi ei nodi, newid y diwylliant sydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru ar hyn o bryd, newid agwedd rhai pobl sydd yn gryf yn erbyn y Gymraeg, sydd yn ddilornus o’r Gymraeg. Ac mae yna jobyn o waith i wneud yn hynny, ac mae i lawr i bawb. Hynny yw, mae hwn—yn drysor i’w drysori ydy’r iaith yma sydd gyda ni. Rydym ni wedi cael twf enbyd o’r blaen a mi allwn ni gael twf enbyd eto. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gael y tirwedd sydd yn deall pa mor bwysig ydy hwn i’n plant a phlant ein plant. A, drwy hyrwyddo, mae’n bwysig hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg. Mae yna rai pobl allan fan yna’n credu os ydych chi’n anfon eich plentyn i ysgol gynradd Gymraeg nid ydyn nhw’n dysgu Saesneg o gwbl. Wel, na, lol—yn naturiol rydych chi’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ond rydych chi’n dysgu Saesneg hefyd. Felly, rhagoriaeth y sefyllfa ydy pan fyddech chi’n anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg o dair i bedair blwydd oed ymlaen, erbyn iddyn nhw gyrraedd 11, maen nhw’n rhugl mewn dwy iaith. Mae eisiau cael y wybodaeth sylfaenol yna allan: os ydych chi’n anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg, erbyn 11 oed maen nhw’n dod allan yn rhugl mewn dwy iaith.
Mae’r plant yn dysgu—maen nhw fel sbwng bach. Nid ydyn nhw’n stopio ar ddwy iaith; medrwch chi ddysgu trydedd iaith iddyn nhw, neu bedwaredd iaith—mae hynny’n digwydd mewn nifer o wledydd. Mae’n rhaid i rai pobl ddod dros yr ‘hang-up’ yma ynglŷn â ‘rhaid ichi jest siarad Saesneg, neu chi’n drysu’n plant’. Wel, mae hynny’n agwedd hen ffasiwn—hen ffasiwn iawn. Mae’n rhaid symud ymlaen o hynny a bod yn ymwybodol ei bod hi’n drysor gallu siarad o leiaf dwy iaith pan, yn nes ymlaen, a hyd yn oed yn rhai o’n hysgolion cynradd ni, fo’n plant ni’n dysgu trydedd iaith, fel Ffrangeg neu’r Almaeneg, fel y gwnaeth fy mhlant i. Cafodd fy mhlant i’r cyfle i fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg—ges i ddim. Roedd yn rhaid i mi fynd i ysgol cyfrwng Saesneg achos rwyf mor hen, wrth gwrs—cyn y twf yma mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar.
Mae hi hefyd yn dechrau cyn yr ysgolion, gyda meithrinfeydd. Cawsom ni gryn dipyn o dystiolaeth ynglŷn â phwysigrwydd Mudiad Meithrin a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg, achos, i gael y rhuglder yna yn yr iaith, mae’n rhaid i chi gael gafael ar ein plant ni mor gynnar â phosibl. Mae hynny hefyd yn elfen, ac, wrth gwrs, mi oedd yna argymhelliad—argymhelliad 7—i’r perwyl yna, ond nid ydw i’n credu bod Mudiad Meithrin yn mynd i gael beth yr oedden nhw’n gofyn amdano—yn y tymor byr, ta beth.
Rwy’n cymell ac yn gwerthfawrogi ymgais y Llywodraeth i fynd amdani am y filiwn o siaradwyr, ond nid jest gwaith i’r Llywodraeth yw hi—mae’n jobyn i ni i gyd. Diolch yn fawr.