Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 4 Hydref 2017.
Rwy’n credu bod Bethan Jenkins wedi crynhoi’r argymhellion yn yr adroddiad yn deg iawn, felly nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes. Felly fe wnaf gyfraniad byr, yn gyntaf oll i dynnu sylw at y consensws a gafwyd yn y pwyllgor a’r ffordd y gwnaethom i gyd weithio gyda’n gilydd ar sail drawsbleidiol i fyfyrio ar gynigion y Llywodraeth ac i dynnu sylw at ein barn ynglŷn â rhai o’r pwyntiau ymarferol y mae angen mynd i’r afael â hwy yn awr. Rwy’n credu ei bod yn werth pwysleisio pa mor feiddgar a radical yw’r polisi diwylliannol hwn, wedi ei osod yn erbyn cefndir o 100 mlynedd neu fwy o ddirywiad yn yr iaith Gymraeg. Mae unrhyw Lywodraeth sy’n dweud ei bod yn mynd i geisio dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yn un ddewr a chredaf y dylid canmol y beiddgarwch hwnnw.
Ond rwy’n credu wrth wneud hynny fod angen i ni gydnabod bod hwn yn darged ymestynnol, a hefyd ei fod yn darged sy’n esblygu. Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi dod at y polisi hwn gyda glasbrint manwl ymlaen llaw; mae’n rhywbeth y mae’n meddwl drwyddo wrth i ni fynd. A dweud y gwir, pe bai wedi ei wneud yn y ffordd arall, mae’n debyg na fyddem yn cychwyn ar hyd y llwybr hwn, gan ei fod mor anodd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn iawn ein bod wedi bwrw iddi gyda’r targed uchelgeisiol a’n bod yn ôl-lenwi wrth i ni ddatblygu. Mae adroddiad y pwyllgor yn ymgais ddiffuant i geisio awgrymu rhai pethau y gallai’r Llywodraeth eu hystyried wrth iddi lunio’r cynllun hwn.
Mae’n werth cydnabod bod gennym yn y Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr iaith Gymraeg ddau wleidydd sy’n ymrwymedig iawn i weld hyn yn digwydd, a Llywodraeth Lafur Cymru sy’n gwneud ymrwymiad beiddgar am lawer o genedlaethau i ddod. Rwy’n credu bod angen inni weld hwn fel prosiect aml-genhedlaeth.
Felly, dau brif sylw sydd gennyf: un, fel sydd eisoes wedi cael ei grybwyll, nid canolbwyntio’n syml ar y sector cyfrwng Cymraeg yw’r her fawr yma, ond edrych ar y sector nad yw’n gyfrwng Cymraeg. Mae tua thri chwarter y disgyblion yn cael eu haddysgu mewn ysgolion nad ydynt yn gyfrwng Cymraeg, mae tua 16 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a 10 y cant mewn ysgolion dwyieithog. Rydym yn gwybod bod problemau gyda chael disgyblion yn y lleoliadau hynny i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn llawnach y tu allan i’r ysgol. Ond rwy’n credu mai’r her fawr i gyrraedd y targed hwn yw bod tri chwarter yr ysgolion yn gyfrwng Saesneg ar hyn o bryd, a gwyddom ei bod yn ofynnol iddynt yn gyfreithiol i addysgu Cymraeg, ond mae’r rhai ohonom sydd â phrofiad o’r ysgolion hynny yn ein hetholaeth neu fel disgyblion ynddynt yn gwybod, yn ymarferol, nad oes y nesaf peth i ddim Cymraeg gan y bobl ifanc sy’n dod allan o’r ysgolion hynny yn aml.
Rwy’n siarad fel rhywun a oedd, cyn i mi gael fy ethol, yn gadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd cyfrwng Saesneg a weithiodd yn galed iawn i geisio recriwtio athrawon a oedd yn siarad Cymraeg er mwyn gwella sgiliau’r staff a’r disgyblion ac i wneud y Gymraeg yn rhan fywiog o amgylchedd yr ysgol. Llwyddasom am gyfnod byr, ond roedd cadw staff medrus yn amhosibl. Yn syml iawn, nid oes athrawon ar gael ar hyn o bryd i wneud y dyhead hwn yn ystyrlon, ac rwy’n meddwl ein bod wedi clywed cyfeirio yn araith Bethan Jenkins at y ffaith bod nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyrsiau TAR Cymraeg yn gostwng.
Felly, mae gennym waith newid cyfeiriad syfrdanol i’w wneud er mwyn cyflawni hyn, ond rwy’n meddwl o ddifrif fod yn rhaid i’n ffocws fod ar sut y gallwn gael y continwwm i weithio mewn ffordd ystyrlon mewn ysgolion sy’n rhai cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd, ac mae hynny’n anodd iawn. Ymwelais â nifer o ysgolion yn fy etholaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf lle y mae’r penaethiaid yn meddu ar lefelau amrywiol o frwdfrydedd, rwy’n credu, a bod yn deg. Ond mae hyd yn oed y rhai sy’n gwbl gefnogol i gyflawni hyn yn cael trafferth yn ymarferol i wybod sut i’w wneud heb fod ganddynt adnoddau neu staff i bwyso arnynt. Felly, rhaid i hynny fod yn ffocws allweddol yn fy marn i.
Mae yna demtasiwn i fynd am enillion cyflym i geisio dangos rhywfaint o gynnydd yn y tymor byr, ac rwy’n credu bod hynny’n ddealladwy. Pan edrychwch ar y ffigurau ar nifer yr athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth sy’n gallu siarad Cymraeg, 33 y cant ar hyn o bryd sy’n siarad Cymraeg ond 27 y cant ohonynt yn unig sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae ein hadroddiad yn sôn am y demtasiwn i edrych ar y 5 i 6 y cant ar hyn o bryd sy’n siarad Cymraeg i ryw raddau, ond sydd ddim yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn cyrraedd y targed hwnnw. Ac wrth gwrs, dyna fan cychwyn dealladwy, ond mae’r broblem yn dal i fod gyda ni. Ar ôl bod mewn ysgol gynradd ddwyieithog, yn y ffrwd Gymraeg yn y dosbarth iau a’r ffrwd Saesneg yn yr ysgol gyfun, mewn amgylchedd dwyieithog, rwy’n gwybod bod hyd yn oed y plant sy’n cael eu haddysgu mewn lleoliad cyfrwng Saesneg yn dal yn agored i lawer iawn o Gymraeg; mae’n rhan o’u hawyrgylch, mae’n rhan o leoliad yr ysgol, ac mae’n lliwio eu teimlad tuag at yr iaith. Ac rwy’n meddwl y dylem fod yn edrych, fel rhan o’r gwaith ar ddatblygu’r continwwm, i ledaenu’r ysbryd hwnnw mewn cymaint o ysgolion cyfrwng Saesneg ag y bo modd fel bod pob ysgol yn y tymor byr i’r tymor canolig yn anelu at ddod yn ysgol ddwyieithog ac yn y ffordd honno, rwy’n meddwl y gallwn gyrraedd y targed hwn a dod â chalonnau a meddyliau’r bobl gyda ni. Diolch.