8. 8. Dadl Plaid Cymru: Gweithlu’r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:26, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n codi i gefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gyflwynwyd gan arweinydd y tŷ, yr Aelod dros Fro Morgannwg.

Mae’r gwasanaeth iechyd gwladol yn un o greadigaethau mwyaf unrhyw Lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd yn hanes y ddynoliaeth. Mae’n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel y model gofal gorau posibl. Rydym ni, ar y meinciau Llafur Cymru hyn, yn clodfori cyflawniadau Llywodraeth Lafur 1945 yn creu gwasanaeth iechyd gwladol i genedlaethau dilynol ei fwynhau. Rwy’n cofio hanes fy nhad-cu, glöwr yn y Cymoedd, a ddywedodd wrthyf ei fod wedi mynd at y bwrdd cymorth ariannol i ofyn am arian i’w wraig feichiog, a’i fod wedi cael ei wrthod ac fe aeth adref, a bu farw ei wraig. Ac roedd hyn yn y dyddiau cyn y gwasanaeth iechyd gwladol.

Yn y ddau ddegawd ers i’r Cymry bleidleisio o blaid datganoli, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo’n ddifrifol i bobl Cymru ei bod yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn aros yn driw i egwyddorion Nye Bevan a’r gweledyddion Llafur a’i creodd. Rydym wedi rhoi ein harian ar ein gair. Ar ben hynny, rydym hefyd, fodd bynnag, yn cydnabod yn llawn, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, fod yna brinder mewn mannau penodol mewn nifer o feysydd, gan adlewyrchu’r patrwm ar draws gwasanaeth iechyd gwladol y Deyrnas Unedig. Dywedwyd rywdro fod gwir berffeithrwydd yn amherffaith, ac roedd y doethion hynny o Fanceinion, y brodyr Gallagher o’r enwog Oasis, yn iawn—mae’r GIG yn ymgorffori hyn—mae’n berffaith oherwydd ei fod yn amherffaith.

Mae’r GIG yn gwasanaethu bodau dynol sydd bob un ohonynt yn rhannu un nodwedd gyffredin, sef eu marwoldeb. Salwch, afiechyd a marwolaeth yn y pen draw fydd tynged pawb yn y Siambr hon. Fe wnaeth hyd yn oed y Deresa May gref a chadarn heddiw, ar ddiwedd cynhadledd y Torïaid, fradychu ei dynoliaeth gydag amddiffyniad hurt o gyfalafiaeth na ellid ond prin ei ddehongli drwy ei pheswch di-baid, a dymunaf wellhad buan iddi—er y gwnewch faddau i mi os gobeithiaf y caiff hi ei P45 cyn gynted ag y bo modd, er lles ac iechyd pobl Cymru.

Diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru, erbyn hyn mae mwy o feddygon a nyrsys yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Rhwng sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a 2016, rydym wedi gweld cynnydd o 44 y cant yn nifer y nyrsys, cynnydd o 88 y cant yn nifer y meddygon ymgynghorol, a chynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu yng Nghymru.

Diolch i Lafur Cymru, mae mwy yn cael ei fuddsoddi bellach mewn gofal iechyd nag erioed o’r blaen. Mae Cymru yn gwario £160 yn fwy y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cyfuno nag yn Lloegr. Ac mae’r buddsoddiad hwn wedi golygu bod y GIG yng Nghymru yn trin mwy o bobl nag erioed o’r blaen, yn gyflymach nag erioed o’r blaen, wrth i fwy o feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill lenwi swyddi ar draws Cymru.

Mae honiadau ynglŷn â phroblemau staffio yng Nghymru yn haerllug hefyd pan ddônt gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllideb gyffredinol Llywodraeth Lafur Cymru o’i gymharu â 2010-11, ac sydd wedi torri £4.6 biliwn oddi ar wariant gofal cymdeithasol yn Lloegr. Gadewch i ni feddwl am y toriad i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y saith mlynedd ddiwethaf o bolisi cyni aflwyddiannus y Llywodraeth Dorïaidd: £1.2 biliwn hyd yn hyn, gyda mwy i ddod. Mae’n haerllug braidd, onid yw? Pan fo angen, gall y Canghellor Torïaidd, ‘Spreadsheet Phil’, ddarganfod coeden arian hud a’i hysgwyd i gael £1 biliwn i’w roi i’r DUP, i gadw Llywodraeth flinedig ac aflwyddiannus yn ei lle ar amser benthyg. Ac rwy’n gwybod ei fod yn wirionedd anghyfleus i rai o’r Aelodau yma, ond bob tro y gofynnir i’r Cymry pwy yr hoffent eu cael i’w llywodraethu, mae pobl Cymru yn siarad yn glir ac yn pleidleisio Llafur Cymru, ac mae’n ymddiriedaeth nad ydym yn ei chymryd yn ganiataol. Dyna pam y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sy’n gyd-Aelod talentog iawn o Lafur Cymru, yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, yn rhoi ei egni’n ddyddiol i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn heini i ateb gofynion cynyddol poblogaeth sy’n heneiddio.

Rwy’n falch fod Llafur Cymru wedi buddsoddi yn y bwrsari hyfforddi nyrsys pan fo Lloegr wedi torri’r llwybr hwn i broffesiwn hynafol a gwerthfawr tu hwnt.

Rwyf am gloi drwy ddiolch i ddynion a menywod ymroddedig y gwasanaeth iechyd gwladol—y meddygon, y nyrsys, y parafeddygon—sy’n ymrwymo i un o’r ymdrechion mwyaf a wnaed gan unrhyw Lywodraeth: diogelu iechyd a lles ein pobl, a byddwn ni yn Llafur Cymru yn eu cefnogi. Diolch.