Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 4 Hydref 2017.
Rydym ni’n wynebu argyfwng yng Nghymru o ran niferoedd meddygon. Mae hynny’n gwbl glir, ac mae’r argyfwng yn bodoli yn sgil methiant y Llywodraeth i gynllunio’r gweithlu, i hyfforddi meddygon newydd, yn ogystal â recriwtio o wledydd eraill.
Mae Plaid Cymru yn blaid sydd yn ymdrechu i gynnig atebion i broblemau sydd yn bodoli yma yng Nghymru. Mae’r argyfwng ar ei waethaf yn y gogledd. Ym Mai 2017, roedd 141 o swyddi meddygol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi sy’n wag yn NHS Cymru. Felly, mae’r ateb yn amlwg: sefydlu ysgol feddygol newydd yn y gogledd er mwyn hyfforddi cenhedlaeth newydd o feddygon er budd cynaliadwyedd y gwasanaeth iechyd yn y tymor hir. Ond, yn anffodus, mae’r Blaid Lafur yn dal ati yn styfnig i wrthod y syniad yma, er gwaethaf yr holl dystiolaeth a barn arbenigol, fel yr ydym ni wedi eu hamlinellu yn ein hadroddiad ni ‘Delio â’r Argyfwng’.
Mae yna sôn wedi bod am y gost, ac rydw i wedi delio efo’r gost o’r blaen yn y Siambr yma, felly nid wyf i’n mynd i ymhelaethu ar hynny, dim ond eich hatgoffa chi o hyn: dros y tair blynedd diwethaf, fe wariodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros £80 miliwn ar feddygon locwm. Wedyn, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Prif Weinidog hyn yn y lle yma,
Rydym ni’n gwybod y byddai’n anodd’—
Hynny yw, yn anodd sefydlu ysgol feddygol ym Mangor— gan fod ysgolion meddygol mawr mewn dinasoedd mawr ag ysbytai mawr, sydd â llawer mwy o amrywiaeth mewn arbenigedd.’
Mwy o esgusodion di-sail. Y broblem ydy bod y Llywodraeth yn colli’r pwynt yn gyfan gwbl yn y fan hyn, oherwydd mi fuasai’r tair ysbyty ar draws y gogledd yn hyfforddi myfyrwyr ar leoliad gwaith, ac mi fuasen nhw’n derbyn hyfforddiant yn y gymuned hefyd. Dim ond 800 o welyau sydd gan Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae gan y brifysgol dros 1,500 o fyfyrwyr meddygol. Mae’r brifysgol yn defnyddio ysbytai eraill ar draws y rhanbarth yn yr un modd ag y buasai ysgol feddygol ym Mangor yn defnyddio’r holl ysbytai a’r holl gyfleusterau sydd ar gael ar draws y gogledd. Mae gan Iwerddon saith ysgol feddygol, ac mae yna bump yn yr Alban, sy’n awgrymu bod cymhareb o un ysgol feddygol i bob miliwn o bobl yn ymarferol. Byddai trydedd ysgol feddygol yng Nghymru yn cyfateb i’r strwythurau yn yr Alban ac Iwerddon. Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sydd efo’r boblogaeth fwyaf o holl fyrddau iechyd Cymru—bron i 700,000 o bobl. Ychwanegwch boblogaeth siroedd gwledig eraill Cymru, ac mi gyrhaeddwch ffigwr o 1 filiwn o bobl yn fuan iawn.
Mae’r Prif Weinidog wedi honni hefyd fod diffyg amrywiaeth mewn arbenigedd yn y gogledd. Heblaw am arbenigaethau bychain arbenigol iawn fel cardiothorasig a ‘neurosurgery’, mae gennym ni bob dim sydd ei angen yn y gogledd. Digon hawdd fyddai sortio dysgu’r ddau arbenigedd yna hefyd efo mymryn o weledigaeth. Mae cefnogaeth Llafur—diffyg cefnogaeth Llafur—yn dechrau mynd yn jôc, a’r esgusodion yn wan. Mae llawer o brifysgolion yn Lloegr ac ar draws y byd efo ysbytai bychain yn eu hymyl nhw, er enghraifft Lancaster a Keele. Mewn tref fechan o’r enw Salina, rhyw dair awr o Ddinas Kansas yn yr Unol Daleithiau, mae yna ysgol feddygol wedi cael ei sefydlu efo’r bwriad o sicrhau bod y graddedigion yn gwasanaethu mewn ardaloedd gwledig wedi iddyn nhw raddio. Gwirionedd y sefyllfa ydy nad ydyw unrhyw un o honiadau’r Llywodraeth yn dal dŵr. Efo uchelgais ac arweinyddiaeth gref, fe all y Llywodraeth fynd i’r afael efo’r argyfwng yn y gogledd—yr argyfwng sy’n bodoli oherwydd diffyg doctoriaid a staff meddygol. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fod yn barod i fod yn flaengar, i wrando ar dystiolaeth, ac i roi plwyfoldeb i’r naill ochr.