Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 4 Hydref 2017.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon a’r cyfle i siarad ynddi. Rwy’n cytuno â’r teimlad sy’n sail i’r cynnig hwn. Mae prinder staff o fewn y GIG yn niweidiol i ofal cleifion. Nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad ydym yn wynebu erthyglau newyddion sy’n amlinellu effaith prinder staff ar y GIG yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd o 400 y cant yn nifer y cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth, ac mae 39 y cant o bobl Cymru yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu. Yn ogystal â’r effaith y mae prinder staff yn ei chael ar y claf, mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith y mae’n ei chael ar weithwyr y GIG. Mae prinder staff yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff presennol.
Yn fy mhrofiad i, drwy gydol y toriad, fel y nodais, roedd yna ysbyty yn fy rhanbarth lle’r oedd staff yn brin dros ben ar yr uned gardiaidd—i’r graddau eu bod yn gofyn i aelod o staff ddychwelyd i wneud shifft ddwbl. Felly, er mwyn ateb y galw hwn, mae ein staff GIG gweithgar ac ymroddedig yn cael eu gorfodi i weithio am fwy o amser a threulio llai o amser gyda chleifion. Mae hyn yn effeithio ar ysbryd staff ac mae mwy a mwy o staff yn gadael y GIG, gan waethygu’r sefyllfa.
Mae dros 5 y cant o staff ysbyty yn absennol oherwydd salwch a gorfodir byrddau iechyd i ddibynnu ar staff asiantaeth drud i wneud iawn am y diffyg. O ganlyniad, mae gwariant ar nyrsys asiantaeth a meddygon locwm wedi codi i’r entrychion ac wedi gorfodi llawer o fyrddau iechyd i orwario. Mae diffyg gwaith priodol ar gynllunio’r gweithlu dros y degawdau diwethaf wedi ein gadael mewn sefyllfa beryglus. Mae gennym brinder staff yn cael eu recriwtio ym mhob arbenigedd, ac eto mae’r galw am wasanaethau’n cynyddu. Nid ydym eto mewn sefyllfa lle y caiff diogelwch cleifion ei roi mewn perygl yn rheolaidd, ond oni bai ein bod yn gallu cau’r bwlch, dyna fydd yn digwydd.
Yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, gallai bron i chwarter y gweithlu meddygon teulu ymddeol yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Maent yn galw am gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu, i godi i 200 y flwyddyn. Pan ystyriwch mai 127 o leoedd hyfforddi yn unig oedd gennym eleni, mae’n dangos maint y broblem sy’n ein hwynebu.
Ddoe, clywsom y newyddion fod cleifion strôc yn ne Cymru, fel y nododd Rhun, yn cael eu hamddifadu o’r driniaeth orau sydd ar gael oherwydd sefyllfa’r tri radiolegydd sy’n gallu cyflawni thrombectomi: mae un wedi ymddeol, mae un yn absennol oherwydd salwch, ac mae’r trydydd wedi derbyn swydd yn rhywle arall. Mae prinder radiolegwyr yn golygu bod gennym fwy a mwy o bobl yn aros yn hwy ac yn hwy am brofion diagnostig.
Rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw unrhyw newidiadau a gyflwynwn i iechyd a gofal cymdeithasol yn gosod beichiau ychwanegol ar y staff presennol. Bydd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu cam 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn arwain at ddileu’r gofyniad i gael isafswm o nyrsys mewn cartrefi gofal sy’n darparu gofal nyrsio. Bydd hyn yn niweidio gwasanaethau eraill fel gwasanaeth nyrsys ardal, sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ateb y galw sy’n aruthrol uwch na’r capasiti.
Rydym yn cyrraedd pwynt o argyfwng ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ati i gynllunio’r gweithlu yn y dyfodol. Mae arnom angen ymgyrch recriwtio meddygol sy’n blaenoriaethu myfyrwyr domestig ac yn annog pobl ifanc yng Nghymru i ddod yn radiolegwyr, seicolegwyr, ffisiotherapyddion, a’r llu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, nid nyrsys a meddygon yn unig. Mae angen inni gynllunio ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio a gweithlu sy’n heneiddio. Ac yn anad dim, mae angen inni gynllunio ar gyfer gweithlu sy’n gallu ateb y galw yn y dyfodol a darparu gofal i gleifion sy’n ddiogel, yn effeithiol ac yn fforddiadwy. Mae’r ddibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth a meddygon locwm drud—