<p>Twristiaeth Treftadaeth yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae e'n sefyll yn y fan yna ac yn pregethu wrthym am bobl â llai o arian pan yr oedd ef eisiau cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg dim ond ychydig ddyddiau yn ôl. Dyna fe—mae'n sefyll yn y fan yna—. A bod yn deg, mae ei hyfdra yn disgleirio o'n blaenau. Ond y gwir amdani yw na allwn dderbyn y Torïaid yn pregethu wrthym ynghylch hyn. Rydym ni’n gwybod bod trethi twristiaeth yn bodoli mewn llawer o wledydd yn y byd. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i alw, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw cynhyrchu arian ar gyfer busnesau twristiaeth. Mae'n cynhyrchu'r seilwaith ar gyfer twristiaeth fel bod ymwelwyr yn cyfrannu mwy, yn hytrach na bod yn rhaid i bobl leol—ei etholwyr—dalu mwy i ddarparu'r seilwaith ar gyfer twristiaid. Credwn fod honno'n ffordd o rannu'r baich. Credwn fod honno’n ffordd dda o sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer twristiaeth. Byddwn i wedi meddwl, o ystyried ei etholaeth—. [Torri ar draws.] Ydw, rwy'n gwybod ei fod yn brifo. Rwy'n gwybod ei fod yn brifo, ond, o ystyried ei etholaeth, byddwn wedi meddwl y byddai'n croesawu unrhyw beth a fyddai'n sicrhau bod ymwelwyr yn talu ychydig mwy i gyfrannu at yr economi leol. Mae yn gwrthwynebu buddiannau ei etholwyr ei hun.