Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 10 Hydref 2017.
Yn dilyn y smonach a wnaeth eich Llywodraeth chi o fater y cylch haearn yng nghastell y Fflint, a gaf i ofyn pa drefniadau sydd yn eu lle nawr i sicrhau bod unrhyw ddehongli o dreftadaeth yn digwydd o gyd-destun a phersbectif Cymreig ac nid o bersbectif rhywun arall?