1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i dwristiaeth treftadaeth yng ngogledd Cymru? (OAQ51173)
Rydym ni’n cefnogi nifer o fentrau ar gyfer twristiaeth treftadaeth yn y gogledd. Er enghraifft, yn rhan o'r prosiect twristiaeth treftadaeth, gwariodd Cadw tua £7.8 miliwn yn gwella ac yn gwarchod rhai o'i safleoedd twristiaeth treftadaeth yn y gogledd.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae llu o atyniadau treftadaeth anhygoel ar draws y gogledd cyfan, gan gynnwys Ffynnon Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing yn fy etholaeth fy hun, y chwaraeais i fy rhan i’w hyrwyddo gyda fideos twristiaeth dros yr haf, ac a fyddai hefyd yn elwa ar well arwyddion brown ar hyd yr A55. Ac wrth gwrs, ceir mantell aur yr Wyddgrug, a ganfuwyd ym 1833 yn yr Wyddgrug ac sy’n cael ei chadw yn yr Amgueddfa Brydeinig ar hyn o bryd. Gwn, Prif Weinidog, y byddwch chi’n ymwybodol fy mod i’n awyddus i weld mantell yr Wyddgrug yn cael ei harddangos am y tro cyntaf rhyw ddiwrnod yn ôl yn y dref lle y cafodd ei darganfod. Ond trwy wneud hyn, a chan weithio mewn partneriaeth â'r gwahanol randdeiliaid a chynrychiolwyr i wneud iddo ddigwydd a'i wneud yn realiti, llwyddais i gymryd yr amser ddydd Gwener i ymweld â'r Amgueddfa Brydeinig a gweld y fantell aur yn agos a hefyd i siarad â’r curaduron a'r cynrychiolwyr yno. Mae gen i ddiddordeb mewn sut y gall ac y dylai sefydliadau mawr weithio mewn partneriaeth â chymunedau i ddod â'n treftadaeth yn nes at y bobl ac i'w gwneud yn hygyrch i bawb. Prif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod hyn yn bwysig a pha gymorth y gellir ei roi i sicrhau bod ein gorffennol yn cynnig etifeddiaeth ar gyfer ein dyfodol?
Wel, gwyddom ei bod yn hynod bwysig ein bod ni'n dathlu ein gorffennol ond nad ydym yn byw ynddo. Mae gennym hanes cystal ag unrhyw wlad yn y byd. Mae'r Aelod wedi sôn am y fantell aur, sydd, wrth gwrs, o ddiddordeb arbennig iddi hi fel yr Aelod dros Delyn. Gwn fod trafodaethau rhwng ein swyddogion ni a swyddogion Cyngor Sir y Fflint o ran yr hyn y gallai fod angen ei wneud. Mae llawer iawn i’w wneud eto o ran dod o hyd i rywle a fyddai'n bodloni'r Amgueddfa Brydeinig o ran diogelwch a'r amgylchedd priodol i arddangos y fantell aur. Ond gwyddom fod arteffactau o'r gorffennol yn hynod bwysig o ran creu diddordeb, creu twristiaeth a chynhyrchu arian, wrth gwrs, i gymunedau lleol.
Un o'r pethau sydd â'r potensial i niweidio twristiaeth treftadaeth, wrth gwrs, yw’r cynigion a ddatgelwyd gan eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf ar gyfer treth dwristiaeth bosibl yma yng Nghymru. Er efallai na fydd hynny’n effeithio cymaint arnoch chi a'ch cydweithwyr yn y Cabinet o ystyried y gwestai moethus y mae'n rhaid eich bod chi’n mynd iddyn nhw’n rheolaidd, gallai effeithio'n sylweddol ar ben cost is y farchnad wyliau, llawer ohono yn fy etholaeth fy hun a'ch etholaeth chi, Prif Weinidog, sef ar feysydd carafanau gwyliau. Pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd i sicrhau nad yw dyheadau pobl sydd â llai o arian i gael gwyliau blynyddol yn cael eu tanseilio gan eich cynigion hurt ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru?
Mae e'n sefyll yn y fan yna ac yn pregethu wrthym am bobl â llai o arian pan yr oedd ef eisiau cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg dim ond ychydig ddyddiau yn ôl. Dyna fe—mae'n sefyll yn y fan yna—. A bod yn deg, mae ei hyfdra yn disgleirio o'n blaenau. Ond y gwir amdani yw na allwn dderbyn y Torïaid yn pregethu wrthym ynghylch hyn. Rydym ni’n gwybod bod trethi twristiaeth yn bodoli mewn llawer o wledydd yn y byd. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i alw, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw cynhyrchu arian ar gyfer busnesau twristiaeth. Mae'n cynhyrchu'r seilwaith ar gyfer twristiaeth fel bod ymwelwyr yn cyfrannu mwy, yn hytrach na bod yn rhaid i bobl leol—ei etholwyr—dalu mwy i ddarparu'r seilwaith ar gyfer twristiaid. Credwn fod honno'n ffordd o rannu'r baich. Credwn fod honno’n ffordd dda o sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer twristiaeth. Byddwn i wedi meddwl, o ystyried ei etholaeth—. [Torri ar draws.] Ydw, rwy'n gwybod ei fod yn brifo. Rwy'n gwybod ei fod yn brifo, ond, o ystyried ei etholaeth, byddwn wedi meddwl y byddai'n croesawu unrhyw beth a fyddai'n sicrhau bod ymwelwyr yn talu ychydig mwy i gyfrannu at yr economi leol. Mae yn gwrthwynebu buddiannau ei etholwyr ei hun.
Yn dilyn y smonach a wnaeth eich Llywodraeth chi o fater y cylch haearn yng nghastell y Fflint, a gaf i ofyn pa drefniadau sydd yn eu lle nawr i sicrhau bod unrhyw ddehongli o dreftadaeth yn digwydd o gyd-destun a phersbectif Cymreig ac nid o bersbectif rhywun arall?
Rydym ni’n wastad yn dehongli ein hetifeddiaeth ynghylch beth sy’n dda i ni yng Nghymru. Mae yna hanes gennym ni o gestyll. Cafodd y cestyll hynny eu hadeiladu gan frenin o Loegr oedd eisiau troi Cymru mewn i ryw fath o gaer. Serch hynny, rŷm ni’n sicrhau ein bod ni’n dathlu’r etifeddiaeth hynny, ond, wrth gwrs, rŷm ni’n deall bod y cestyll hynny yn rhywbeth sy’n eiddo i bobl Cymru nawr. Mae yna gydbwysedd y mae’n rhaid inni ei ddilyn fan hyn, ond, i mi, nid oes unrhyw beth yn bod gyda dathlu beth sydd gyda ni, achos nawr, wrth gwrs, mae siwd gymaint o bethau a gafodd eu gwneud i bobl Cymru yn cael eu rheoli gan bobl Cymru.