Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Hydref 2017.
Wel, rwy’n cefnogi'r egwyddorion hynny, ond gadewch i mi fynd ag ef yn ôl at y refferendwm y llynedd. Dywedwyd wrthym gan ei blaid ef ac arweinydd ei blaid ef y byddai'r UE yn dod i gytundeb yn gyflym gan fod yr UE yn ofni'r DU; roedd hynny’n anwir. Dywedwyd wrthym y byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn rhoi pwysau ar yr UE i ddod i gytundeb; roedd hynny'n anwir. Dywedwyd wrthym gan arweinydd ei blaid ei hun y gallai'r DU edrych mwy fel Norwy, ond dywedir wrthym nawr na ddylai edrych fel Norwy o gwbl. Mae'r ffantasïau a hyrwyddwyd y llynedd yn cael eu datgelu’n llwyr bellach. Y gwir amdani yw nad yw'r UE yn ofni'r DU—pam ar y ddaear y dylai ein hofni? Mae e'n iawn—mae'r UE eisiau cadw 27 yr UE gyda'i gilydd. Wrth gwrs ei fod; byddai hynny wedi bod yn hollol amlwg i'r rhan fwyaf o bobl y llynedd, ond nid i'w blaid ei hun. Nawr, rwy’n cytuno â’r egwyddorion y mae wedi eu mynegi—pwy na fyddai eisiau gweld y cytundeb masnachu mwyaf rhydd posibl? Pwy na fyddai eisiau gweld hawliau dinasyddion yn cael eu hamddiffyn? Y broblem yw, er ein bod ni’n gwybod beth yw safbwynt yr UE, nid oes gennym unrhyw syniad o beth yw safbwynt y DU a pha fath o gytundeb y mae’n dymuno ei gael. Dyna'r broblem.