<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:50, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n sicr yn gwybod beth yw safbwynt yr UE—nid ydyn nhw eisiau dod i gytundeb, felly mae'r holl broses yn wastraff amser. Wrth gwrs, mae'n gwbl anghywir—ni ddywedasom yn UKIP y llynedd y byddai'r Almaenwyr yn dod i gytundeb; dywedasom ei bod o fudd economaidd iddyn nhw wneud hynny. Ac yn wir, o gofio bod ganddyn nhw ddiffyg masnach o €42 biliwn gyda Phrydain eleni, os na fyddant yn cefnogi cytundeb masnach rydd byddant yn gwneud drwg iddyn nhw eu hunain, efallai y byddent eisiau gwneud hynny er mwyn cadw’r pedwerydd reich gyda'i gilydd. Ni allem ni yn UKIP, wrth gwrs, wybod ychwaith beth fyddai unrhyw un arall mewn unrhyw blaid arall yn ei wneud mewn unrhyw wlad yn yr UE. Y cwbl a ddywedasom ni y llynedd oedd ei fod o fudd rhesymol i bawb ein bod ni’n dod i gytundeb i wneud masnach mor rhydd ag y gall fod. Ond os nad ydyn nhw eisiau dod i gytundeb, mae 85 y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i'r UE—mae honno'n tyfu, a dylem fod yn canolbwyntio ar rannau eraill o'r byd. Felly, yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud nawr yw lleihau'r Adran ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a throsglwyddo'r swyddogion hynny i'r Adran Masnach Ryngwladol, gan ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r busnes go iawn o wneud Brexit yn llwyddiant yng ngweddill y byd.