Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Hydref 2017.
Wel, gadewch i mi ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd Liam Fox wrthyf pan gawsom ni gyfarfod o'r holl Weinidogion yn y Cydgyngor Gweinidogion. Dywedodd y byddai pob un o’r 53 o gytundebau masnach rydd yr oedd gan yr UE gyda gwledydd eraill yn berthnasol i'r DU yn awtomatig. Lol llwyr—roedd yn lol. Felly, mae hynny'n rhoi syniad o'm ffydd yn yr Adran Masnach Ryngwladol. Ni all ddianc y gwirionedd bod ei blaid ef, ei arweinydd ef, wedi mynd ymlaen ac ymlaen yn dweud y bydd yr UE yn dod i gytundeb â ni yn gyflym. Bydd—[Torri ar draws.] Fe’i clywsom—bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gorfodi'r UE i ddod i gytundeb. Mae gan weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen fwy o ddiddordeb yn 27 yr UE na sydd ganddyn nhw yn y DU.
Mae'n sôn am baratoi ar gyfer y Brexit dim cytundeb. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu gorsafoedd ar y ffin. Wel, nid yw swyddogion tollau’n cael eu recriwtio. Mae'n debyg, dywedir wrthym y bydd rhyw fath o weithdrefn hysbysu ymlaen llaw ryfedd ar ochr y DU o unrhyw ffin na fyddai'n berthnasol ym mhorthladdoedd y sianel, ac mae'n debyg y byddai'n berthnasol yn hudol ar y ffin agored a fyddai'n bodoli gyda'r UE yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'n wallgof—mae’r holl beth yn wallgof. Y ffordd fwyaf synhwyrol o ymdrin â Brexit yw sicrhau bod gennym ni’r berthynas orau y gallwn ei chael gyda'n marchnad fwyaf. Os yw'n credu y bydd cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, dylai fynd i siarad â gweithwyr Bombardier. Bydd yr Unol Daleithiau yn gofalu amdanynt eu hunain. Mae ganddyn nhw Lywodraeth a etholwyd ar sail America yn gyntaf. Nid yw'n mynd i wneud unrhyw ffafr â'r DU, ac mae'n gwbl eglur nad dyna y mae’n mynd i'w wneud. Mae cytundebau masnach rydd gyda gwledydd sydd â safonau byw sylweddol is nag sydd gennym ni yn arwain at allforio swyddi. Gofynnwch i'r Americanwyr a chytundeb masnach rydd Gogledd America—dyna a ddigwyddodd. Allforiwyd swyddi i Fecsico a chollodd llawer o drefi canolbarth gorllewinol yr Unol Daleithiau eu swyddi yn sgil hynny, a dyna y mae'n ei argymell—y math hwnnw o gytundeb masnach rydd. Y gwir amdani yw bod angen i ni gael y berthynas fasnachu agosaf bosibl gydag un o farchnadoedd mwyaf y byd—mwy nag America—sydd ar garreg ein drws, y mae gennym ni ffiniau tir â hi. Os na allwn ni ddod i gytundeb â nhw, nid oes gennym ni unrhyw siawns o ddod i gytundeb ag unrhyw un arall.