<p>Y Sector Gweithgynhyrchu Uwch</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae cotio dur â lliw yn weithgynhyrchu uwch. Os edrychwch chi ar Shotton, er enghraifft, mae'n hynod dechnegol. Mae celloedd ffotofoltäig yn rhan o'r cynhyrchu yno. Nid yw'n ddiffiniad hawdd ei wneud, ond o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod bod y sector wedi ei ddiffinio gan amrywiaeth o godau dosbarthu diwydiannol safonol a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cytunwyd ar y codau hynny gan banel diwydiant dan arweiniad y sector preifat, a sefydlwyd i gynghori Gweinidogion a swyddogion, ac mae trin a chotio metelau, gan gynnwys lliwio, yn weithgaredd sydd wedi ei gynnwys yn yr ystod o godau SIC sy'n diffinio ein sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. Felly, mae'n ddiffiniad sy'n seiliedig ar ymgynghori â diwydiant yn unol â chyfres sefydlog o godau.