Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 10 Hydref 2017.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n annog busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i archwilio cyfleoedd i allforio i Iran. Nawr, pan gyfarfûm â busnes gweithgynhyrchu ddoe, dywedasant wrthyf ei bod hi'n amhosibl cael eich talu gan fanciau Iran gan fod Iran yn dal i fod wedi ei chloi allan o'r system ariannol fyd-eang. O gofio bod eich Llywodraeth yn annog busnesau Cymru i allforio i Iran, ac rwyf i’n croesawu hynny, a allwch chi roi rhywfaint o gyngor i weithgynhyrchwyr ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo fel y gallant gael eu talu gan fanciau a busnesau Iran?