3. 3. Datganiad: Ymgynghoriadau ar Deithio Rhatach ar Fysiau

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:59, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae manylion am rai o'r cwestiynau hynny wedi'u cynnwys yn y dogfennau, ond rwy'n sylweddoli na fydd yr Aelod wedi cael cyfle eto i bori’n ddwfn drwy’r dogfennau ymgynghori hynny, felly rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu ateb pob un o'ch ymholiadau yma heddiw.

Yn gyntaf oll, hoffwn ymdrin â'r pwynt olaf a gododd yr Aelod, sydd, yn fy marn i, yn bwynt teg iawn, sef bod llai o bobl ifanc wedi defnyddio fyngherdynteithio nag y byddwn wedi'i ddymuno, a llai, rwy’n meddwl, nag y byddai unrhyw un yn y Siambr hon wedi’i ddymuno. Am y rheswm hwnnw, mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cytuno i ymgymryd ag ymarfer marchnata newydd i gynyddu nifer y bobl sy'n gwneud cais am fyngherdynteithio ac yn cael un. Yn wir, rwy'n meddwl bod y niferoedd bellach wedi codi o 15,000 i fwy na 17,000. Hoffwn weld y niferoedd hynny'n cynyddu ymhellach.

Rwy’n mynd i droi’n ôl at y cwestiwn am deithio rhatach i bobl ifanc mewn eiliad, os caf i, ond rwy’n mynd i droi yn gyntaf at y manteision a gynigir i bobl hŷn. Mae’r system yn gweithio, ond, fel yr amlinellais, byddwn ni’n gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl 60 oed a hŷn wrth inni agosáu at ran olaf y degawd nesaf, ac felly mae angen inni sicrhau heddiw bod y cynllun pwysig hwn yn addas ar gyfer y dyfodol. Byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau a fyddai'n cael eu gwneud ystyried y trefniadau presennol ar gyfer pobl â chardiau teithio rhatach. Ni fyddem, dan unrhyw amgylchiadau, yn eu cymryd yn ôl gan ddeiliaid cardiau presennol, ond mae angen inni ymgynghori ar gynaliadwyedd y model presennol. Ond, fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae’n gweithio, ond mae angen inni ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol gan ystyried, wrth gwrs, y ffaith nad oes diwedd i gyni o hyd a bod pwysau ar gyllidebau ar draws y Llywodraeth ac ar sail y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio ei roi ar waith, yn ogystal ag ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill yn y DU ar yr un mater hwn.

Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â sut yr ydym wedi dysgu gwersi, sut yr ydym wedi gwella'r monitro, sut y gallwn wella'r broses o gyflawni, ac rwy’n meddwl bod hynny'n arwyddocaol iawn, iawn, oherwydd mae gwell gwiriadau ar ddefnyddio'r cardiau wedi arwain at, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, erlyniadau. Credir bod hynny, yn ei dro, wedi cyfrannu at ostyngiad yng nghyfanswm nifer y siwrneiau teithwyr a wnaethpwyd yn flynyddol o tua 108 miliwn heb fod yn bell yn ôl i tua 101 miliwn y llynedd. Yn amlwg, mae gwell gwiriadau ar ddefnyddio cynlluniau tocynnau teithio rhatach ac ad-daliadau ar eu cyfer yn arwain at lai o gamddefnyddio'r cynllun, ond rydym yn monitro'n barhaus ac yn gwneud hapwiriadau i sicrhau nad oes neb yn cam-drin y system.

Mae'r Aelod hefyd yn gofyn am newidiadau y gellid eu gwneud i sicrhau bod gwell monitro yn cael ei wneud o ran gweinyddu'r cardiau teithio rhatach yn y lle cyntaf. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn, ond, wrth gwrs, un o'r cwestiynau yr wyf i’n ei ofyn yn yr ymgynghoriad hwn yw a ddylai Llywodraeth Cymru ddod yn awdurdod consesiynol. Byddai angen newid deddfwriaeth i wneud hynny, ond mae'n bosibl y byddai'n ein galluogi i wneud arbedion ond hefyd i fonitro'n well pwy sy'n cael y cardiau a phwy sy'n defnyddio'r cardiau, ar ba adeg o'r dydd ac yn y blaen. Byddai hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio technoleg newydd yn gyson ledled Cymru yn y modd y defnyddir y cerdyn teithio. Mae'r Aelod yn nodi nifer o dechnolegau newydd a rhai sy'n datblygu a allai olygu bod y ffordd yr ydym yn talu am gardiau teithio am ddim neu'n mynd ati i’w defnyddio’n newid yn sylweddol yn y blynyddoedd sydd i ddod, a phe bai Trafnidiaeth i Gymru yn gallu datblygu system tocynnau integredig, amlfodd ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel awdurdod consesiynol, rwy'n hyderus y byddem yn gallu manteisio ar yr holl dechnolegau sy'n datblygu er mwyn gwella profiadau teithwyr.

Rwy'n mynd i droi at y cwestiwn am deithio rhatach i bobl ifanc yn awr—yn benodol am deithio rhatach i bobl ifanc. Ddylwn i sôn, fodd bynnag, mai un dewis arall y dylid ei ystyried fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn lle bod llywodraeth Cymru yn dod yn awdurdod consesiynol, yw sefydlu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol a allai, yn rhanbarthol, reoli'r cynllun hwn. O ran tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc, rwy’n croesawu cyfraniad y Ceidwadwyr Cymreig at y ddadl hon. Rwy'n meddwl ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn sicr wedi helpu i’w godi’n uwch ar yr agenda newyddion, ond byddwn yn cynghori'r Ceidwadwyr Cymreig i drin y ffigurau’n fwy cywir yn y dyfodol. Y rheswm pam rwy'n dweud hyn yw bod £25 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y cynllun, cynllun y maen nhw’n awgrymu y byddai’n cynnig teithio am ddim ar fysiau a thraean oddi ar brisiau rheilffordd i 350,000 o bobl.

Rwy’n mynd i drin y ffigurau’n gyflym ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 i 17,000 o ddeiliaid cardiau. Byddan nhw’n cymryd tua 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac, felly, o gwmpas 100 o deithiau teithwyr gan bob deiliad cerdyn. Ar y sail honno—ac rwy’n meddwl y byddai'n gwbl resymol disgwyl i lawer mwy o bobl ifanc ddefnyddio tocyn am ddim na thocyn gostyngol—byddem yn disgwyl i'r 350,000 o bobl ifanc wneud o gwmpas 35 miliwn o deithiau bob blwyddyn. Ac felly, os yw pris tocyn i oedolion—gadewch inni ddweud ein bod yn ei ddyfalu, sef yr union beth rwy'n credu y gwnaeth y Ceidwadwyr efallai—yn £2, byddai hynny’n agos i oddeutu £70 miliwn i ad-dalu teithiau bws, ac mae hynny cyn i chi gyrraedd cost ad-dalu traean o'r costau teithio ar y rheilffyrdd.

Felly, rwy’n edrych ymlaen at gael manylion llawn am sut y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu darparu cynnig ar y lefel honno am ddim ond £25 miliwn, ond, fel y dywedais, rwy'n croesawu eu cyfraniad at y ddadl bwysig iawn, iawn hon. Rwyf hefyd yn cytuno â Russell George pan fo’n dweud bod angen inni ysgogi newid ymddygiadol er mwyn datgarboneiddio’r amgylchedd, er mwyn ymdrin â thagfeydd ar ein ffyrdd, ac i sicrhau bod gennym boblogaeth fwy egnïol yn gorfforol. Rwy'n meddwl bod gan gynlluniau teithio rhatach i bobl ifanc swyddogaeth hanfodol yn hynny o beth.