Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 10 Hydref 2017.
Mae gennym bortread yma o sefyllfa sydd dan reolaeth. Wrth gwrs, mae rhai pethau, boed yn ardaloedd daearyddol neu’n feysydd arbenigedd, lle mae cynnydd gwych wedi'i wneud ac mae pethau'n gwella. Mae arwyddion bod pethau'n gwella, ond yn sicr, i lawer gormod o gleifion, yn enwedig cleifion orthopedeg ac offthalmoleg, ac yn sicr yn ardal Betsi Cadwaladr, mae anghysondeb gwybyddol gwirioneddol yma o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod pethau'n gwella pan nad yw hynny'n adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad.
Sut y gallwn ni gael arosiadau o 100 wythnos a mwy ar gyfer atgyfeiriadau brys mewn orthopedeg pan fo Ysgrifennydd y Cabinet yn honni bod pethau'n gwella, er nad yw hynny’n ddigon cyflym? Sut gallwn ni gael pobl i dderbyn bod pethau'n gwella— ein bod ar y ffordd i wella—pan fo gennym yn Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, sefyllfa lle na chynhaliwyd unrhyw lawdriniaeth ddewisol mewn orthopedeg rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Ebrill neu fis Mai eleni? Mae hon yn sefyllfa sy'n gwaethygu, nid yn unig o ran canfyddiad ond o ran realiti ar lawr gwlad, i lawer gormod o gleifion, a dywedaf hynny, fel y cyfeiriais ato'n gynharach, gan sylweddoli bod yna feysydd lle’r ydym yn gwella ynddynt, wrth gwrs. Ond, mae'r rhain yn feysydd lle na allwn guddio’r gwir o dan y carped.
Gadewch imi ofyn nifer o gwestiynau. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi adroddiad archwilio llawn o reoli rhestrau aros, gan edrych ar sut mae rheoli rhestrau aros yn achosi oedi, faint o ffactor yw rheoli gwael, ac a fydd gan y GIG systemau ar waith a fydd yn atal llawdriniaethau rhag cael eu canslo oherwydd bod ymgynghorydd ar wyliau blynyddol, er enghraifft, sy'n ddigwyddiad rhagweladwy?
Byddaf yn gofyn un o'm cwestiynau arferol ar ddata: nid yw ystadegau amser aros yn mesur amseroedd aros dilynol, sy'n arbennig o bwysig, er enghraifft, mewn gofal llygaid, lle gall gofal dilynol gwael fethu cymhlethdodau a all arwain at golli golwg anadferadwy. Hefyd, ar gyfer orthopedeg, gall ôl-ofal cadarn ac archwiliad ar gynnydd ôl-ofal gael effaith wirioneddol ar y prognosis ar gyfer cleifion sydd wedi cael triniaeth.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet hefyd dderbyn, hyd nes y bydd materion sylfaenol sy’n ymwneud â’r gweithlu yn cael eu datrys, na allwn gael y math o GIG cynaliadwy sy’n hyderus o wybod ei fod yn rheoli’r broblem amser aros? Rydym wedi tynnu sylw yn aml yn y Cynulliad hwn at yr angen i sicrhau bod gennym y staff cywir yn y mannau cywir er mwyn bodloni'r gofynion—y galw cynyddol—sy'n cael eu rhoi ar y GIG. A allwn ni dderbyn, wrth wraidd symud ymlaen i'r cynaladwyedd sydd ei angen arnom i gyd, fod yn rhaid inni gael cynllun gweithlu llawer mwy uchelgeisiol a llawer mwy trylwyr a all roi hyder inni y bydd bylchau yn cael eu llenwi mewn blynyddoedd i ddod, fel y gellir datrys problemau cynyddol yr ydym yn eu hwynebu, er enghraifft ym maes orthopedeg, mewn mannau fel y gogledd?
Mae gen i hefyd un cwestiwn olaf: mae offthalmoleg ac orthopedeg—meysydd lle mae'n ymddangos ein bod yn wynebu rhai o'r problemau mwyaf—yn feysydd lle ceir y nifer fwyaf o enghreifftiau o ymarfer preifat. A yw hyn yw rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno i weld a oes modd sicrhau bod y GIG yn dod yn flaenoriaeth i'r bobl hynny sydd wedi cael eu hyfforddi i drin cleifion yng Nghymru?