– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 10 Hydref 2017.
Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio. Fe'i sefydlwyd yn 2014, gyda'r nod o ddiwygio a gwella arbenigeddau gofal wedi’i gynllunio yn y GIG. Mae'r rhaglen yn defnyddio arbenigedd clinigwyr yng Nghymru i nodi a hyrwyddo arfer gorau. Oni allwn sicrhau diwygiad a gwelliant ymarferol, ni fyddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel a chynaliadwy. Ein gweledigaeth yw gwasanaeth gofal iechyd modern sy'n sicrhau bod anghenion cleifion yn cael sylw ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, gan y clinigydd cywir. Mae'r rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn helpu i symud hynny ymlaen gyda nifer fach o gynlluniau gweithredu a chynlluniau trawsnewidiol arbennig.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar offthalmoleg, orthopedeg, y glust, y trwyn a’r gwddf, a wroleg. Mae'r rhain yn arbenigeddau lle mae’n rhaid i gleifion aros yn annerbyniol o hir am driniaeth neu lle mae elfennau o risg clinigol i arosiadau hir, a chyflwynwyd cynllun arbennig ar gyfer dermatoleg o fewn yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn cynnig cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol adolygu eu harferion, eu dyblygu a'u gweithredu ar y safon orau bosib. Mae pwyslais cynnar y rhaglen wedi cynnwys gweithio gydag arbenigeddau clinigol i'w helpu i ddeall y galw am eu gwasanaethau, eu capasiti, a'u cefnogi i ddatblygu cynlluniau i gydbwyso eu gwasanaethau. Mae hynny'n golygu diwygio os ydym am weld cynnydd. Mae wedi golygu cydnabod cyfyngiadau ar y ffyrdd presennol o weithio ac ymrwymo i fynd i'r afael ag amrywiadau mewn ymarfer o fewn sefydliadau a rhyngddynt, ac mae'r amrywiadau hynny mewn ymarfer hefyd yn arwain at rai amrywiadau mewn canlyniad.
Pan lansiwyd y rhaglen, roeddem eisiau adeiladu ar yr arfer da sydd eisoes yn bodoli yn ein system. Mae gennym ystod o enghreifftiau cadarnhaol i dynnu sylw atynt. Yng Nghymru, er enghraifft, mae gennym bellach orthoptyddion yn rhoi pigiadau yn uniongyrchol i'r llygad i drin cyflyrau megis dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran ac edema macwlaidd diabetig, gan ddefnyddio dyfais a ddatblygwyd yma yng Nghymru gan ymgynghorydd yng Nghymru. Mewn nifer o fyrddau iechyd, gall awdiolegydd bellach archwilio pobl â phroblemau clyw heb orfod teithio ymhellach na'u meddygfa eu hunain. Bydd hyn bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys byrddau iechyd eraill yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus. Mae'r llwybr canser y prostad wedi'i ailgynllunio, sydd bellach ar waith ar draws Cymru, yn cynnwys sgan MRI aml-baramedrig cyn biopsi uwchsain trawsrefrol ac mae hynny'n lleihau nifer y biopsïau a gyflawnir, y gwyddom sy’n boenus ac o bosib yn beryglus i'r claf.
Cyhoeddodd y rhaglen gofal wedi’i gynllunio ychydig o newidiadau effaith allweddol ac mae'r rhain yn cyfarwyddo’r byrddau iechyd hyn i reoli camau dilynol, sef y maes blaenoriaeth nesaf dros weddill y flwyddyn hon. Mae apwyntiadau dilynol i gleifion allanol yn cyfrif am gryn dipyn o’r gweithgarwch a wneir gan y GIG. Yn draddodiadol, mae cleifion wedi cael apwyntiadau yn rheolaidd gyda’r gweithiwr gofal iechyd mwyaf priodol, yn hytrach na bod yr apwyntiad yn seiliedig ar eu hangen clinigol. Mae tystiolaeth wedi dangos inni fod tua 9 y cant o’r cleifion eisoes yn methu eu hapwyntiadau dilynol a bod hynny, ynddo'i hun, yn wastraff annerbyniol ar adnoddau. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar leihau nifer yr apwyntiadau dilynol a gynigir fel sy'n briodol yn glinigol ac ar gyfer y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir.
Mae rhai o'r newidiadau yr wyf yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno ledled Cymru yn cynnwys cyflwyno mwy o glinigau rhithwir. Roedd cyflwyno adolygiadau rhithwir a mesurau canlyniadau a nodwyd gan y claf yng Nghaerdydd a'r Fro wedi lleihau nifer yr apwyntiadau clun a phen-glin y mae angen i ymgynghorydd eu gweld 70 y cant—70 y cant. Mae angen i fyrddau iechyd ailgynllunio apwyntiadau fel y gall cleifion gael y driniaeth angenrheidiol yn ystod un ymweliad, a elwir hefyd yn ‘glinigau un stop’, ac mae'r rhain eisoes yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn wroleg ac yn cael ymateb cadarnhaol gan gleifion. Ac mae hyfforddiant arbenigwyr gofal iechyd i ymgymryd ag apwyntiadau sy'n rhyddhau capasiti ymgynghorwyr—. Yng Nghymru, rydym yn rhesymoli, er enghraifft, ein gwasanaethau offthalmoleg trwy gynyddu nifer yr apwyntiadau a wneir yn y gymuned gan ddefnyddio optometryddion a nyrsys. Mae hynny'n wedi rhyddhau capasiti mewn clinigau ymgynghorol prysur—mwy o gapasiti i bobl y mae gwir angen eu gweld gan ymgynghorydd.
Rydym eisoes, o ganlyniad i'r newidiadau hyn, yn cael adborth cadarnhaol gan glinigwyr, staff gweithredol a chynrychiolwyr cleifion, a fu'n gysylltiedig ers sefydlu'r rhaglen. Felly, mae'r rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn dechrau cyflawni newidiadau. Felly, mae rhai o'r canlyniadau a gyflawnwyd eisoes yn cynnwys cyflwyno canllawiau dilynol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau ENT. Cymeradwywyd hynny gan y byrddau iechyd. Mae tystiolaeth o fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dangos y potensial i leihau oddeutu 40 y cant o apwyntiadau dilynol dianghenraid ledled Cymru, ac mae byrddau iechyd eraill bellach yn gweithredu ac yn dilyn y canllawiau hynny. Maent eisoes yn cael effaith wrth i gleifion sy'n aros am eu hapwyntiad cyntaf ledled Cymru leihau o dros 3,000 ym mis Mawrth 2016 i 1,949 ym mis Mawrth 2017. Bu 863 yn llai o atgyfeiriadau eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Mae mwy o gleifion bellach yn cael eu gweld gan awdiolegydd yn hytrach nag ymgynghorydd ENT. Mae hynny'n golygu bod tua 72 o gleifion y mis bellach yn cael eu gweld ar lwybr diwygiedig yn uniongyrchol at wasanaeth awdioleg. Mae hynny'n golygu, ledled Cymru, y bydd cleifion yn cael eu gweld yn gyflymach gan nad ydynt yn aros i weld ymgynghorydd mewn clinig ond byddant yn cael eu gweld a'u hasesu mewn lleoliadau cymunedol priodol.
Cytunwyd ar ein dogfen genedlaethol ar gyfer egwyddorion asesu a thriniaeth gyhyrysgerbydol clinigol—sef CMAT yn gryno—yn seiliedig ar y modelau arfer gorau sydd ar waith ar hyn o bryd mewn gwasanaethau sefydledig. Gan ddechrau’r mis diwethaf, mae bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Dylai hynny sicrhau bod gan gleifion â phroblemau cyhyrysgerbydol fynediad at ystod eang o gyfleoedd triniaeth yn y gymuned yn ychwanegol at wasanaethau gofal eilaidd. Dylai hynny sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn gweld y claf fel y bo'n briodol. Dylai hefyd leihau'r galw ar ein gwasanaethau orthopedig.
Mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn nifer y cleifion brys yr amheuir sydd â chanser sy'n cael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd ers mabwysiadu'r canllawiau haematwria anweladwy asymtomatig.
Mewn offthalmoleg, mae nifer y Meddygon Teulu sy'n cyfeirio cleifion i ofal eilaidd ers i'r rhaglen gychwyn wedi gostwng o 17,775 ym mis Medi 2015 i 14,268 ym mis Mawrth eleni. Felly, o ganlyniad, mae mwy o gleifion yn cael eu gweld yn y gymuned gan optometryddion.
Mae'n dal yn wir bod rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth. Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithredu ar waith i leihau arosiadau hir. Y mis diwethaf, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ychwanegol i helpu'r GIG i wella amseroedd aros ymhellach. Rydym yn gweld gwelliannau yn y gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn digwydd yn ddigon cyflym. Mae angen cyflymder a chysondeb ymhlith yr holl fyrddau iechyd wrth gyflawni gwelliant. Dyna pam fy mod i’n disgwyl gweld arfer da yn dod yn arfer safonol, cyson ledled Cymru. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd fabwysiadu neu gyfiawnhau. Felly, bydd y rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn dod yn rhan annatod o'r broses cynllun tymor canolig integredig. Ni fydd gan fyrddau iechyd nad ydynt yn bwriadu darparu'r cynlluniau gweithredu gofal arfaethedig gynlluniau cymeradwy.
Dywedais fod hon yn rhaglen sy’n cael ei harwain gan glinigwyr, felly rwyf am orffen trwy ddiolch i Peter Lewis, y llawfeddyg fasgwlaidd ymgynghorol sy'n arwain y rhaglen ofal arfaethedig. Nid proses syml yw hon. Mae'n cynnwys pobl mewn gwahanol arbenigeddau sy'n dod ynghyd i gytuno, ac nid yw honno’n broses hawdd bob amser, ac mae'n cynnwys cynllunwyr ac arweinwyr gwasanaethau, felly mae pob prif swyddog gweithredol yn cymryd rhan yn y sgwrs. Ond yr her syml yn awr yw sut mae ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn cyflawni yn erbyn y rhaglen wella hon dan arweiniad clinigol y mae Peter Lewis wedi ein helpu i’w chreu.
Mae gwobr sylweddol iawn i’r staff a'r cyhoedd ehangach wrth i amseroedd aros leihau, gan leihau amrywiad a gwella effeithlonrwydd a chanlyniadau i gleifion. Felly, edrychaf ymlaen at weld y camau gweithredu eleni a'r flwyddyn nesaf ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Yn eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n tynnu sylw at rai enghreifftiau o arfer da sydd i’w croesawu. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pryd yr ydym yn mynd i allu gweld canlyniadau'r holl gynlluniau peilot a gynhaliwyd—yn dda, yn wael neu'n weddol—megis yr holiadur llythrennedd iechyd gan Gwm Taf, neu'r mesurau ysgogi cleifion yng Nghaerdydd a'r Fro, oherwydd rwy'n credu y gallwn ddysgu gwersi o'r holl gynlluniau peilot. A oes unrhyw le y gallwn fynd i edrych arnynt fel y gallwn werthuso pob un ohonynt?
A allech chi hefyd gadarnhau eich bod chi'n adolygu enghreifftiau o arfer gorau nid yn unig yng Nghymru, ond a ydych chi'n edrych ar wledydd eraill, naill ai gwledydd eraill y DU neu wledydd Ewrop? Beth ydych chi'n ei ddefnyddio i feincnodi'r arferion gorau hyn fel bod rhywbeth sy’n dda yn ein barn ni gystal ag y gall fod? Sut ydych chi'n monitro yn erbyn datblygiadau mewn arferion da mewn mannau eraill?
Fy nhrydydd cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: rwyf ychydig yn bryderus am eich sylwadau am y 9 y cant o bobl nad ydynt yn mynd i apwyntiadau dilynol. Mae hynny'n amlwg yn gwbl annerbyniol, ac rwy'n cytuno â chi ar hynny, ond rydych yn sôn mai eich ffordd ci o ymdrin â hyn yw rhoi'r gorau i gynnig cymaint o apwyntiadau dilynol. A allech chi egluro a ydych eisoes yn adnabod y math o berson sy'n debygol o fod yn un o’r naw y cant hwnnw? Onid yw methu apwyntiadau yn digwydd oherwydd ein bod ni wedi bod yn rhy afradlon, gan gynnig apwyntiadau dilynol iddyn nhw pan nad oedd hynny’n angenrheidiol yn glinigol? Neu a ydyn nhw'n bobl sy’n methu apwyntiadau oherwydd eu bod yn teimlo'n well ac felly does dim pwynt mynd i’r drafferth? Yr hyn na hoffwn ei weld yn digwydd wrth wrthod neu benderfynu cynnig llai o apwyntiadau yw ein bod yn taflu’r llo ac yn cadw’r brych ac nad yw'r bobl sydd angen yr apwyntiadau dilynol yn eu cael nhw.
Clinigau rhithwir: cam ymlaen i’w groesawu yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hynny'n syniad gwych, ond a allech chi ddweud wrthym beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw band eang gwael neu ddiffyg gwybodaeth TG yn rhwystr i’r sawl sydd angen eu defnyddio rhag eu defnyddio a bod yn rhan o glinig rhithwir?
Ac yn olaf, cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet, un digwyddiad cyd-ddylunio ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn 2015, ac roedd dau ar y gweill ar gyfer 2016. Ond er imi chwilio, ni allaf ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n dangos a gynhaliwyd y digwyddiadau hynny ai peidio. A allech chi ddweud wrthyf a gawsant eu cynnal neu beidio, ac a yw hon yn rhaglen barhaus? A oes mwy o'r digwyddiadau cyd-ddylunio ar gyfer gofal wedi’i gynllunio ar y gweill? Ai dyma sy’n ffurfio syniadau Peter Lewis am gyflwyno'r model sydd gennym yma ger ein bron? Oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau bod gan bob un o'n rhanddeiliaid yr awdurdod a’r gallu gwirioneddol i gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau hollol integredig. Diolch.
Diolch am eich cwestiynau, a byddaf yn hapus i ymateb iddynt. Ar eich pwynt cyntaf am yr holl gynlluniau peilot a'r gwerthusiad ac a yw'r holl werthusiadau ar gael: ni allaf ddweud wrthych yn y fan a’r lle a yw pob un o'r rhestr ar gael ai peidio. Serch hynny, gallai fod o gymorth pe byddech yn ysgrifennu ataf gyda'r rhestr o'r meysydd penodol y mae gennych ddiddordeb ynddynt lle nad ydych chi'n siŵr a fu gwerthusiad o gynllun peilot, ac yna gallaf roi atebion ichi a gwneud yn siŵr bod Aelodau eraill yn cael copïau ohonynt hefyd.
O ran arfer gorau, mae'n ddiddorol; rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd diddorol gyda Peter Lewis yn sôn am y gwaith o ddechrau'r rhaglen hyd at ei chwblhau. Mae un o'r ymadroddion a ddefnyddir ganddo—rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn—yn ymwneud â mabwysiadu’r ‘safon gorau yn y dosbarth', sef deall beth yw'r gorau yn y dosbarth, cael tystiolaeth i gyrraedd yno ac yna dweud, 'Dyma'r hyn y mae angen i ni ei wneud nawr'. A thrwy wneud hynny, ceir tystiolaeth o fewn Cymru, ond ar draws system y DU hefyd, wrth gwrs. A’r hyn sy’n ddiddorol, yn rhannol, yw bod ein llawfeddygon, er enghraifft, ond hefyd glinigwyr ar bob lefel, â diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn rhyngwladol hefyd. Felly, mae gennym y dystiolaeth honno ac mae ar gael inni. Yr hyn nad wyf am ei wneud yw mynd ati i edrych ar hyn am byth bythoedd cyn dod i’r penderfyniad mewn gwirionedd, 'Dyma'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y fan hon ac yn awr, a dyma sut mae angen i ni gynllunio ein gwasanaeth.' Mae hynny'n golygu deall y galw sy'n dod i mewn a sut mae hynny'n cael ei reoli, yn ogystal â phenderfynu pryd mae angen gwahanol rannau o'n system arnom i'w gweld nhw: sut ydym ni'n gwneud hynny? Oherwydd fel arall, ni fyddwn byth yn cynllunio ar gyfer gwasanaeth; byddwn bob amser yn meddwl am y cam nesaf a'r newid nesaf yn y galw ac yna sut mae ein gweithgaredd mewn gwirionedd yn cydweddu.
Mae rhywfaint o hynny, wedyn, yn dod yn ôl at eich cwestiynau nesaf am y gyfradd 'methu apwyntiad’ a chael llai o apwyntiadau dilynol—rydym yn union yn y fan lle’r ydym (a) eisiau i bobl fynd i apwyntiadau priodol a (b) byddant yn parhau i gael cynnig apwyntiad sy'n briodol yn glinigol. Y pwynt cyntaf yw ein bod eisoes yn cydnabod ein bod yn gyrru gwastraff ac amrywiad annerbyniol o'n system mewn rhai meysydd drwy gynnig apwyntiadau dilynol safonol nad ydynt yn briodol yn glinigol. Ac yna mae hefyd yn ymwneud â deall, os oes angen i rywun gael ei weld, gan bwy y mae angen iddyn nhw gael eu gweld. Dyna ble, yn y maes offthalmoleg, er enghraifft, yr ydym eisoes yn symud at system lle’r ydym yn rheoli mwy a mwy o'r apwyntiadau dilynol hynny yn y gymuned. Felly, os byddwch yn mynd at amrywiaeth o optometryddion y stryd fawr, byddant yn gallu dweud wrthych am yr ystod o wasanaethau y maent yn eu darparu nawr. Mewn gwirionedd, pan siaradais ag optometryddion yn ystod wythnos iechyd y llygad, roedden nhw'n llawn cyffro am yr hyn yr oeddent yn ei wneud. Yn ôl disgrifiad un optometrydd, 'Mae hyn yn wych; mae'n wych. Mae pobl nawr yn cael eu cyfeirio atom ni ar frys, er enghraifft, gan feddygon teulu; nid oedd hynny'n digwydd o'r blaen. Ond hefyd rydym yn gwneud mwy a mwy o'r hyn sy'n digwydd o ran ôl-ofal. O'r blaen, roeddem yn beiriannau profi llygaid, erbyn hyn rydym yn defnyddio ein sgiliau clinigol, sy’n gwneud y gwaith yn fwy diddorol.'
Mae hyn yr un peth mewn ystod o feysydd eraill hefyd. Mae Orthopedeg yn enghraifft arall lle’r oedd gennym system hynod aneffeithlon mewn rhannau o'n gwasanaeth ni, ac mae enillion gwirioneddol i’w gwneud o ran effeithlonrwydd a gwerth i'r dinesydd, ond hefyd i’r gwasanaeth cyfan. Mae hynny'n gofyn am newid mewn ymddygiad gan ystod o'n clinigwyr sy'n penderfynu a ddylid rhoi apwyntiadau dilynol i bobl.
O ran clinigau rhithwir, mae'n enghraifft dda iawn o sut y gall pobl gael gofal gan glinigydd, neu, lle mae'n briodol, gan ymgynghorydd, o bosib, sydd wedi'i leoli mewn un man a lle mae pobl yn teithio i fan arall. Er enghraifft, gwelais hyn yn uniongyrchol yn Betsi Cadwaladr: roeddwn yn Ysbyty Gwynedd, ac roedd yr ymgynghorwyr yn gallu cynnal clinig gyda delweddau o ansawdd uchel iawn o bobl a oedd sawl milltir i ffwrdd, ond iddyn nhw roedd yn fan haws teithio iddo. Mae rhywbeth yma am ddeall ansawdd ein rhwydwaith band eang a'r gwaith y mae fy nghyd-aelod Julie James yn arwain arno— deall sut a ble mae gennym fand eang o ansawdd uchel. Gall olygu pellter teithio byr i bobl, ond byddant yn derbyn gofal mwy lleol, ac mae hynny'n golygu bod mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref.
O ran digwyddiadau cyd-ddylunio, cawsom ddau ddigwyddiad cyhoeddus mawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ond, nid dim ond y digwyddiadau ar raddfa fawr sy’n bwysig: mae’r gwaith PREM—y mesurau profiad yr adroddir amdanynt gan y claf—a'r gwaith PROM—y mesurau canlyniad yr adroddir amdanynt gan y claf—yn bwysig iawn. Maen nhw’n ymwneud â cheisio deall yn rheolaidd beth sy'n bwysig i gleifion o ran profiad a beth sy'n bwysig iddyn nhw o ran canlyniadau, a sut y byddwn yn cyflawni wedyn yn erbyn hynny. Felly, mae pobl yn rhoi gwybodaeth inni a byddwn yn gweithredu ar yr wybodaeth honno yn ein system. Rydym yn ceisio gwneud y pethau cywir. Fel y dywedaf, fy rhwystredigaeth a'm dymuniad i yw ein bod yn gwneud mwy o hynny yn fwy cyson ac yn gyflymach.
Mae gennym bortread yma o sefyllfa sydd dan reolaeth. Wrth gwrs, mae rhai pethau, boed yn ardaloedd daearyddol neu’n feysydd arbenigedd, lle mae cynnydd gwych wedi'i wneud ac mae pethau'n gwella. Mae arwyddion bod pethau'n gwella, ond yn sicr, i lawer gormod o gleifion, yn enwedig cleifion orthopedeg ac offthalmoleg, ac yn sicr yn ardal Betsi Cadwaladr, mae anghysondeb gwybyddol gwirioneddol yma o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod pethau'n gwella pan nad yw hynny'n adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad.
Sut y gallwn ni gael arosiadau o 100 wythnos a mwy ar gyfer atgyfeiriadau brys mewn orthopedeg pan fo Ysgrifennydd y Cabinet yn honni bod pethau'n gwella, er nad yw hynny’n ddigon cyflym? Sut gallwn ni gael pobl i dderbyn bod pethau'n gwella— ein bod ar y ffordd i wella—pan fo gennym yn Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, sefyllfa lle na chynhaliwyd unrhyw lawdriniaeth ddewisol mewn orthopedeg rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Ebrill neu fis Mai eleni? Mae hon yn sefyllfa sy'n gwaethygu, nid yn unig o ran canfyddiad ond o ran realiti ar lawr gwlad, i lawer gormod o gleifion, a dywedaf hynny, fel y cyfeiriais ato'n gynharach, gan sylweddoli bod yna feysydd lle’r ydym yn gwella ynddynt, wrth gwrs. Ond, mae'r rhain yn feysydd lle na allwn guddio’r gwir o dan y carped.
Gadewch imi ofyn nifer o gwestiynau. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi adroddiad archwilio llawn o reoli rhestrau aros, gan edrych ar sut mae rheoli rhestrau aros yn achosi oedi, faint o ffactor yw rheoli gwael, ac a fydd gan y GIG systemau ar waith a fydd yn atal llawdriniaethau rhag cael eu canslo oherwydd bod ymgynghorydd ar wyliau blynyddol, er enghraifft, sy'n ddigwyddiad rhagweladwy?
Byddaf yn gofyn un o'm cwestiynau arferol ar ddata: nid yw ystadegau amser aros yn mesur amseroedd aros dilynol, sy'n arbennig o bwysig, er enghraifft, mewn gofal llygaid, lle gall gofal dilynol gwael fethu cymhlethdodau a all arwain at golli golwg anadferadwy. Hefyd, ar gyfer orthopedeg, gall ôl-ofal cadarn ac archwiliad ar gynnydd ôl-ofal gael effaith wirioneddol ar y prognosis ar gyfer cleifion sydd wedi cael triniaeth.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet hefyd dderbyn, hyd nes y bydd materion sylfaenol sy’n ymwneud â’r gweithlu yn cael eu datrys, na allwn gael y math o GIG cynaliadwy sy’n hyderus o wybod ei fod yn rheoli’r broblem amser aros? Rydym wedi tynnu sylw yn aml yn y Cynulliad hwn at yr angen i sicrhau bod gennym y staff cywir yn y mannau cywir er mwyn bodloni'r gofynion—y galw cynyddol—sy'n cael eu rhoi ar y GIG. A allwn ni dderbyn, wrth wraidd symud ymlaen i'r cynaladwyedd sydd ei angen arnom i gyd, fod yn rhaid inni gael cynllun gweithlu llawer mwy uchelgeisiol a llawer mwy trylwyr a all roi hyder inni y bydd bylchau yn cael eu llenwi mewn blynyddoedd i ddod, fel y gellir datrys problemau cynyddol yr ydym yn eu hwynebu, er enghraifft ym maes orthopedeg, mewn mannau fel y gogledd?
Mae gen i hefyd un cwestiwn olaf: mae offthalmoleg ac orthopedeg—meysydd lle mae'n ymddangos ein bod yn wynebu rhai o'r problemau mwyaf—yn feysydd lle ceir y nifer fwyaf o enghreifftiau o ymarfer preifat. A yw hyn yw rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno i weld a oes modd sicrhau bod y GIG yn dod yn flaenoriaeth i'r bobl hynny sydd wedi cael eu hyfforddi i drin cleifion yng Nghymru?
Diolch am y cwestiynau. Dechreuaf fel hyn: yr wyf yn dymuno herio’n agored eich honiad bod ysbryd o afrealiti yn y datganiad yr wyf wedi'i wneud. Rwy'n credu mai fy ngwaith yw bod yn gytbwys yn yr hyn yr wyf yn ei ddweud a'i wneud, ac nid wyf yn ymddiheuro am fod yn bositif am yr hyn sydd wedi digwydd, yn bositif am y dyfodol, ac ar yr un pryd yn rhwystredig nad ydym wedi gwneud mwy. Yn fy natganiad, mynegais yn glir iawn fod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Dyna pam yr ydym wedi cael rhaglen gofal wedi'i gynllunio a, sawl blwyddyn ar ôl i ni gyflwyno hynny, nid ydym wedi gwneud digon o hyd, yn fy marn i. A rhan o'r pwynt o ddod â datganiad yma yw bod yn ddidwyll am y ffaith nad yw'r cynnydd a wnaethom yn golygu bod y fargen wedi cael ei gwneud—o bell ffordd.
Rwyf hefyd yn cydnabod—nid yn unig yn y lle hwn, ond yn rheolaidd—bod amrywiadau o fewn byrddau iechyd ac mae amrywiadau ar draws byrddau iechyd ynghylch gweithgarwch, ac mae orthopedeg yn enghraifft dda. Nid yw'r cynnydd a wnaed mewn rhai byrddau iechyd yn cael ei adlewyrchu mewn eraill. Rydych yn gweld her yn y gogledd a gaiff ei gweld yn fwy cyffredinol am y galw cynyddol a sut mae gallu a galw yn cyd-fynd â'i gilydd yn y pen draw, ond mewn gwirionedd mae problem fwy yn y gogledd ac mewn rhannau eraill o'n system. Bu’r rhestrau aros yno yn chwyddo’n uwch nag yn unman arall. Ac nid yw hynny’n fater o finnau’n cario clecs y tu allan i'r ysgol, gan fod y ffigurau yno i'w gweld.
Ac nid wyf yn ceisio esgus nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. I mi, dyna'r cynnydd mewn brys sy’n ofynnol i wersi beidio â chael eu dysgu a'u trafod, ond i gael eu cyflawni’n ymarferol. Nid wyf am barhau i ddod yma ac esbonio pam nad yw rhannau o'n gwasanaeth yn gwneud y cynnydd y mae eraill yn ei wneud hefyd. Mae'n rhaid cael galw priodol, gan glinigwyr eu hunain—dylen nhw fod yn rhwystredig ynghylch ble maen nhw ac am hyd y rhestr o'r bobl sy’n aros i’w gweld, a dylai'r arweinwyr a’r rheolwyr yn ein gwasanaethau fod yn rhwystredig hefyd. A dyna pam yr oeddwn yn wirioneddol glir, yn fy natganiad, ac fe welwch hynny eto yn y fframwaith cynllunio ar gyfer y cynlluniau canolig tymor canolig, fy mod yn disgwyl gweld y rhaglen ofal arfaethedig yn cael ei chyflwyno. Ac nid yw hynny'n mynd i fod yn rhan y gellir ei negodi o'r hyn y mae’r byrddau iechyd ei eisiau. Os ydyn nhw eisiau cael cynllun cymeradwy, rhaid iddyn nhw gynllunio i'w gyflwyno ac yna mae'n rhaid iddyn nhw allu dangos eu bod yn gwneud hynny hefyd.
Yn y gogledd, byddwch chi'n gwybod fy mod yn disgwyl gweld yn fuan y cynllun sydd gan y bwrdd iechyd ar gyfer gwella eu swyddogaeth orthopedig. Rwy’n disgwyl i’r cynllun hwnnw fod yn gadarn ac rwy'n disgwyl iddo weithio, ac os nad ydyw, bydd y sgwrs ychydig yn fwy anodd. Nawr, nid yw hwn yn fater ohonof i yn bygwth sefydliad, dim ond bod yn onest ynglŷn â ble’r ydym ni. Ac mae honno’n sgwrs syml yr wyf wedi'i chael ac a gafodd arweinwyr y system gyda'i gilydd hefyd. Felly nid gêm yw hon; mae hyn yn ddilys ac mae'n ddifrifol, a chredaf ei fod yn wir yn effeithio ar allu a pharodrwydd staff i weithio yn y gwasanaethau hynny hefyd: i wybod bod gwir ddealltwriaeth bod angen gwella.
O ran sut yr ydym yn rheoli ein system i adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, unwaith eto mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn well. Felly, mae rhywbeth nid yn unig am y pwynt dilynol, ond sut yr ydych chi'n gwneud yn siŵr bod ymgynghorwyr a phobl sy'n dweud y byddant yn gweld pobl ar gael. Nid mater ynghylch ymgynghorwyr yn unig ydyw. Mae hynny'n arwain at un o'ch pwyntiau eraill am sut yr ydym mewn gwirionedd yn ymdrin â materion gweithlu ac amseroedd aros. Rydym wedi siarad o’r blaen am Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd wedi dod i fodolaeth o'r diwedd gyda'r cadeirydd wedi dechrau gweithio, a chredaf fod hynny'n wirioneddol gyffrous. Mae gennym y corff cysgodol yn dechrau, gan edrych ymlaen at y ffurfioli a dod i fodolaeth yn statudol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Dylai hynny ein helpu ni i wella ein swyddogaeth wrth gynllunio a deall pwy sydd ei angen arnom, pa nifer, ac ym mha feysydd penodol o staff.
Eto, ni wnaf ymddiheuro am ailadrodd y neges, yn enwedig oherwydd ein bod wedi cael mwy o sgyrsiau cyhoeddus ynglŷn â chyni a'i realiti: os yw cyni yn parhau, bydd yn gyrru gwasanaeth cyhoeddus yn erbyn gwasanaeth cyhoeddus, a gwelwn hynny mewn rhai o'r galwadau a wnaed gan rai actorion yn y maes y tu allan i’r fan hyn. Mewn gwirionedd, er bod cyni yn parhau, mae gennym ddewisiadau ofnadwy i'w gwneud lle nad oes modd i neb ennill. Mae’n ymwneud â sut y byddwn yn gwneud dewisiadau anodd rhwng gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus. Felly, fy neges i'r gwasanaeth iechyd, yn gyhoeddus ac yn breifat yw hyn: mae cyfrifoldeb i ddefnyddio'ch adnodd ychwanegol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn awr ac wrth symud ymlaen. Ac mae hynny yn dod ochr yn ochr â’r galw am gael mwy o staff nag erioed o'r blaen yn ein gwasanaeth, y galw parhaus am fwy o staff—ac ymhob maes arbenigol a phob grŵp lobïo, maent bob amser yn galw am fwy o staff—mewn gwirionedd, yr hyn y mae’n rhaid i ni ei ddeall yw faint yn fwy o staff y credwn sydd eu hangen arnom a faint y gallwn ni ei wneud gyda'r staff sydd gennym eisoes. Oherwydd os ydym yn meddwl am ehangu ein gwasanaethau a'n rhifau fel yr unig ateb, byddwn yn methu rhywbeth priodol yn yr hyn yr ydym ni’n gallu ei wneud. Dyna pam mae neges gofal iechyd darbodus ynghylch gwneud dim ond yr hyn y gallwch chi ei wneud mewn gwirionedd yn bwysig. Dyna pam mae’n bwysig iawn fod pobl yn gweld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, oherwydd gallwn greu mwy o gapasiti i ymgynghorwyr os oes gan wahanol weithwyr gofal iechyd wahanol rannau o'u gwaith y gallant ei wneud hefyd. Dyna pam mae gwaith ffisiotherapi a'r gwasanaeth asesu a thriniaeth gyhyrysgerbydol glinigol mewn gwirionedd yn bwysig. Bydd yn wasanaeth gwell yn aml ar gyfer dinasyddion unigol, byddant yn cael eu gweld yn gyflymach, ac os bydd angen iddyn nhw fynd i weld ymgynghorydd, bydd ansawdd yr atgyfeiriad yn well ac ni fyddwn yn rhoi pobl mewn ciwiau yn ddiangen ar gyfer llawdriniaeth na fyddent efallai ei hangen. Rhaid i hynny fod yn rhan hanfodol o'r hyn a wnawn.
Yn olaf, hoffwn ymdrin â'ch pwynt am ddilyniant ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth. Nid wyf yn dymuno osgoi hyn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwyf wedi cydnabod yn flaenorol nad yw rhai o'n mesurau mewn amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth o reidrwydd yn gwneud synnwyr, nad ydynt yn rhoi'r sicrwydd i ni y buasem ei eisiau oherwydd mai dim ond gweithgaredd ac amser y maent yn ei fesur, ac amser ar bwynt penodol yn unig. Ac ar y pwynt hwnnw, efallai na fydd yn sbarduno’r ymddygiad clinigol iawn. Felly, o ran gofal llygaid, er enghraifft, derbyniais nad yw ein mesurau cyfredol fwy na thebyg yn rhoi'r adlewyrchiad a'r sicrwydd mwyaf posibl inni. Dyna pam mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar gynllun peilot sydd i fod i ddechrau'r hydref hwn mewn dwy ardal bwrdd iechyd—yn ABM ac yn Betsi—gan edrych ar yr hyn y gallem ei wneud i gael cyfres newydd o fesurau i sbarduno ymddygiad clinigol mwy priodol. Yna bydd gennym ddealltwriaeth well o'r risgiau yr ydym yn eu cario yn ein system, a dull nodi priodol sy'n edrych ar apwyntiadau dilynol lle mae'n briodol gwneud hynny’n glinigol. Felly, bydd gennym system y credaf fydd yn gwneud mwy o synnwyr, ond ni fydd yn debyg i system Lloegr. Nid yw hyn yn dweud fy mod i'n newid pyst y gôl er mwyn osgoi cymhariaeth â Lloegr—rwy'n ei wneud oherwydd fy mod yn credu ac rwyf wedi cael fy mherswadio gan yr achos clinigol mai dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y staff ac, yn bwysicach fyth, dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein cleifion.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fyddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno ag egwyddorion cyffredinol eich cynllun chi, sy'n cynnwys gwella profiad y claf trwy gadw costau gofal ar lefel resymol. Ac yn hyn o beth, mae'r gwelliant 1000 o Fywydau i helpu Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy a sicrhau profiad gwell i gleifion mewn arbenigeddau gofal wedi’i gynllunio i’w groesawu.
Yn wir, mae rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 a gynhelir gan Ysgol Fusnes Caerdydd wedi rhoi'r dewisiadau yng Nghymru yn gliriach yn ei hadroddiad diweddar, pan ddywed, dan rai rhagdybiaethau, y gallai 56 y cant o'r gyllideb fynd i mewn i GIG Cymru erbyn 2021 a gallai'r ganran fod hyd yn oed yn uwch yn y blynyddoedd dilynol. Felly, gan hynny, mae gennym broblem yma lle’r ydym ni'n rhoi mwy o arian i mewn ac nid ydym yn cyflawni ein targedau. Felly tybed a allech chi wneud sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet?
Mae'r term 'profiad y claf' yn cwmpasu nifer o feysydd sy'n cynnwys canlyniadau i gleifion ac amseroedd aros i gleifion. Fel y dywedasoch mewn atebion i'm cwestiynau fis Ionawr diwethaf, mae angen i ni gydbwyso'r gostyngiad mewn amserau aros ag ansawdd yr ymyriadau a'r canlyniadau i gleifion yng Nghymru. Felly, sut ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn bwriadu gwneud hyn?
Croesawaf y newyddion yn eich datganiad ynghylch ailgynllunio llwybr canser y prostad ar draws Cymru, ar ôl clywed gan lawer o etholwyr yn fy rhanbarth i am anawsterau triniaethau blaenorol cyn y llwybr. Yn yr un modd, mae croeso i gyflwyno clinigau un stop, a grybwyllir yn eich datganiad, a bwriad y rhaglen hefyd i ddatblygu’r mesurau profiad yr adroddir amdanynt gan y claf—PREM—a’r mesurau canlyniad yr adroddir amdanynt gan y claf—PROM—i gofnodi a dadansoddi profiad cleifion o wasanaethau ar hyd llwybrau etholedig. Fodd bynnag, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, i ba raddau y bydd cynghorau iechyd cymuned yn ymwneud â chasglu profiadau cleifion. Os nad ydynt yn cymryd rhan ddigonol, yna efallai y byddwn mewn perygl o gael dau gofnod o brofiadau cleifion, un yn yr adroddiadau PREM a PROM a'r llall trwy gynghorau iechyd cymuned. A fyddai'n llawer gwell pe gellid dwyn ynghyd brofiadau cleifion a gofnodwyd trwy bob un o'r llwybrau hyn er mwyn cael y darlun mwyaf amlwg o brofiadau cleifion?
Rwy'n croesawu dull holistaidd o ofalu am gleifion ac addasu ffordd o fyw, a byddwn yn gofyn hyn: pa gyngor ac ymchwil gyfredol gan grwpiau eraill fydd yn cael eu hymgorffori yn y dull holistaidd ac addasiadau ffordd o fyw?
Mae dogfennau blaenorol yn ymwneud â'r rhaglen ofal yn sôn mai un o'r nodau yw lleihau amrywiad ledled Cymru. Er enghraifft, gall nod o'r fath arwain at leihau nifer yr apwyntiadau dilynol a gynigir yn dilyn llawdriniaeth, gan y gall hyn fod yn arfer derbyniol mewn gwasanaethau iechyd eraill y DU.
Er fy mod yn gefnogol yn fras i'r nod cyffredinol o sicrhau bod costau GIG Cymru yn cael eu cadw ar lefelau rhesymol, rhaid imi bwysleisio, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pob achos yn wahanol. Weithiau, mae amrywiad mewn gwasanaethau ac apwyntiadau i drin yr un cyflyrau neu gyflyrau tebyg, mewn ardaloedd gwahanol hefyd, yn hollol angenrheidiol, felly mae angen digon o hyblygrwydd yn y rhaglen.
Mae'r dystiolaeth yn eich datganiad o’r 9 y cant o bobl nad ydynt yn mynd i apwyntiadau dilynol yn peri anesmwythyd. Ond mae pob achos yn wahanol, ac ni ddylem geisio lleihau apwyntiadau dilynol yn gyffredinol os nad yw ymarfer o'r fath yn cynhyrchu’r canlyniadau gorau posib i’r claf. Croesewir y dystiolaeth y mae eich datganiad yn ei ddyfynnu gan fwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, sydd â'r potensial i leihau apwyntiadau dianghenraid ledled Cymru, ar yr amod y gallwn sicrhau bod apwyntiadau o'r fath yn wirioneddol ddiangen—hynny yw, eu bod yn achosion cyffredinol heb gymhlethdodau neu eithriadau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi sicrhau bod gan fyrddau iechyd arweiniad clir ar yr hyn sy'n gyfystyr ag amgylchiadau eithriadol mewn achos penodol? Ac, ar ben hynny, pan ystyrir bod achos yn eithriadol, a allech chi sicrhau bod gan fyrddau iechyd arweiniad clir ynghylch pa adnoddau pellach fyddai'n cael eu hystyried yn ganiataol neu'n arfer gorau?
Nodaf fod eich datganiad yn dweud y bu gostyngiad yn nifer y cleifion yr amheuir sydd â chanser nad ydynt yn rhai brys. Fodd bynnag, rwyf wedi sôn yn y gorffennol, pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser, a bod y diagnosis yn fater brys iawn iddyn nhw, mae angen inni sicrhau eu bod yn cael y canlyniadau gorau i gleifion. A phan fo rhywun yn cael gwybod bod posibilrwydd bod ganddyn nhw ganser, mae angen inni drin y rhain i gyd ar frys, oherwydd i'r person hwnnw, mae'r gair 'canser' yn golygu bod rhywbeth yn digwydd sydd angen triniaeth ar frys.
Yn olaf, deallaf fod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bedwar arbenigedd llawfeddygol: offthalmoleg; y glust, y trwyn a’r gwddf; orthopedeg; a niwroleg. Rwyf wedi darllen yn eich datganiad ers hynny fod yna fwy ar y gweill. Felly, nid wyf eisiau rhedeg cyn gallu cerdded, ond hoffwn ofyn a oes unrhyw gynlluniau hirdymor i’r rhaglen fod yn berthnasol i arbenigeddau llawfeddygol eraill neu feysydd eraill yn GIG Cymru ac, os felly, pa ddulliau fyddai'n cael eu defnyddio i werthuso effeithiolrwydd y rhaglen ar y pedwar arbenigedd llawfeddygol cychwynnol. Diolch yn fawr iawn.
Wrth ymateb i'r cwestiynau a'r pwyntiau a wnaed, dechreuaf drwy ailadrodd ac yna ychwanegu ychydig at rai o'r pwyntiau a wnes i yn gynharach am gyllid a realiti gwasanaethau. Rydych chi'n iawn: mae ein rhagamcanion presennol yn dangos y byddwn yn gwario mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru ar y gwasanaeth iechyd yn y tymor canolig yn y dyfodol. Mae hynny oherwydd y dewis y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud ar y naill law i flaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd, i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hariannu a bod gennym system gyffredinol gynaliadwy. Nid ydym yn gwneud hyn dim ond ar sail ein hymrwymiad gwleidyddol hirsefydlog i'r gwasanaeth ond oherwydd y nodau gwrthrychol yr ydym wedi'u cymryd gan Nuffield ac yna'r Sefydliad Iechyd am y bwlch y mae angen ei fodloni i gadw'r gwasanaeth yn gynaliadwy. Mae hynny'n cynnwys mwy o arian yn mynd i mewn; ond mae hefyd yn cynnwys enillion effeithlonrwydd parhaus a wneir o flwyddyn i flwyddyn yn ein gwasanaeth. Y risg yn hynny o beth yw’r staff hefyd. Mae angen elfen barhaus o ataliad cyflog, fel arall nid yw'r gwasanaeth yn fforddiadwy. Ac yna rydym yn dod yn ôl at y cap cyflog a phenderfyniad Llywodraeth y DU ac a ydyn nhw’n barod i fod o ddifrif ynghylch y cap cyflog. Sylwaf eu bod wedi cadarnhau yn ddiweddar eu bod yn mynd i beidio â rhoi tystiolaeth ar gyfer y cyrff adolygu tâl. Mae hynny'n golygu na fydd ein gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus, sy'n disgwyl i'r adolygiad ddigwydd, yn gwybod beth yw'r sefyllfa tan yn hwyrach yn y flwyddyn ac y bydd unrhyw gynnydd mewn tâl ar unrhyw lefel yn debygol o gael ei ohirio o ganlyniad i hynny. Efallai y bydd hynny'n golygu arbediad i'r Trysorlys, ond credaf ei fod yn rhoi mwy o bwysau ar ein staff sydd dan bwysau. Mae'n mynd yn ôl at y dewis canolog ynglŷn â chyni. Fe wnaeth arweinydd ariannol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Anthony Hunt, wneud y pwynt y penwythnos hwn fod cyni’r Torïaid yn bwrw gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus. Os na fydd yn dod i ben, bydd canlyniadau trychinebus i gymunedau ar hyd a lled y wlad.
O ran ein her ni yma o fewn y gwasanaeth i leihau amseroedd aros ac i sicrhau nad oes unrhyw gyfaddawdu mewn ansawdd, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am sut yr ydym yn ceisio mesur a deall beth yw profiad y claf. Nid yw’n fater o PREM a PROM yn erbyn y mudiad cyngor iechyd cymunedol yn unig. Mae'n ymwneud â deall lle mae swyddogaeth wahanol ar gyfer gwahanol rannau o'n system. Rwy'n credu y gallai ac y dylai PREM a PROM fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddeall profiad pobl a gofyn i bobl beth sy'n bwysig iddyn nhw, ac yna’n dylunio gwasanaethau o gwmpas yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud wrthym. Ond yn yr un modd, mae'n ymwneud â deall bod mwy nag un lle i fynd a chael hyn. Felly, mae yn y niferoedd sydd gennym, ond mae yn y gwaith archwilio clinigol sy'n digwydd hefyd. Mae meysydd cyfoethog i'w gwella yno hefyd, ac mae hynny'n ein meincnodi ar draws rhannau eraill o system y DU. Ym mhob un o'r grwpiau gweithredu sydd gennym ar gyfer prif gyflyrau, mae'r trydydd sector bob amser yn rhan o hynny. Felly mae gennych her o’r grwpiau hynny sy'n gweithredu, os hoffech, fel llais y claf yn y gwasanaethau hynny hefyd. Ceir enghraifft dda o grŵp trydydd sector yn ein helpu i ddeall llais y claf yn yr arolwg Macmillan yr ydym newydd ei gael, sy’n dweud wrthym am wasanaethau canser a chyfraniad uniongyrchol y claf. Felly, rydym yn deall o amrywiaeth o ffynonellau yr hyn y mae cleifion yn ceisio ei ddweud wrthym am y gwasanaethau y maen nhw’n eu gwerthfawrogi a sut maen nhw’n dymuno eu gweld yn cael eu gwella. Ac wrth geisio gwneud y rheini'n fwy cyson neu'n gyflenwol, ni ddylem rwystro gwahanol feysydd er mwyn deall yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym.
Rwy’n credu fy mod wedi ymdrin yn fras â’ch pwyntiau am ddilyniant. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod apwyntiadau ENT yn Aneurin Bevan wedi gostwng 40 y cant. Yr her, fel yr oedd Angela Burns yn ei ofyn, yw sut yr ydym yn sicrhau bod apwyntiadau dilynol yn briodol yn glinigol ac nad ydym yn gyrru galw amhrisiadwy i mewn i'n system nad yw o ddim gwerth, naill ai i'r clinigwr nac i'r dinesydd. Ac ni chredaf fod llawer o sicrwydd mewn gofyn ichi ddod i ysbyty i gael apwyntiad dilynol gydag ymgynghorydd, rydych chi wedyn yn gorfod aros am gyfnod o amser, yn gorfod chwilio am le parcio yn rhywle, mynd yno a threulio rhan sylweddol o'ch diwrnod, ac yna rydych yn cael pum munud gyda’r clinigydd ac yntau’n dweud, 'Mae popeth yn iawn, diolch yn fawr iawn'. Nid yw hynny'n ddefnydd gwych o amser yr ymgynghorydd hwnnw ac yn aml nid yw'n ddefnydd gwych o amser y dinesydd chwaith. Felly, gellir bod yn llawer mwy effeithlon, mewn gwirionedd, mewn modd sy'n briodol yn glinigol, gan newid y ffordd y mae apwyntiadau dilynol yn digwydd a phwy mae pobl yn mynd i’w gweld.
Ynghylch eich pwyntiau eraill am feysydd eraill o'r rhaglen gofal wedi’i gynllunio, wel, mae’n fater o’r cyngor y byddwn yn ei gael am y nifer cywir o feysydd, ond hefyd gallu'r system i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y meysydd hyn lle mae llawer iawn o weithgaredd. O ran canser, rydym yn gwneud rhagor o waith ar fireinio ein llwybr canser i ddeall sut mae cael y system gywir i gyflwyno'r canlyniadau cywir i'n cleifion.
Mae'n amlwg bod yn rhaid inni gael mwy o ddinasyddion i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn hytrach na thagu ein meddygfeydd â dolur gwddf, er enghraifft, pan allant gymryd moddion eu hunain yn hawdd.
Ond roeddwn i eisiau siarad am yr ymweliadau a gefais gydag Optegwyr Pearce a Bowler ym Mhentwyn, lle mae Clare Pearce a Francesca Bowler wedi treialu cysylltiad delweddu amser real gyda'r ysbyty Iechyd er mwyn galluogi'r ymgynghorydd yn yr ysbyty i weld llygad y claf, a allai fod ag anhwylder macwlaidd neu efallai ddim, a allai fod angen triniaeth frys, neu efallai ddim. Mae'n ymddangos ei fod yn beilot arloesi gwych sy'n galluogi mwy o bobl i beidio â gorfod mynd i'r ysbyty oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol. Rydym eisiau i bobl fynd i'r ysbyty os oes ganddyn nhw gyflwr difrifol sy'n fygythiad i fywyd ac y mae angen ei drin ar unwaith. Felly, credaf fod hynny'n enghraifft wych o arloesedd y gallem fod yn ei wthio, rwy’n gobeithio, mewn rhannau eraill o Gymru.
Yfory yw Diwrnod Gordewdra’r Byd ac mae’n fy nychryn i ddarllen y bydd gordewdra oedolion yn codi o 27 y cant i 34 y cant os na wnawn ni rywbeth yn ei gylch. Mae'n amlwg bod angen i ni newid y sgwrs gyda dinasyddion os ydym yn mynd i atal cwymp ein gwasanaeth iechyd, sydd dan bwysau oherwydd y cynnydd mewn canserau a diabetes a chyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â gordewdra.
Rwy’n croesawu'r adolygiad rhithwir sydd wedi digwydd ar apwyntiadau clun a phen-glin, sydd wedi lleihau'n sylweddol nifer y bobl y mae angen i ymgynghorydd eu gweld. Pan gafwyd bwrlwm o weithgarwch yn ymwneud ag amseroedd aros gormodol am lawdriniaethau ychydig cyn diwedd y toriad, roedd yn amlwg i mi nad oedd Cwm Taf wedi cael problem yn gyson dros nifer o flynyddoedd. Felly tybed sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod arfer gorau, yr ymddengys ei fod yn bresennol yng Nghwm Taf, yn cael ei gyflwyno ar draws gweddill y byrddau iechyd i sicrhau ein bod ni'n gwneud y peth iawn i sicrhau nad yw pobl yn aros am fwy nag sy’n rhaid, a'n bod ni'n dileu ymgynghoriadau diangen o'r system.
Diolch. Credaf fod cwpl o sylwadau a chwpl o gwestiynau a byddaf yn ceisio eu hateb yn brydlon, Dirprwy Lywydd. Ar anhwylder cyffredin, rwy'n credu eich bod chi'n iawn— mae'n bwynt teg i'w wneud—rydym eisiau i bobl fynd i weld y person priodol yn ein system, neu eu bod yn prynu eu moddion eu hunain ac yn gofalu amdanynt eu hunain. Dyna pam mae cyflwyno ein rhaglen fferyllfa gymunedol—y rhaglen Dewis Fferyllfa ar gyfer anhwylderau cyffredin—yn bwysig iawn. Ac rydym yn gwneud cynnydd da iawn—rydym yn sicrhau bod mwy a mwy o fferyllfeydd ar gael i fod yn bwynt cyswllt cyntaf heb orfod cymryd amser meddyg teulu.
Ar y pwynt ynglŷn ag Optegwyr PB ym Mhentwyn, rwy'n teimlo’n llawn cyffro am y cynllun peilot yno gydag optegydd lluosog mawr arall, Specsavers, yng nghanol y ddinas a hefyd yn eich etholaeth chi. Mae gen i ddiddordeb mewn mynd ar ymweliad dilynol â nhw, gan fod model eu treialon wedyn yn cael ei ddefnyddio trwy gyfnod hirach o amser. Felly, rwy'n gobeithio mynd yn ôl dros y flwyddyn newydd ac edrych unwaith eto i weld, ar ôl misoedd o ymarfer, a yw'n llwyddo i gyflawni'r manteision y credwn y gallai ei wneud, i'r clinigwyr yn y naill leoliad a’r llall, ond hefyd, yn bwysig iawn, i’r dinasyddion. Gan dybio ei fod yn gweithio, rwyf wedyn yn awyddus i weld hynny’n cael ei gyflwyno ar draws gweddill y wlad hefyd. Felly, mae'n gynllun peilot gwirioneddol gyffrous i’w ddatblygu.
O ran y pwynt ar ordewdra, fe wyddoch fod Rebecca Evans yn arwain ein strategaeth genedlaethol, i dynnu ynghyd. Rydym yn cydnabod bod ein heriau o ran diet ac ymarfer corff yn heriau gwirioneddol a sylweddol ym mhob maes gweithgaredd, ac mae annog pobl i gynnal pwysau iach a gwneud mwy o weithgareddau yn rhan bwysig iawn o yrru galw allan o'n system. Os na allwn wneud hynny, mae gennym heriau gwirioneddol iawn ynghylch cael gwasanaeth mwy cynaliadwy. Felly, rwy'n edrych ymlaen at allu manteisio ar y gallu i wneud hynny, ac rwy'n optimistaidd ynghylch ble y byddwn ni fel Llywodraeth. Yr her yw hyn: a allwn ni ddarbwyllo'r cyhoedd i wneud mwy o bethau drostynt eu hunain, oherwydd mae o fudd iddyn nhw wneud hynny, ac nid yn unig er mwyn gwneud bywyd yn haws i'r Llywodraeth?
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.