Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 10 Hydref 2017.
Diolch am y cwestiynau. Dechreuaf fel hyn: yr wyf yn dymuno herio’n agored eich honiad bod ysbryd o afrealiti yn y datganiad yr wyf wedi'i wneud. Rwy'n credu mai fy ngwaith yw bod yn gytbwys yn yr hyn yr wyf yn ei ddweud a'i wneud, ac nid wyf yn ymddiheuro am fod yn bositif am yr hyn sydd wedi digwydd, yn bositif am y dyfodol, ac ar yr un pryd yn rhwystredig nad ydym wedi gwneud mwy. Yn fy natganiad, mynegais yn glir iawn fod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Dyna pam yr ydym wedi cael rhaglen gofal wedi'i gynllunio a, sawl blwyddyn ar ôl i ni gyflwyno hynny, nid ydym wedi gwneud digon o hyd, yn fy marn i. A rhan o'r pwynt o ddod â datganiad yma yw bod yn ddidwyll am y ffaith nad yw'r cynnydd a wnaethom yn golygu bod y fargen wedi cael ei gwneud—o bell ffordd.
Rwyf hefyd yn cydnabod—nid yn unig yn y lle hwn, ond yn rheolaidd—bod amrywiadau o fewn byrddau iechyd ac mae amrywiadau ar draws byrddau iechyd ynghylch gweithgarwch, ac mae orthopedeg yn enghraifft dda. Nid yw'r cynnydd a wnaed mewn rhai byrddau iechyd yn cael ei adlewyrchu mewn eraill. Rydych yn gweld her yn y gogledd a gaiff ei gweld yn fwy cyffredinol am y galw cynyddol a sut mae gallu a galw yn cyd-fynd â'i gilydd yn y pen draw, ond mewn gwirionedd mae problem fwy yn y gogledd ac mewn rhannau eraill o'n system. Bu’r rhestrau aros yno yn chwyddo’n uwch nag yn unman arall. Ac nid yw hynny’n fater o finnau’n cario clecs y tu allan i'r ysgol, gan fod y ffigurau yno i'w gweld.
Ac nid wyf yn ceisio esgus nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. I mi, dyna'r cynnydd mewn brys sy’n ofynnol i wersi beidio â chael eu dysgu a'u trafod, ond i gael eu cyflawni’n ymarferol. Nid wyf am barhau i ddod yma ac esbonio pam nad yw rhannau o'n gwasanaeth yn gwneud y cynnydd y mae eraill yn ei wneud hefyd. Mae'n rhaid cael galw priodol, gan glinigwyr eu hunain—dylen nhw fod yn rhwystredig ynghylch ble maen nhw ac am hyd y rhestr o'r bobl sy’n aros i’w gweld, a dylai'r arweinwyr a’r rheolwyr yn ein gwasanaethau fod yn rhwystredig hefyd. A dyna pam yr oeddwn yn wirioneddol glir, yn fy natganiad, ac fe welwch hynny eto yn y fframwaith cynllunio ar gyfer y cynlluniau canolig tymor canolig, fy mod yn disgwyl gweld y rhaglen ofal arfaethedig yn cael ei chyflwyno. Ac nid yw hynny'n mynd i fod yn rhan y gellir ei negodi o'r hyn y mae’r byrddau iechyd ei eisiau. Os ydyn nhw eisiau cael cynllun cymeradwy, rhaid iddyn nhw gynllunio i'w gyflwyno ac yna mae'n rhaid iddyn nhw allu dangos eu bod yn gwneud hynny hefyd.
Yn y gogledd, byddwch chi'n gwybod fy mod yn disgwyl gweld yn fuan y cynllun sydd gan y bwrdd iechyd ar gyfer gwella eu swyddogaeth orthopedig. Rwy’n disgwyl i’r cynllun hwnnw fod yn gadarn ac rwy'n disgwyl iddo weithio, ac os nad ydyw, bydd y sgwrs ychydig yn fwy anodd. Nawr, nid yw hwn yn fater ohonof i yn bygwth sefydliad, dim ond bod yn onest ynglŷn â ble’r ydym ni. Ac mae honno’n sgwrs syml yr wyf wedi'i chael ac a gafodd arweinwyr y system gyda'i gilydd hefyd. Felly nid gêm yw hon; mae hyn yn ddilys ac mae'n ddifrifol, a chredaf ei fod yn wir yn effeithio ar allu a pharodrwydd staff i weithio yn y gwasanaethau hynny hefyd: i wybod bod gwir ddealltwriaeth bod angen gwella.
O ran sut yr ydym yn rheoli ein system i adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, unwaith eto mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn well. Felly, mae rhywbeth nid yn unig am y pwynt dilynol, ond sut yr ydych chi'n gwneud yn siŵr bod ymgynghorwyr a phobl sy'n dweud y byddant yn gweld pobl ar gael. Nid mater ynghylch ymgynghorwyr yn unig ydyw. Mae hynny'n arwain at un o'ch pwyntiau eraill am sut yr ydym mewn gwirionedd yn ymdrin â materion gweithlu ac amseroedd aros. Rydym wedi siarad o’r blaen am Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd wedi dod i fodolaeth o'r diwedd gyda'r cadeirydd wedi dechrau gweithio, a chredaf fod hynny'n wirioneddol gyffrous. Mae gennym y corff cysgodol yn dechrau, gan edrych ymlaen at y ffurfioli a dod i fodolaeth yn statudol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Dylai hynny ein helpu ni i wella ein swyddogaeth wrth gynllunio a deall pwy sydd ei angen arnom, pa nifer, ac ym mha feysydd penodol o staff.
Eto, ni wnaf ymddiheuro am ailadrodd y neges, yn enwedig oherwydd ein bod wedi cael mwy o sgyrsiau cyhoeddus ynglŷn â chyni a'i realiti: os yw cyni yn parhau, bydd yn gyrru gwasanaeth cyhoeddus yn erbyn gwasanaeth cyhoeddus, a gwelwn hynny mewn rhai o'r galwadau a wnaed gan rai actorion yn y maes y tu allan i’r fan hyn. Mewn gwirionedd, er bod cyni yn parhau, mae gennym ddewisiadau ofnadwy i'w gwneud lle nad oes modd i neb ennill. Mae’n ymwneud â sut y byddwn yn gwneud dewisiadau anodd rhwng gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus. Felly, fy neges i'r gwasanaeth iechyd, yn gyhoeddus ac yn breifat yw hyn: mae cyfrifoldeb i ddefnyddio'ch adnodd ychwanegol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn awr ac wrth symud ymlaen. Ac mae hynny yn dod ochr yn ochr â’r galw am gael mwy o staff nag erioed o'r blaen yn ein gwasanaeth, y galw parhaus am fwy o staff—ac ymhob maes arbenigol a phob grŵp lobïo, maent bob amser yn galw am fwy o staff—mewn gwirionedd, yr hyn y mae’n rhaid i ni ei ddeall yw faint yn fwy o staff y credwn sydd eu hangen arnom a faint y gallwn ni ei wneud gyda'r staff sydd gennym eisoes. Oherwydd os ydym yn meddwl am ehangu ein gwasanaethau a'n rhifau fel yr unig ateb, byddwn yn methu rhywbeth priodol yn yr hyn yr ydym ni’n gallu ei wneud. Dyna pam mae neges gofal iechyd darbodus ynghylch gwneud dim ond yr hyn y gallwch chi ei wneud mewn gwirionedd yn bwysig. Dyna pam mae’n bwysig iawn fod pobl yn gweld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, oherwydd gallwn greu mwy o gapasiti i ymgynghorwyr os oes gan wahanol weithwyr gofal iechyd wahanol rannau o'u gwaith y gallant ei wneud hefyd. Dyna pam mae gwaith ffisiotherapi a'r gwasanaeth asesu a thriniaeth gyhyrysgerbydol glinigol mewn gwirionedd yn bwysig. Bydd yn wasanaeth gwell yn aml ar gyfer dinasyddion unigol, byddant yn cael eu gweld yn gyflymach, ac os bydd angen iddyn nhw fynd i weld ymgynghorydd, bydd ansawdd yr atgyfeiriad yn well ac ni fyddwn yn rhoi pobl mewn ciwiau yn ddiangen ar gyfer llawdriniaeth na fyddent efallai ei hangen. Rhaid i hynny fod yn rhan hanfodol o'r hyn a wnawn.
Yn olaf, hoffwn ymdrin â'ch pwynt am ddilyniant ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth. Nid wyf yn dymuno osgoi hyn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwyf wedi cydnabod yn flaenorol nad yw rhai o'n mesurau mewn amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth o reidrwydd yn gwneud synnwyr, nad ydynt yn rhoi'r sicrwydd i ni y buasem ei eisiau oherwydd mai dim ond gweithgaredd ac amser y maent yn ei fesur, ac amser ar bwynt penodol yn unig. Ac ar y pwynt hwnnw, efallai na fydd yn sbarduno’r ymddygiad clinigol iawn. Felly, o ran gofal llygaid, er enghraifft, derbyniais nad yw ein mesurau cyfredol fwy na thebyg yn rhoi'r adlewyrchiad a'r sicrwydd mwyaf posibl inni. Dyna pam mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar gynllun peilot sydd i fod i ddechrau'r hydref hwn mewn dwy ardal bwrdd iechyd—yn ABM ac yn Betsi—gan edrych ar yr hyn y gallem ei wneud i gael cyfres newydd o fesurau i sbarduno ymddygiad clinigol mwy priodol. Yna bydd gennym ddealltwriaeth well o'r risgiau yr ydym yn eu cario yn ein system, a dull nodi priodol sy'n edrych ar apwyntiadau dilynol lle mae'n briodol gwneud hynny’n glinigol. Felly, bydd gennym system y credaf fydd yn gwneud mwy o synnwyr, ond ni fydd yn debyg i system Lloegr. Nid yw hyn yn dweud fy mod i'n newid pyst y gôl er mwyn osgoi cymhariaeth â Lloegr—rwy'n ei wneud oherwydd fy mod yn credu ac rwyf wedi cael fy mherswadio gan yr achos clinigol mai dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y staff ac, yn bwysicach fyth, dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein cleifion.