5. 5. Datganiad: Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:16, 10 Hydref 2017

Mae adroddiad Aled yn cynnig 18 o argymhellion ar gyfer datblygu’r cynlluniau i’r dyfodol. Mi fyddwn ni’n derbyn pob un o’r argymhellion. Mae’r broses hon wedi cynnig gorolwg annibynnol i mi o’r hyn sydd angen ei newid, a sut y gallwn ni weithredu’r newidiadau hynny mewn ffordd gynhwysol. Mae Aled wedi cynnig adolygiad i ni o gynlluniau pob un awdurdod lleol. Ar ddechrau mis Awst, mi wnes i lythyru’r awdurdodau er mwyn rhannu ei sylwadau. Mae fy swyddogion i wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r awdurdodau yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn diwygio, cefnogi a herio’r cynlluniau. Rydym ni yn disgwyl derbyn y cynlluniau diwygiedig o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae adroddiad Aled hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae’r argymhellion yn cynnwys adolygiad o amserlenni’r WESPs i gyd-fynd â rhaglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, yn arbennig y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac y dylid targedu’r buddsoddiad cyfalaf er mwyn sicrhau cysylltiad rhwng rhaglenni ysgolion a chyn ysgol. Yn ail, dylid sefydlu panel neu fwrdd er mwyn trafod a phwyso a mesur y newidiadau sydd eu hangen i’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyn iddynt gael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad. Yn drydedd, cryfhau’r berthynas strategol rhwng llywodraeth leol a Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau twf ar lefel pob sir a fydd yn cyfrannu at dargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar hyd y daith at 2050. Yna, symleiddio proses categoreiddio ieithyddol ysgolion; a chynllunio a gweithredu brys er mwyn cynyddu’r nifer o athrawon sydd yn cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.

Llywydd, un o’r argymhellion oedd sefydlu bwrdd, ac rydw i eisiau symud ymlaen i sicrhau bod yna gynrychiolaeth o bob rhan o’r sector addysg yn rhan o’r bwrdd yma. Rydw i wedi datgan sawl tro na all y Llywodraeth wneud hyn ei hun ac mae angen i bawb sydd â rôl yn addysgu ein pobl ifanc gymryd rhan ar y siwrnai hon.

Mi fydd cynlluniau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ganolog i dwf addysg Gymraeg. Bydd unioni’r wybodaeth sydd o fewn y cynlluniau strategol a cheisiadau busnes ar gyfer pob un awdurdod lleol am gyllid yn sicrhau cysondeb. Rydym ni eisoes wedi sicrhau bod y cylch nesaf o fuddsoddiad cyfalaf yn cymryd ystyriaeth o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr, ac mae cynlluniau drafft cynnar yr awdurdodau lleol yn edrych yn addawol. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: ni fyddaf i’n cymeradwyo dim un cynllun sydd ddim yn dangos uchelgais. Mi fyddaf i’n parhau i drafod gydag awdurdodau lleol hyd nes y byddwn ni wedi derbyn cynlluniau sydd yn adlewyrchu uchelgais ‘Cymraeg 2050’.

Mae’n bwysig nodi bod rhagamcanion poblogaeth ysgolion yn awgrymu y bydd niferoedd yn eithaf statig rhwng y 10 ac 20 mlynedd nesaf, ac felly mi fyddaf i’n gofyn i’r cynlluniau diwygiedig hyn ystyried dulliau arloesol ar gyfer tyfu’r ddarpariaeth. Mi fydd hyn yn gofyn am fwy nac agor ysgolion newydd yn unig. Mi fydd y Llywodraeth, gyda chymorth ac arweiniad y bwrdd, hefyd yn archwilio opsiynau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ieithyddol er mwyn cynnig gwell eglurder ar natur y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn ein hysgolion ni.

Sialens amlwg arall fydd sicrhau niferoedd digonol o fewn ein gweithlu addysg er mwyn cwrdd â’r cynnydd yr ydym ni’n anelu at ei weld. Mi ddaru’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg gyhoeddi rhai wythnosau yn ôl ei bwriad i fuddsoddi £4.2 miliwn o’r gyllideb addysg i ddatblygu gweithlu sydd â’r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd hyn yn cynnwys ehangu ar y cynllun sabothol—£1.2 miliwn—ac ehangu rôl y consortia addysg gyda £2 miliwn.

Felly, er ein bod ni wedi cychwyn ar ein taith i weithredu’r newidiadau angenrheidiol i weld twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, nid oes gen i ddim amheuaeth bod angen gwneud mwy. Mae’n rhaid i ni ddeddfu i gryfhau ac mae’n rhaid i ni edrych mewn mwy o fanylder ar y strwythurau presennol, rôl y consortia a sut ydym yn datblygu dulliau clir ac effeithlon o adnabod y galw am addysg Gymraeg.

Llywydd, yn unol â’n hymrwymiad i ymateb i’r sialensiau uchelgeisiol yr ydym yn eu hwynebu yn yr hirdymor i sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, mi fyddaf i fel Gweinidog yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn gweithio i Gymru gyfan. Diolch yn fawr.