Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 10 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ategu’r diolch ar y record—ac rydw i’n siŵr ein bod ni wedi diolch yn y gorffennol—i Aled Roberts am ei waith ar y cynlluniau strategol yma?
Rŷch chi’n dechrau eich datganiad drwy ddweud bod y cynlluniau wedi gosod sylfaen gref ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg. Wel, nid wyf eisiau anghytuno â chi yn y frawddeg gyntaf, ond yn amlwg mae yna bobl wedi cwestiynu a ydyn nhw wedi bod yn ddigon cryf, ac mae’r ffaith ein bod ni lle rydym ni nawr yn awgrymu i mi nad ydyn nhw. Nid oes ond yn rhaid edrych ar y ‘critique’ gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, er enghraifft, ar rai o’r cynlluniau unigol i ddangos bod yna achos mawr am gonsýrn. Ond mae pethau’n gwella o fan yna ymlaen, Gweinidog, mae’n rhaid i mi ei ddweud, ac rydw i’n cytuno â chi bod yn rhaid addasu a moderneiddio nawr y ffordd rydym ni yn cynllunio.
Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud nid dim ond rôl i’r Llywodraeth yw hon. Mae’r awdurdodau lleol, y byrddau llywodraethwyr, y prifathrawon, y rhieni, y plant eu hunain, a’r gymuned yn ehangach, wrth gwrs, â rôl bwysig i’w chwarae. Ond y Llywodraeth sydd yn gorfod dangos yr arweiniad. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos arweiniad cryf, arweiniad dewr, arweiniad diwyro, er mwyn sicrhau bod y gweddill yn dilyn. Heb hynny, yna rydw i yn ofni y byddwn ni’n cychwyn o fan o wendid. Mae gen i ffydd y byddwch chi’n gwneud hynny fel Gweinidog, ond, yn amlwg, byddwn ni’n pwyso arnoch chi i sicrhau bod hynny yn digwydd.
Nawr, rydw i’n croesawu’n fawr y ffaith eich bod chi’n derbyn y 18 o argymhellion yn adroddiad Aled Roberts. Ond, fel rŷch chi’n gwybod, wrth gwrs, nid derbyn yr argymhellion yw’r prawf, ond y modd yr ydym ni i gyd yn ymateb i’r argymhellion hynny ac yn gweithredu yn sgil yr argymhellion hynny.
Rŷch chi’n dweud na fyddwch chi’n cymeradwyo’r un cynllun nad yw’n dangos uchelgais, ac ni allaf anghytuno â chi. Ond y cwestiwn sydd gyda fi fan yna yw: beth yw’r ffon fesur y byddwch chi’n ei defnyddio i benderfynu a oes yna ddigon o uchelgais neu beidio? Beth yw uchelgais? Achos mae uchelgais mewn un rhan o’r wlad yn amlwg yn mynd i fod yn wahanol i uchelgais mewn rhan arall o’r wlad, ac mae hynny’n bwysig oherwydd, er mwyn i ni allu eich dal chi i gyfrif, er mwyn i chi fod yn atebol, er mwyn tryloywder hefyd, mae’n rhaid i ni ddeall beth yw eich diffiniad chi o uchelgais. Rydw i’n gwybod nad yw’r argymhellion ddim yn argymell targedau penodol i wahanol rannau o’r wlad. Yr unig gyfeiriad, rydw i’n credu, i dargedau yw i edrych ar dargedau meini prawf sy’n cyfeirio at sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i oriau ysgol. Nawr, byddem ni’n leicio clywed sut, efallai, y bydd rheini’n cael eu creu, ond mae angen yr eglurder yna ynglŷn â beth yw uchelgais. Ac, a dweud y gwir, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl hefyd, oherwydd liciwn i gael eglurder gennych chi prynhawn yma ynglŷn â’r targed mwy cyffredinol o safbwynt nifer y siaradwyr: a ydy’r targed sy’n dod o ‘Cymraeg 2050’ ar gyfer y ganran o blant saith oed sy’n derbyn addysg Gymraeg wedi cymryd lle y targed o strategaeth 2010? Oherwydd roedd strategaeth 2010 yn dweud y dylai 30 y cant o ddisgyblion saith oed dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020, ond mae strategaeth ‘Cymraeg 2050’ yn dweud y dylai 30 y cant gael ei gyrraedd erbyn 2031. Felly, byddwn i’n licio bach o eglurder ynglŷn ag yn union pa darged rydym ni’n gweithio tuag ati.
Mae cyfeiriad wedi’i wneud yn barod at y blynyddoedd cynnar, wrth gwrs, sydd yn gwbl, gwbl allweddol, oherwydd os ydym ni’n colli ein pobl ifanc ni yn y blynyddoedd cynnar yna, yna mae’n bosib, neu’n fwy tebygol, yn sicr, y byddwn ni wedi colli ein gwir iaith am byth. Mae’r cynnig gofal plant yn gwbl ganolog i hyn, ac, yn y cytundeb ar y gyllideb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wrth gwrs, rŷm ni wedi sicrhau y bydd yna ariannu ychwanegol i Mudiad Meithrin, a byddwn ni’n edrych ymlaen i drafod gyda chi sut y gallwn ni sicrhau bod hwnnw’n cyfrannu at yr uchelgais rŷm ni’n rhannu fan hyn o safbwynt cynyddu niferoedd y plant sydd yn cael gofal plant ac addysg cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg.
Rŷch chi’n sôn am yr angen i symleiddio’r broses gategoreiddio, a byddwn i’n cytuno â hynny, oherwydd nid oes gen i ddim ffydd bod y broses gategoreiddio ar hyn o bryd yn ddigon ystyrlon. Mae yna ysgolion yn yr un categori yn yr un sir sydd yn gwbl wahanol o safbwynt eu naws a’u hanian ieithyddol, ac felly mae angen mynd i’r afael â hynny. Ond fel rhywun, wrth gwrs, sydd â phrofiad—a byddwn i’n datgan budd fel llywodraethwr ar ysgol gynradd fan hyn lle mae yna frwydr wedi bod—mae’n rhaid i ni, yn yr hinsawdd sydd ohoni, ac yng nghyd-destun yr uchelgais mae’r Llywodraeth yn ei ddangos, beidio â bod mewn sefyllfa lle mae yna ysgol mewn un categori iaith yn mynd i gael ei israddio i gategori arall yng nghyswllt neu yng nghyd-destun ad-drefnu. Felly, mae’n rhaid gwarchod rhag hynny.
Rŷch chi’n cyfeirio at rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, wrth gwrs, ac mae hynny’n sefyll i reswm. Rŷch chi’n dweud eich bod chi eisoes wedi sicrhau bod y cylch nesaf o fuddsoddiad cyfalaf yn cymryd ystyriaeth o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr. Efallai y gallwch chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â hynny: sut yn union ydych chi’n gweld hynny’n digwydd, a pha sicrwydd sydd yna y bydd hynny’n digwydd?
Jest i orffen, ac i bigo i fyny ar y pwynt wnaethpwyd ynglŷn â’r ffaith eich bod chi’n dweud bod yn rhaid i ni ddeddfu i gryfhau, rydw i’n deall y bwriad i newid y fframwaith ddeddfwriaethol, rydw i’n deall y bydd y panel neu’r bwrdd yn pwyso a mesur y newidiadau. A ydych chi’n rhoi canfas wag lwyr i’r bwrdd yma, neu a ydych chi’n gweld ef yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth bresennol yn unig? Mae eisiau eglurder, rydw i’n credu, ynglŷn â, yn amlwg, deddfu o gwmpas cynlluniau strategol, a bydd categoreiddio’n dod i mewn i’r cyd-destun hynny, ac yn y blaen—jest efallai bach mwy o gig ar yr asgwrn yna. Rydw i’n gwybod hefyd eich bod chi wedi cyffwrdd â’r amserlen, ac rydw i’n deall, yn amlwg, eich bod chi am glywed barn y bwrdd neu’r panel ac yn y blaen cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol, ond mi oedd argymhelliad Aled Roberts yn sôn y dylid deddfu erbyn y cylch nesaf o gynlluniau, neu cyn hynny os yn bosib. Felly, byddai cadarnhad ei bod hi’n fwriad i sicrhau deddfwriaeth cyn y cylch nesaf yn rhywbeth y byddwn i’n ei groesawu. Diolch.