Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 10 Hydref 2017.
Llywydd, liciwn i ddechrau drwy hefyd ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei ymateb adeiladol i’r datganiad yma ac i’r ffordd rydym ni’n datblygu polisi yn y maes. Mi wnes i ddefnyddio’r gair ‘sylfaen’, wrth gwrs, fel ffordd o ddechrau—nid yw’n ddiwedd ar y broses. Nid ydych yn bennu’r tŷ gyda’r sylfaen, ond mae’n bwysig inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen. Dyna beth rwyf wedi trio ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy’n deall y pwynt rŷch chi’n ei wneud amboutu’r Llywodraeth yn dangos arweinyddiaeth. Rwyf hefyd yn gwybod y buasech chi’n deall ‘A fo ben bid bont’, achos mae’n bwysig ein bod ni’n symud ymlaen yn cydweithio â phobl.
Rwy’n edmygu cynghorwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud, ac rwy’n edmygu’r ffordd y mae cynghorwyr yn delio â’r heriau gwahanol y maen nhw’n eu hwynebu yn eu hardaloedd gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod bod cynghorwyr yn gwybod yn well nag ydym ni fan hyn yn y bae, ac mae hynny’n meddwl bod yn rhaid inni gael perthynas lle rydym yn parchu ein gilydd, a’n bod ni’n cydweithio â’n gilydd. Dyna beth rydw i wedi bod yn trio ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Drwy wneud hynny, rwy’n mawr obeithio bod y Llywodraeth yn dangos gwir arweinyddiaeth, ac arweinyddiaeth sy’n dod o eistedd i lawr, siarad a thrafod, ac nid dadlau yn y papurau. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi'r math yna o arweinyddiaeth.
Ar y cwestiwn mwyaf difyr rwyf wedi’i glywed rhywun yn gofyn i mi ers sbel yn y Siambr yma—sut ydw i’n diffinio uchelgais—nid wyf yn gwybod yr ateb, ond rwy’n gwybod bod yr uchelgais sydd gen i ar gyfer Blaenau Gwent yn wahanol iawn i’r uchelgais sydd gennych chi yn sir Ddinbych. Rwy’n credu bod angen inni gydnabod lle mae’r sefyllfa a’r cymeriad ieithyddol yn wahanol yn rhannau gwahanol o’r wlad, a dechrau drwy gydweithio â rhieni a’r cymunedau i sicrhau ein bod ni’n symud yn yr un cyfeiriad i sicrhau bod yna fwy o Gymraeg a mwy o gyfle i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg Gymraeg, ac i wneud hynny drwy gytundeb. Felly, yr uchelgais sydd gen i yw ein bod ni’n gallu symud ymlaen drwy gytundeb i ehangu addysg Gymraeg ym mhob un rhan o’r wlad.
Beth sydd ddim yn dderbyniol yw nad ydym yn cynllunio ar gyfer tyfiant yn unrhyw le—nid yw hynny’n dderbyniol. Felly, mae’n rhaid cael tyfiant, a bydd y fath o dyfiant yr ŷm ni eisiau ei weld, a’r cyfnod yr ydym eisiau gweld y tyfiant hynny ynddo, yn dibynnu ar natur ieithyddol, rwy’n meddwl, y gymuned leol a natur yr arweinyddiaeth sydd gennym ni’n lleol. Mae gen i uchelgais am y ddau beth.
Mi fyddwn ni yn gosod targedau, achos mae’r llwybr yr ydych chi wedi’i ddisgrifio yn un pwysig. Y targed sydd gennym ni yw’r targed y gwnes i ei gyhoeddi yn yr haf, nid y targedau blaenorol. Y targedau presennol yw’r targedau yr ydym ni’n gweithio atyn nhw. Rwy’n credu bod yn rhaid imi gyhoeddi’r llwybr mwy manwl yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn dangos y llinyn mesur, a hefyd y targedau a’r amcanion sydd gennym ni ar gyfer y daith yr ŷm ni’n ei hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rwy’n gobeithio, Llywydd, y bydda i’n gallu gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn.
Gyda’r materion eraill rydych chi wedi cyffwrdd â nhw yn eich cyfraniad, rwy’n cytuno â chi ar y pwyntiau rydych chi wedi’u gwneud amboutu’r Mudiad Meithrin—sefydliad Cymraeg sy’n gwneud gwaith hanfodol o bwysig nid jest i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ond i sicrhau lle’r Gymraeg yn ein cymunedau ni. Rwy’n edmygu’r gwaith y mae’r mudiad yn ei wneud reit ar draws y wlad, ac rwy’n falch iawn ein bod ni wedi dod i gytundeb i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ariannu hynny a chefnogi gwaith y Mudiad Meithrin.
Hefyd, pan mae’n dod i’r cynllun gofal plant, rwy’n mynd i gyfarfod yr Ysgrifennydd Cabinet i drafod hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld ffigurau mwy manwl o argaeledd gofal plant yn y Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut ydym ni’n datblygu’r sefyllfa. Rwy’n cymryd na fydd pob man lle’r ŷm ni eisiau iddo fod. Nid wyf wedi gweld y ffigurau eto, ond, pan rwy’n gweld y ffigurau, bydda i’n gweithio gyda Carl Sargeant i sicrhau ein bod ni’n gweld y math o gynnydd y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld, sy’n mynd yn ôl, wrth gwrs, at y cwestiwn yr oedd Darren Millar yn ei ofyn amboutu ysgolion meithrin.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwneud datganiadau ar y rhaglen cyfalaf, ac mi fydd hi’n dod yn ôl i’r Siambr i wneud datganiad arall ar hynny. Beth rwy’n gallu ei ddweud y prynhawn yma yw ein bod ni’n cydweithio’n agos iawn ar hynny, ac mi fydd gennym ni’r fath o raglen o’n blaenau ni fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau ni. Ac mi fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiadau ar hynny maes o law.
Roedd y cwestiwn olaf amboutu deddfwriaeth a rôl y bwrdd. Pan rwy’n gofyn i bobl wneud y gwaith yma, rwy’n dweud wrthyn nhw i ddilyn eu trwynau a gweld ble mae hynny’n eu harwain. Mi fydd yna gymysgedd, siŵr o fod, o ddeddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth, a bydd yn rhaid inni weld ble y mae hynny’n ein harwain ni. Os ydym yn sôn amboutu newid is-ddeddfwriaeth, mae’n bosibl y byddwn ni yn gallu gwneud hynny cyn bod y rownd nesaf o WESPs yn dod i mewn, a liciwn i symud mor glou â phosibl ar hynny. Os ydym ni’n newid y gyfraith, wrth gwrs, mi fydd hynny’n cymryd mwy o amser. Ond, ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi gwneud y gwaith. Liciwn i adael i’r bwrdd wneud y gwaith, a rhoi tudalen wag iddyn nhw er mwyn iddyn nhw wneud hynny, ac unwaith maen nhw’n dod yn ôl gydag adroddiadau, mi fyddwn ni mewn sefyllfa i wneud datganiad arall i’r Siambr a hefyd datganiad ar sut rydym yn gweld yr amserlen yn datblygu.