Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 10 Hydref 2017.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy siarad am yr asesiadau anghenion poblogaeth, ac maen nhw wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth nodi rhai themâu craidd, rwy'n credu, sy'n berthnasol i’r holl asesiadau anghenion poblogaeth hynny. Gwelwyd yn glir iawn bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o'r meysydd penodol hynny sy’n gyffredin i’r holl asesiadau anghenion poblogaeth hynny, ond mae tlodi ac amddifadedd, pwysigrwydd annibyniaeth i bobl, a phwysigrwydd meithrin gwytnwch mewn unigolion a chymunedau, mae nhw wedi eu hamlygu fel themâu o ran y ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r anghenion a nodwyd yn yr asesiadau anghenion poblogaeth hynny. Mae'r asesiadau anghenion eu hunain yn ymwneud ag wyth thema graidd: plant a phobl ifanc, iechyd pobl hŷn, anableddau corfforol, anableddau dysgu ac awtistiaeth, iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau, gofalwyr sydd angen cymorth, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref a thrais rhywiol. Felly, rwy'n credu eu bod yn rhoi darlun clir a chadarn iawn inni ynghylch anghenion y gwahanol grwpiau amrywiol hynny o bobl, ledled y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny. Fy mwriad yw cyhoeddi asesiad anghenion poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar yr hyn a ddaeth i’r amlwg o’r asesiadau anghenion poblogaeth ar lefel ranbarthol, oherwydd y buon nhw mor ddadlennol ac mor ddiddorol, felly rwyf wedi gofyn i Ofal Cymdeithasol Cymru ymgymryd â'r darn hwnnw o weithio gyda golwg ar adrodd ym mis Tachwedd. Dyna'r nod: adrodd ar y dyddiad hwnnw.
O ran sut y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dod i gytundeb o ran cyfuno cyllidebau a faint y maent yn ei gronni o fewn y cyllidebau hynny, ac a oes ganddynt ddigon i ddiwallu anghenion y bobl y maen nhw wedi eu nodi trwy eu hasesiad anghenion poblogaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau statudol o dan Ran 9 o'r Ddeddf, sy'n rhoi canllawiau cam wrth gam bron iawn ynglŷn â chyllidebau cyfun. Er enghraifft, mae'n cychwyn gydag asesiad anghenion poblogaeth, ond yna mae'n symud ymlaen i gytuno ar ddatganiad sefyllfa marchnad integredig briodol a strategaeth gomisiynu fel canlyniad i hynny, a chytuno ar gontractau a manylebau cyffredin, a datblygu ffordd integredig o fynd ati i gytuno ar ffioedd gyda darparwyr, a ffordd integredig o sicrhau ansawdd, gan sicrhau tryloywder bob amser hefyd. Felly, dylai'r camau hynny ar hyd y ffordd arwain at sefyllfa pan mai’r dilyniant naturiol nesaf yw cyllidebau cyfun, ac y cânt eu cyfuno mewn ffordd ddeallus sy’n caniatáu digon o adnoddau er mwyn diwallu'r anghenion hynny hefyd. Felly, mae'r camau hynny wedi eu hamlinellu mewn canllawiau statudol.
Fe wnaethoch ofyn hefyd sut y gallwn ni sicrhau bod y Gronfa Gofal Integredig yn caniatáu arloesi, a dyna un o'r rhesymau dros sefydlu’r Gronfa yn y lle cyntaf, er mwyn rhoi caniatâd, os mynnwch chi, i bobl sy'n gweithio yn y sector ac i arweinwyr ym maes iechyd a chymdeithasol, i roi cynnig ar bethau gwahanol ac i wneud pethau'n wahanol. Mewn gwirionedd, sefydlwyd y Gronfa Gofal Integredig i annog arloesi, ac a dweud y gwir, roedd hi’n iawn os nad oedd pethau'n gweithio; fe allem ni ddysgu oddi wrth hynny cymaint ag yr ydym yn dysgu o bethau sydd yn gweithio. Felly, mae arloesi wedi bod yn rhan ganolog iawn o hynny erioed, ac mae yna rai enghreifftiau gwych, wrth gwrs. Efallai eich bod yn ymwybodol o Dîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolradd Sir Benfro, PIVOT, sydd wedi defnyddio £160,000 o gyllid eleni i gefnogi’r agwedd o ryddhau pobl yn amserol ac yn effeithiol o'r ysbyty, a hefyd i wella cyfleoedd i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Hyd yn hyn, yn y flwyddyn ariannol hon, mae 1,320 o ddiwrnodau gwely wedi'u rhyddhau a 132 o dderbyniadau i ysbytai wedi eu hosgoi, ac fe gafodd 80 o bobl eu rhyddhau gyda’r cynnig o gymorth dilynol dim ond yn rhan o’r prosiect penodol hwnnw hefyd. Felly, mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd, a phobl yn meddwl mewn ffordd wahanol iawn.
O ran cynllunio gweithlu, unwaith eto mae hyn yn rhywbeth y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymwneud llawer iawn ag ef o ran eu cyfrifoldebau newydd a helaethach o ran datblygu a goruchwylio'r gweithlu yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio'n agos iawn o fewn y sector a chyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd.
Yn olaf, soniasoch am y sector gofal preifat hefyd, a sut yr ydym ni’n sicrhau ein bod yn cydnabod y partneriaid pwysig sy’n rhan o hyn i gyd. Wel, mae rheidrwydd ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, drwy'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i gael cynrychiolydd o'r sector annibynnol ar bob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, fel y gallant hwythau roi eu safbwynt unigryw i'r byrddau hynny hefyd.