Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith fy mod wedi crybwyll thema fy nghwestiwn sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon, gan y credaf ei fod yn sylfaenol bwysig os ydym am ehangu economi Cymru. Yn ddiweddar, clywsom y feirniadaeth ynglŷn â lefelau grantiau, yn hytrach na benthyciadau, y mae’r Llywodraeth wedi eu rhoi i gwmnïau ers 2010, ynghyd â’r honiadau ei bod wedi rhoi benthyciadau i gwmnïau a aeth i’r wal wedi hynny. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn y sector risg uchel wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â darparu’r arian hwn, boed ar ffurf grantiau neu fenthyciadau, gan ei bod yn ffaith ei bod yn ceisio llenwi’r bylchau lle y mae banciau’r stryd fawr wedi gwrthod cymryd rhan. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, er gwaethaf rhai problemau anochel, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn y sector busnes? Ac rwy’n addo peidio â sôn am gylchffordd Cymru yma.