Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 11 Hydref 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru—busnesau sy’n darparu cyfleoedd gwaith i ddegau a channoedd o filoedd o bobl yn ein cymunedau? Mae ein cymorth ers 2011 wedi darparu gwaith i 185,000 o bobl. Yn nhymor y Cynulliad diwethaf, cafodd 150,000 o swyddi eu creu a’u cefnogi gennym drwy helpu busnesau i dyfu ac i ehangu. Ac mae’r Aelod yn nodi’r pwynt pwysig ynglŷn â methiant busnesau. Wel, credaf fy mod wedi dweud hyn yn y Siambr o’r blaen, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau eto gyda’r data, fod cyfran y cwmnïau a fethodd yn is ymhlith y rhai yr oeddem wedi eu cefnogi nag yn yr economi yn ei chyfanrwydd. Credaf fod hynny’n dangos, er y bu colledion ac er y bu methiannau, ar y cyfan, fod ein cefnogaeth wedi gweithredu fel galluogydd twf yn yr economi. Ac o ganlyniad i hynny, gallwn ddweud gyda rhywfaint o hyder bellach fod gennym gyfradd ddiweithdra isel a pharhaus sy’n llawer is na’r hyn a welsom yn y 1990au ac ar ddechrau’r 2000au, ac mae hynny o ganlyniad i fynd ar drywydd pob cyfle i dyfu’r economi a chreu swyddi.