Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 11 Hydref 2017.
Ar 7 Gorffennaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrthyf mewn ateb ysgrifenedig nad oeddech yn credu bod gweision sifil yn gysylltiedig â datgelu’r wybodaeth hon, a chredaf fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi cadarnhau hynny bellach. Ar 14 Awst, fe ddywedoch wrthyf eich bod yn fodlon nad cynghorwyr arbennig oedd yn gyfrifol am ddatgelu’r wybodaeth hon. Nid yw hynny’n gadael llawer o bobl ar ôl i’w hamau, Ysgrifennydd y Cabinet, felly a gaf fi ofyn hyn yn syml: a ydych yn gwybod pwy ddatgelodd y wybodaeth?