Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 11 Hydref 2017.
Na, a beth am y cwmni ei hun? Buaswn yn dweud wrth yr Aelod fy mod yn cydnabod, o gofio’i ddiddordeb anarferol yn y mater hwn dros amser hir, ei fod wedi’i glwyfo’n bersonol gan y canlyniad, gan ei fod wedi mentro ei holl hygrededd ar y prosiect penodol hwn. Ac ar ôl cyflawni’r tro pedol mwyaf ers dechrau datganoli yr wythnos diwethaf, rydych wedi dinistrio eich hygrededd ar yr economi. Bythefnos yn ôl, roeddech yn ysgrifennu at arweinydd pob awdurdod lleol yn eu hannog i gefnogi’r cynllun penodol hwn—