Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 11 Hydref 2017.
Un budd i’m rhanbarth i, wrth gwrs, yw bargen dinas-ranbarth bae Abertawe, a fydd yn dod â £1.3 biliwn i’r economi, os yw’n llwyddiant, a chredaf fod hynny’n fater o ddiddordeb i chi fel Ysgrifennydd yr economi, yn ogystal ag i’r Ysgrifennydd dros lywodraeth leol, wrth gwrs. Fel y llynedd, rydym wedi treulio sawl mis yn ceisio cynnull cyfarfod rhwng Aelodau’r Cynulliad a’r bwrdd gweithredu, er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf a gweld sut y gallem helpu, fel Aelodau’r Cynulliad, ond clywsom yr wythnos diwethaf fod y trefniadau llywodraethu ar gyfer y fargen ddinesig yn dal i fod heb eu cwblhau eto. Cyn ein cyfarfod, a allwch gadarnhau erbyn pryd yr ydych chi a’r Ysgrifennydd dros lywodraeth leol yn disgwyl i’r trefniadau llywodraethu hynny fod wedi eu cwblhau?