Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Hydref 2017.
Cyn gynted â phosibl. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn a all Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol hefyd fod yn rhan o’r broses o ddylanwadu a chraffu ar waith y dinas-ranbarthau a’r rhanbarthau twf. Credaf fod yn rhaid i Aelodau etholedig yn y ddwy Senedd ac ar lefel leol gael lleisio eu barn yn deg ynglŷn â pha brosiectau a ddylai gymryd rhan fel rhan o’u bargeinion hwythau. O’n rhan ninnau, rydym yn pwyso’n galed i sicrhau bod pob un o’r bargeinion yn drawsnewidiol a’u bod yn buddsoddi mewn blaenoriaethau strategol sydd uwchlaw rhagfarnau plwyfol a sefydliadol, ac yn canolbwyntio ar economïau’r rhanbarthau yn y dyfodol, yn hytrach na buddiannau unigol.