Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwy’n falch iawn o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn curo ar ddrws agored o ran yr awydd i goffáu’r emynydd enwog iawn hwn o Gymru. A gaf fi awgrymu i chi y gallai cerflun yma ym Mae Caerdydd fod yn deyrnged addas i ddathlu’r arwr cenedlaethol hwn, ac ochr yn ochr ag ef, efallai, cerflun o Ann Griffiths, yr emynydd benywaidd enwog o Gymru, sydd hefyd yn gysylltiedig â hanes anghydffurfiaeth yma yng Nghymru? Credaf y byddai cerflun o’r ddeuawd anhygoel hon, sy’n ysbrydoliaeth ryfeddol hyd yn oed heddiw, yn deyrnged deilwng i’r ddau ohonynt. Ac wrth gwrs, gydag eleni’n drichanmlwyddiant, ni allaf feddwl am ffordd well o nodi’r achlysur arbennig hwn.