Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Hydref 2017.
Wel, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Byddai’n wych cael cerflun o Ann Griffiths hefyd. Efallai fy mod yn anghywir, efallai y byddai’r Aelodau’n dymuno fy nghywiro, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gerflun o fenyw yng Nghymru, yn unman yn ein gwlad, ac mae hynny’n rhywbeth y dylem resynnu ato’n fawr. Buaswn yn annog yr Aelod i siarad gyda fy swyddogion—fe drefnaf hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn nodi partner cyflawni a allai gyflawni hyn, ond buaswn yn fwy na pharod i ystyried ariannu cynnig o’r fath drwy’r un ffynhonnell ariannu ag a gynorthwyodd i ddathlu Dylan Thomas a Roald Dahl.