<p>Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:10, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno â’r Aelod. Credaf fod defnyddio Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd bwysig o asesu’r gwahanol opsiynau ger ein bron. Ymddengys i mi fod y tri llwybr i liniaru tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd yn cynnig eu hunain i ddull o’r fath, a byddai’r dadansoddiad cymharol hwnnw, gan fod angen inni wneud rhywbeth, yn ddefnyddiol iawn tu hwnt.