Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Hydref 2017.
Yn hollol. Fel y dywedaf, ceir sawl enghraifft o sut yr ydym yn llunio polisi yng ngoleuni Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Ni allaf roi sylwadau ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r M4, gan fod gennym weithdrefnau statudol ar waith, ond rwy’n croesawu’r ffaith bod y comisiynydd yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â ffordd liniaru’r M4. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod pob rhanddeiliad a phob unigolyn yng Nghymru yn cael lleisio barn ar yr hyn sydd, rwy’n cydnabod, yn gynnig dadleuol, ond un y credwn ei fod yn angenrheidiol er mwyn rhyddhau economi de Cymru.