Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Hydref 2017.
Credaf fod yr Aelod yn nodi mater pwysig yma. Mae’n peri pryder i mi ddarllen bod yr Adran Drafnidiaeth yn disgwyl y bydd diddymu’r doll yn cynyddu traffig rhwng 28 a 45 y cant dros y 10 mlynedd nesaf, ac mae’r arbedion o £1,400 y flwyddyn i gymudwyr yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn tyrru i Gaerdydd mewn ceir pan nad oes gennym atebion amgen ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes £1,400 wedi’i ddarparu i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau, ac rydym yn sôn am rywbeth a allai droi ein prifddinas yn hunllef mewn gwirionedd.