<p>Diddymu Tollau Pontydd Hafren</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:20, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ac am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio trafnidiaeth mewn modd cyfannol ac nad ydym yn ystyried dulliau trafnidiaeth ar eu pen eu hunain, ond fel rhan o becyn cyffredinol o ymatebion i fyd sy’n fwy a mwy symudol. Credaf mai’r ffigur, pe baem yn gosod capasiti’r metro ar ei uchaf—y ffigur uchaf y gallem gael gwared arno oddi ar yr M4 fyddai oddeutu 4 y cant o’r traffig presennol. Fe gywiraf fy hun os yw’r ffigur hwnnw’n anghywir. Ond y ffaith amdani yw bod angen inni sicrhau bod yr M4 yn addas at y diben wrth i’r tollau gael eu diddymu. Pan adeiladwyd yr M4, roedd yn ffordd osgoi yn hytrach na thraffordd. Mae angen gwneud gwaith brys arni. Ond rwy’n aros am ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol cyn gwneud penderfyniad.