<p>System Gyfiawnder Unigryw</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:41, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwn mai uchelgais Llywodraeth Cymru yw cael system gyfiawnder ar wahân yng Nghymru. Mae Cymru wedi cael ei hymgorffori mewn awdurdodaeth ymdoddedig ers 600 mlynedd, ac mae ei hanes yn wahanol iawn, felly, i hanes yr Alban ac Iwerddon, gan gynnwys Gogledd Iwerddon. Ac er ei bod yn bosibl y bydd adeg pan fydd yna wahaniaethau sylweddol rhwng y gyfraith fel y caiff ei chymhwyso yng Nghymru ac yn Lloegr, rydym yn bell iawn o hynny ar hyn o bryd, ac felly byddai’n bwysig camu ymlaen yn araf yn hyn o beth os ydym am gadw costau’r gyfraith yn gymesur. Ac yn benodol o ran rheoleiddio’r proffesiwn cyfreithiol, a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn sicr yn rhy gynnar i feddwl am hollti’r broses o reoleiddio cyfreithwyr neu aelodau o’r Bar—ac rwy’n datgan buddiant fel aelod o’r Bar fy hun, yn hyn o beth—oddi wrth yr un sy’n bodoli ar hyn o bryd yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr?