5. 5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: ‘Tawelu'r traffig: Effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau’

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:51, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Pan fyddwn yn sôn am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn bennaf rydym yn sôn am fysiau. Teithiau bws yw dros 80 y cant o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond dros y degawd diwethaf, mae gwasanaethau bws wedi gostwng bron i hanner. Os edrychwn ar y ffigurau rhwng 2005 a 2016 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, maent yn dangos i ni fod nifer y teithwyr wedi gostwng oddeutu 20 y cant. Yn ddiddorol, mae hyn yn cymharu â chynnydd o tua 1 y cant mewn amseroedd teithio yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod.

Mae cyflymder cyfartalog bysiau yng Nghymru yn dirywio’n gynt nag unrhyw ddull arall o deithio, ac mae amseroedd teithio a chyflymder arafach, wrth gwrs, yn gwneud teithio ar y bws yn ddewis llai deniadol i gwsmeriaid. Rwy’n awgrymu bod y gostyngiad mewn cyflymder yn cael ei achosi gan dagfeydd ar y ffyrdd yn ein trefi a’n dinasoedd ond hefyd mewn mannau allweddol lle y ceir problemau mewn ardaloedd gwledig yn ogystal. Yn sicr, nid wyf yn credu mai mater trefol yn unig yw hwn. Mae’n cynyddu amseroedd teithio, yn gwneud teithiau bws yn annibynadwy, yn cynyddu costau gweithredu a chostau teithio, ac yn tanseilio hyder teithwyr. Ac wrth gwrs, mae’n cadarnhau canfyddiadau negyddol ynglŷn â’r bws. Mae arbenigwr blaenllaw ar dagfeydd, yr Athro David Begg, wedi dweud bod tagfeydd traffig yn glefyd a fydd, os nad eir i’r afael ag ef, yn dinistrio’r sector bysiau.

Yn wyneb tagfeydd, mae gweithredwyr bysiau’n cael eu gorfodi i ymateb mewn un o ddwy ffordd: ceisio cynnal amlder y gwasanaeth gyda’r cynnydd cysylltiedig mewn costau neu weithredu llai o wasanaethau. Mae ein gwasanaethau bws yn cludo pobl i’r gwaith ac i addysg, yn cysylltu cymunedau, yn cefnogi ein heconomi ac yn helpu i wneud ein gwlad yn fwy gwyrdd drwy leihau nifer y ceir preifat ar ein ffyrdd. Maent yn achubiaeth i oddeutu chwarter cartrefi Cymru nad oes ganddynt gar at eu defnydd ac i’r rheini nad yw’r rheilffyrdd yn ddewis ymarferol iddynt.

Mae gwasanaeth bws sy’n ateb y gofyn yn cefnogi twf economaidd, ond mae ganddo hefyd amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Mae bysiau’n rhan o’r jig-so a fydd yn ein helpu i wireddu uchelgais, rwy’n credu, nifer o ddeddfwriaethau allweddol a basiwyd yma: ein hymrwymiadau i leihau carbon o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, y newid i deithio cynaliadwy a gefnogir gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a gweithio tuag at y nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr ydym yn ei ystyried heddiw yn nodi ein barn ar y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd ar fyrder i fynd i’r afael â’r effaith andwyol y mae tagfeydd yn ei chael ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Cafwyd enghreifftiau o fuddsoddiad sylweddol yn y diwydiant. Mae ansawdd cerbydau’n gwella ac mae deddfwriaeth ar waith i gefnogi newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy. Er gwaethaf hyn, mae niferoedd teithiau a theithwyr bws yn parhau i ostwng. Caiff y bws ei weld fel Sinderela trafnidiaeth gyhoeddus o hyd, ac mae angen gwrthdroi’r duedd hon am i lawr. Mae angen mwy o weithredu i fynd i’r afael â thagfeydd a gwella gwasanaethau bws ar gyfer pobl Cymru.

Mae ein hadroddiad yn nodi un argymhelliad sef y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu i amlinellu sut y bydd yn mynd i’r afael ag effeithiau tagfeydd traffig ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod bod yna rôl sylweddol i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol ei chwarae, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad strategol clir ar y camau gweithredu sydd eu hangen, ac mae’n rhaid cychwyn drwy gydnabod graddau a hyd a lled effeithiau tagfeydd ar y diwydiant. Rydym angen ymrwymiad cadarn gan y Llywodraeth y bydd yn mynd i’r afael â’r mater, ac yn ystod ein hymchwiliad, clywsom fod angen gwaith pellach i ddeall yr achosion sylfaenol, ac wrth gwrs dylid defnyddio hyn i lywio’r gwaith o ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn tagfeydd, wrth gwrs. Maent angen cymorth gan Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau, maent angen arweiniad a chymorth i sefydlu cynlluniau partneriaeth bysus o ansawdd effeithiol, ac mae angen iddynt sicrhau eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau gweinyddol sy’n aml yn ddiystyr i’r trigolion sy’n byw yno. Mae cynllunio lleol a rhanbarthol yn darparu’r mecanwaith delfrydol i sicrhau bod tagfeydd yn cael sylw ar sail ranbarthol. Mae llawer o offer ar gael ar hyn o bryd i helpu i drechu tagfeydd: cynlluniau parcio a theithio, codi tâl am dagfeydd, taliadau parcio estynedig, ardollau parcio yn y gweithle, ac wrth gwrs, mesurau blaenoriaethu bysiau hefyd megis lonydd bysiau. Mae angen i’r rhain gael eu hasesu yng nghyd-destun Cymru ac mae angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha mor ddefnyddiol y gallent fod. Bydd gwahanol atebion, wrth gwrs, yn iawn ar gyfer gwahanol ardaloedd, ond mae’n ddiamheuol, fodd bynnag, os yw’r bws yn mynd i fod yn ateb i broblemau trafnidiaeth, mae angen iddo gael blaenoriaeth.

Mae gwasanaethau bws mewn sefyllfa amhosibl. Er mwyn lleihau tagfeydd, mae angen annog pobl i ddod o’u ceir a gwneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus. Tra bo tagfeydd yn dal i effeithio mor sylweddol ar deithiau bysiau, nid yw’r diwydiant bysiau yn debygol o fod yn ddewis deniadol. Mae llawer o waith i’w wneud i werthu manteision teithio ar fws. Mae angen i’r diwydiant bysiau farchnata ei hun yn fwy cadarnhaol, ac mae rôl i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ei chwarae yn datblygu a chyflwyno ymgyrch genedlaethol drawiadol i annog y newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mewn ymateb i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad cyffredinol i gynhyrchu cynllun gweithredu. Mae hefyd wedi cytuno ag awgrym y pwyllgor ynglŷn â’r hyn y dylai’r cynllun ei gynnwys. Rwyf wrth fy modd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu gweledigaeth ein pwyllgor am wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon sy’n ymrwymedig i wella gwasanaethau bws ledled Cymru. Mae’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad i ddeall achosion sylfaenol y mater yn well yn galonogol, ac ar ben hynny, yn dilyn yr uwchgynhadledd fysiau yn gynharach eleni, bydd yn cynnal gweithdy yn yr hydref, a bydd hyn yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a phartneriaid eraill ddod at ei gilydd i drafod y materion penodol yn eu hardaloedd. Rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi adborth i’r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl i hynny ddigwydd.

Rydym yn parhau i fod yn bryderus ynglŷn â sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cyllid ar eu cyfer i benodi cydgysylltwyr bws yng ngogledd a de Cymru, ac mae eu cylch gwaith yn cynnwys cydweithio agosach rhwng rhanddeiliaid i ddatblygu partneriaethau ansawdd bysiau. Mae llu o ganllawiau eisoes ar gael i awdurdodau lleol i’w hannog i weithio gyda’i gilydd, ac ni wyddom eto a fydd y swyddi newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad mewn gwirionedd o ran cyrraedd y nod terfynol o gael gwasanaeth mwy effeithlon a chynaliadwy ar gyfer defnyddwyr bysiau.

Rydym yn croesawu’r tryloywder gwell a ddaw gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu refeniw disgwyliedig gweithredwyr bysiau ar gyfer pob llwybr y maent wedi ceisio am grant cynnal ar ei gyfer. Mewn cyfnod o wasgu ar gyllidebau, mae’n hanfodol cyfeirio’r cyllid, wrth gwrs, tuag at y gwasanaethau a’r llwybrau lle y mae fwyaf o’i angen. Rydym hefyd yn cefnogi’r cynnig a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb sef na ellid ond dyrannu’r grant i gefnogi gwasanaethau bysiau a oedd yn rhan o’r bartneriaeth ansawdd bysiau rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr. Buasai hyn yn gatalydd, rwy’n credu, ar gyfer gwelliannau ym maes gweithio mewn partneriaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl y prynhawn yma ac at glywed cyfraniadau gan Aelodau ar draws y Siambr.