Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwy’n falch iawn o gefnogi argymhellion y pwyllgor, ac mae’n gyfle, wrth gwrs, i ni hoelio sylw, a dweud y gwir, tuag at ran o’n hisadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus, fel yr oedd Russell George yn dweud, sydd, yn anffodus, yn rhy hir ac yn rhy gyson wedi bod yn sector sinderela o ran buddsoddiad cyhoeddus ac o ran ffocws polisi cyhoeddus. Rydw i’n siarad fel rhywun oedd yn gwbl ddibynnol ar wasanaeth bysys fel person ifanc. Nid oedd car gyda ni fel teulu o gwbl, ac felly roeddwn i, yn yr ardal roeddwn i’n byw ynddi, ar wahân i ychydig o drenau oedd yn mynd rhyw dair gwaith y dydd, yn ddibynnol yn hollol ar y system bysys, fel y mae lot o bobl ifanc ac, wrth gwrs, pobl y to hŷn. Mae fy rhieni i yn dal yn hollol ddibynnol ar wasanaeth bysys sydd yn crebachu, a dweud y gwir, ac wedyn mae hynny yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa o gael eu hynysu yn fwyfwy oherwydd bod hynny’n cyfyngu ar eu gallu nhw i deithio.
Felly, mae’n hollol allweddol, rwy’n credu, ein bod ni nawr yn hoelio sylw ar y diwydiant yma. Mae yn cynrychioli o hyd, er gwaethaf y crebachu a’r pwysau sydd wedi bod arno, yn dal i fod, rhyw 80 y cant o’n system drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mewn rhannau helaeth o Gymru, dyma’r unig drafnidiaeth gyhoeddus sydd gennym ni. Felly mae clywed, fel y gwnaeth y pwyllgor, am y pwysau oherwydd tagfeydd sydd ar y diwydiant yn peri consýrn i ni i gyd. Fel mae’r pwyllgor yn dweud yn ei adroddiad, mae’r rhesymau am y tagfeydd, y ‘congestion’ yma, yn amrywio o le i le, ac un o’r argymhellion craidd, felly, ydy bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ati i gael gwell dealltwriaeth ynglŷn â’r gwahanol resymau a’r ffactorau sydd yn gyrru’r duedd yma ar draws Cymru, ac rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru, yn eu hymateb nhw, wedi ymrwymo i wneud y gwaith yma ar lefel lleol a rhanbarthol, gan weithio gydag awdurdodau lleol.
O ran beth y gellid ei wneud, rhan bwysig o symud pethau ymlaen, wrth gwrs, ydy cefnogi teithio llesol neu deithio gweithredol, yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sydd yn ceisio, yn gyffredinol ar draws Cymru, annog sifft oddi wrth deithio mewn car tuag at fodd mwy cynaliadwy a hefyd mwy integredig o deithio ac o drafnidiaeth. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau bras iawn, a dweud y gwir, i’r cyfeiriad yma. Maen nhw ar flaen y gad, rwy’n credu, ar lefel Prydeinig; maen nhw wedi dyblu’r gyllideb ar gyfer teithio llesol yn ddiweddar. Maen nhw wedi datgan pum cynllun ar draws yr Alban, gyda rhyw £22 miliwn o gyllid ar gyfer lonydd bysys, ar gyfer ffyrdd cerdded, ar gyfer llwybrau seiclo penodedig. Dyna’r math o uchelgais, rwy’n credu, yr hoffwn i ei weld gyda Llywodraeth Cymru.
Mae yna bethau y gellid eu gwneud nawr, wrth gwrs, i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn gweld teithio ar fws yn ganolog i’r cynnig o ran teithio o ran trafnidiaeth integredig. Mae yna astudiaeth dichonoldeb, er enghraifft, ar gyfer ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Rwy’n gefnogol iawn i hynny. Efallai mai nod tymor canol fyddai hynny. Ond mi fyddai modd dechrau nawr drwy fynnu yn y fasnachfraint, er enghraifft, fod yna wasanaeth coets, hynny yw, y gellid ei ddefnyddio fel rhan o’r system rheilffyrdd, yn gweithredu rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth nawr, er mwyn cael integreiddio go iawn rhwng bysys a rheilffyrdd.
Gan feddwl am y sefyllfa yma yng Nghaerdydd, mae e’n warth o beth, a dweud y gwir, nad oes yna ddim cynnydd wedi bod gyda’r orsaf fysys. Rŷm ni’n clywed bod yna ryw gwestiynau ynglŷn â beth sy’n mynd i gael ei ddatblygu ar y safle hwnnw. Mae’n rhaid, yn y brifddinas yma, gweld statws iawn yn cael ei roi i’r gwasanaeth bysys yn y brifddinas, fel yng ngweddill Cymru hefyd.