1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Hydref 2017.
2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu cyllid o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod tymor y Cynulliad hwn? (OAQ51210)
Mae'r rhaglen yn ceisio targedu buddsoddiad yn yr ysgolion a'r colegau hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf, a darparu adeiladau cynaliadwy a chost-effeithiol. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n ceisio bwrw ymlaen â'r rhaglen dros y blynyddoedd nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf.
Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod fy etholaeth i, Cwm Cynon, wedi elwa gan fwy na £100 miliwn mewn cyfleusterau addysgol newydd a gwell o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf yn deall bod hynny’n fwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru. Gwn eich bod chi’n bresennol, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, yn agoriad swyddogol campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn Aberdâr. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a dderbyniwyd gennym ym mhwyllgor yr economi gan GolegauCymru yn awgrymu nad yw'r sector AB mor llwyddiannus ag y gallai fod efallai o ran manteisio ar y cyllid hwnnw. Felly, o ran y swyddogaeth bwysig sydd gan addysg bellach o ddarparu dewis i ddysgwyr a hybu sgiliau, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r sector fel y gall sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o’r rhaglen?
Wel, mae'n iawn i ddweud bod dros £120 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau AB yn ystod y rhaglen band A. Rydym ni wedi gweld canlyniadau hynny. Darparwyd dros £10.6 miliwn o gyllid cyfalaf i sefydliadau AB i uwchraddio eu hoffer a’u sgiliau TG. Yn ystod y don nesaf o fuddsoddiad—band B—rydym ni’n gweithio gyda cholegau AB i ddatblygu eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer y don nesaf hon fel y gallwn ddeall lle ddylai buddsoddiad ddod. Ac rydym ni’n annog sefydliadau AB i gyflwyno prosiectau buddsoddi a fydd o fudd iddyn nhw fel sefydliadau.
Prif Weinidog, mae’n debyg bod y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi bod yn un o bolisïau mwyaf poblogaidd Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny ni raddau helaeth oherwydd y swyddogaeth a gyflawnwyd gan awdurdodau lleol arloesol a blaengar, fel Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr. Mae Ysgol Gyfun Trefynwy yn cael ei hailadeiladu ar hyn o bryd ac, ar ôl ei chwblhau, bydd ganddi gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth a TG rhyngweithiol modern. Nid yw hyn ar gyfer y disgyblion yn unig; mae ar gyfer y dref gyfan. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu i ddatblygu ysgolion newydd fel hyn fel canolfannau cymunedol ac i helpu i dargedu cyllid at brosiectau lleol a fydd yn cysylltu â datblygiadau fel hyn?
Wel, rwy’n edmygu ei grefft o ran troi hwn yn gwestiwn i longyfarch awdurdod addysg lleol Sir Fynwy. Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu’r ffaith fod Sir Fynwy ac AALlau eraill—pob AALl yng Nghymru—wedi gallu elwa ar y rhaglen gwella ysgolion. Byddwn yn ei atgoffa, wrth gwrs, nad oes gan ei blaid ef yn Lloegr raglen o'r fath ac, yn yr achos hwnnw, yn Sir Fynwy, ni fyddai unrhyw ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yno nac mewn unrhyw le arall yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae un pwynt pedwar biliwn o bunnoedd yn cael ei ymrwymo dros y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2019. Mae hynny'n golygu bod cyllid wedi ei gymeradwyo ar gyfer 151 o brosiectau ym mand A ein rhaglen, sy'n rhagori ar ein targed. Mae wyth deg tri o'r prosiectau hynny yn gyflawn, 45 yn cael eu hadeiladu. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol pobl ifanc Cymru ac addysg Cymru, a allai gael ei ddarparu ddim ond gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod yr arian sydd ar gael o fewn cyllideb ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei ddefnyddio i ehangu addysg Gymraeg? Oherwydd rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna raddfa gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion ffydd—mae’n 85 y cant, o beth ydw i’n ei ddeall, yn hytrach na 50 y cant ar gyfer ysgolion yn fwy cyffredinol. A fyddech chi yn barod i ystyried rhyw ddull tebyg i hynny, o bosibl, er mwyn sicrhau eich bod chi’n cyrraedd eich targedau o safbwynt miliwn o siaradwyr?
Beth sy’n hollbwysig yw bod awdurdodau lleol yn gallu cynhyrchu, er enghraifft, gynlluniau strategol ynglŷn ag addysg Gymraeg yn eu hardaloedd—nid ydyn nhw wedi gwneud hyn lan at nawr, yn gyson, mae’n rhaid i mi ddweud—ac, wrth gwrs, i ddefnyddio’r cynlluniau hynny felly i dargedu ardaloedd lle y dylem ni gael mwy o ysgolion Cymraeg newydd. Y tueddiad sydd wedi bod dros y blynyddoedd yw bod yr ysgolion newydd yn tueddu i fod yn ysgolion Saesneg, ac ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu wedyn yn yr hen adeiladau. Wel, nid felly y dylai hynny fod yn y pen draw. Ond mae hwn yn dechrau gyda’r WESPs, sef y cynlluniau strategol, ac rydym ni’n moyn sicrhau, wrth gwrs, fod pob WESP yng Nghymru—i ddefnyddio’r acronym Saesneg—yn gadarn ac yn sicrhau eu bod nhw’n ein helpu ni i adeiladu tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.