Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Hydref 2017.
Yn y pen draw, wrth gwrs, mae'n agored i ni fel Llywodraeth gymryd drosodd swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn ddewis os bydd yr awdurdod yn methu â chyflawni o dan delerau'r hysbysiad rhybudd, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ei fonitro'n agos dros y dyddiau nesaf. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau y bydd hyn yn derbyn sylw llwyraf Llywodraeth Cymru ac AGGCC, ac ni fydd unrhyw ddewis yn cael ei ddiystyru os na cheir cydymffurfiad.