Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 17 Hydref 2017.
Prif Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol am achos trist Seren Bernard yn fy etholaeth i a laddodd ei hunan yn 2012 tra’r oedd o dan ofal gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro. Fe welais i ei mam hi rai wythnosau’n ôl i drafod adroddiad Cyngor Sir Penfro i mewn i’r achos, ac nid yw’r adroddiad yma, mae’n debyg, yn cael ei gyhoeddi oherwydd rhesymau cyfreithiol. Mae yn bwysig bod materion fel hyn yn cael eu delio â nhw mewn ffordd agored, mewn ffordd dryloyw, er mwyn bod gwersi yn cael eu dysgu gan yr awdurdodau. Felly, yn dilyn cwestiwn Simon Thomas, pa ganllawiau penodol ŷch chi fel Llywodraeth yn eu cyhoeddi i awdurdodau lleol mewn achosion fel hyn i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu er mwyn diogelu mwy o blant yn y dyfodol?