<p>Digwyddiadau Pride</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau Pride yng Nghymru? (OAQ51219)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Rydym ni wedi darparu cyllid i Blaid Cymru ers blynyddoedd lawer—Pride Cymru, dylwn i ddweud—gan gynnwys eleni, er gwaethaf—[Torri ar draws.] Er gwaethaf pwysau cyllidebol. Mae digwyddiadau Pride yn cynnig cyfleoedd i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ac eraill gael mannau diogel, hygyrch i ddathlu.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Pride Cymru. Gobeithio y byddwn yn gweld y digwyddiad hwn yn mynd o nerth i nerth, ac, un diwrnod yn y dyfodol agos, yn cynnal Europride yma yn y brifddinas. Mae digwyddiadau Pride ledled Cymru, wrth gwrs, yn cynnig cyfle i'r gymuned pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ein ffrindiau a'n cefnogwyr ddod at ei gilydd i ddathlu mewn lle sy'n ddiogel i ni fod yn ni ein hunain. Ond, er na ddylem ni fod yn hunanfodlon, mae Pride yn ein galluogi i gael cyfle i ddangos cefnogaeth ac undod â phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ac yn enwedig pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Dyna pam rwy’n falch, eleni, ein bod ni, yn fy etholaeth i, wedi cynnal y digwyddiad Balchder Sir y Fflint cyntaf erioed. Rwy’n hynod o falch i ddweud nawr bod Balchder Sir y Fflint wedi ennill statws elusennol yn ddiweddar. Rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi gofyn i mi fod yn noddwr, ochr yn ochr ag Andy Bell o Erasure, felly rwy'n gobeithio y bydd Balchder yn sicrhau nad ydynt yn cymysgu pwy sy'n siarad a phwy sydd i fod i ganu. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Balchder Sir y Fflint ar ennill y statws elusennol hwn? Wrth gwrs, byddai'n wych pe gallech chi ymuno â ni ar 9 Mehefin y flwyddyn nesaf, wrth i ni ddathlu amrywiaeth ac anfon neges o obaith yn ein cymunedau.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwahoddiad, y byddaf, wrth gwrs, yn ei ystyried? A gaf i ddweud bod y Llywodraeth wedi cynnal stondin yn nigwyddiad Balchder Sir y Fflint ym mis Mai. Roedd hi'n galonogol gweld digwyddiad mor gadarnhaol, mor llwyddiannus lle’r oedd cymaint yn bresennol. Teithiodd pobl o bob cwr, a dweud y gwir, i fynd yno, deallaf. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i gefnogi digwyddiadau Balchder er mwyn dathlu, ac ymladd y rhai sy'n annog rhaniadau yn ein cymdeithas.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:11, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, roeddwn i wrth fy modd o gael cymryd rhan yng ngorymdaith Pride gyntaf Caerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl. Doeddwn i ddim yn dod allan, gyda llaw; cynrychioli fy mhlaid oeddwn i. Roedd yn ddigwyddiad gwych, fel y mae'r mudiad Pride ei hun. Yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Hannah Blythyn, mae'r digwyddiadau hyn—ac rwy'n croesawu Balchder Sir y Fflint—yn tueddu i fod yn gysylltiedig, neu wedi bod yn y gorffennol, â dinasoedd ac ardaloedd trefol, sy'n wych cyn belled ag y mae'n mynd. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o gynyddu amrywiaeth a pherthnasedd Pride ar draws pob rhan o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, fel y gall pobl o bob cwr o'r wlad elwa ar ysbryd Pride a'r rhyddid y mae'n ei gynnig?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn iawn. Mae wedi tueddu i gael ei leoli’n drefol, a bydd y Gweinidog, rwy'n siŵr, eisiau gweithio gyda sefydliadau fel Pride Cymru i weld sut y mae'n bosibl cynyddu nifer y digwyddiadau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Gellir cyflawni hynny, rwy'n siŵr, gan weithio gyda'r sefydliad, gydag amser.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae gwyl ffilm Gwobr Iris wedi bod yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd. Mae’n cynrychioli’r wobr ffilm hoyw fwyaf yn y byd, a’r wobr ffilm fer fwyaf o unrhyw fath. A gaf i ofyn i’r Prif Weinidog longyfarch y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr am eu llwyddiant? Dylwn i ddatgan buddiant: roeddwn i yno am y rhan fwyaf o’r wyl, ac mae’n cael ei chynnal gan gyfaill imi. A gaf i ofyn: beth yn fwy y gallwn ei wneud i helpu gwyl Iris i ymestyn ei neges o falchder ar draws Cymru, fel y clywsom ni, gan feddwl yn arbennig am y Cymry Cymraeg hefyd, lle mae yna waith i’w wneud, rwy’n credu, o asio’r cwestiwn o falchder o ran rhywioldeb a hefyd balchder yn ein hiaith a’n diwylliant ni?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Wel, roedd yn bleser clywed am y llwyddiant hwnnw. Rŷm ni am sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’r trefnwyr er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni estyn y digwyddiad ei hun ynglyn â dylanwad y digwyddiad, ac i weld ym mha ffordd y gall y digwyddiad dyfu yn y pen draw. Felly, byddwn yn ddigon hapus i dderbyn unrhyw fath o lythyr er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni helpu i adeiladu ar y syniadau a fydd, o bosib, yn y llythyr hwnnw.