Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 17 Hydref 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Ddoe, cyflwynodd y rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, argymhellion clir i ni ar fater cofrestru’n gynnar ar gyfer TGAU. Aethant ati i ymgysylltu'n eang â gweithwyr addysgu proffesiynol yn ystod eu gwaith ac maent wedi dod i gasgliadau pendant. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hadroddiad a'u hystyriaethau. Hoffwn ddiolch hefyd i'r nifer o weithwyr addysgu proffesiynol a gefnogodd y gwaith hwn, a'r athrawon, rhieni a disgyblion lawer sydd wedi cysylltu â mi ar y mater hwn. Rwyf wedi treulio amser dros y misoedd diwethaf yn ystyried y cyfraniadau hyn a'r dewisiadau sydd ar gael cyn gweld adroddiad Cymwysterau Cymru er mwyn i mi allu ymateb yn gyflym heddiw.
Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf i o’r farn bod codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system y gall y cyhoedd fod â hyder ynddi wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol. Mae budd gorau dysgwyr wedi bod ar flaen fy meddwl wrth i mi ystyried y mater penodol hwn o gofrestru’n gynnar a chofrestru amryfal ar gyfer TGAU. Dywedais yn yr haf nad yw'r duedd tuag at fwy o ddefnydd o gofrestru’n gynnar yn gynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer blwyddyn 10, pan na fydd y rhan fwyaf o ddysgwyr ond wedi cwmpasu hanner y cwrs. Nid yw fy marn ar hyn wedi newid. Haf diwethaf, gwelsom 43,000 o ddysgwyr blwyddyn 10 yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Saesneg iaith a Chymraeg iaith a'r ddau TGAU mathemateg, ac roedd rhai yn defnyddio'r dull ar draws y garfan gyfan o ddysgwyr.
Mae'n amlwg bod llawer gormod o ddisgyblion yng Nghymru nad ydynt yn cael eu caniatáu i gyrraedd eu potensial llawn. Gwnaeth bron i 9,500 o ddisgyblion sefyll TGAU rhifedd mathemateg yn gynnar ym mis Tachwedd 2016 a chael gradd A neu lai ond ni chawsant eu hail-gofrestru wedyn ar gyfer yr arholiad yr haf diwethaf. O'r disgyblion hynny, llwyddodd 30 y cant i ennill gradd C. Bodloni yw hyn yn hytrach na herio, ac mae'n dal rhai o'n pobl ifanc yn ôl. Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyfrifo'r gost ar gyfer cofrestru’n gynnar y llynedd, sef mwy na £3.3 miliwn, ac mae hynny'n anghynaladwy, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau ysgolion dan gymaint o bwysau.
Bydd yr Aelodau'n cofio fy natganiad ar 24 Mai ar asesu ar gyfer dysgu, a oedd yn canolbwyntio ar gynyddu sgiliau athrawon ar asesu ffurfiannol. Mae Cymwysterau Cymru yn amlygu'r defnydd amhriodol o asesiadau TGAU at ddibenion ffurfiannol. Yn syml, nid yw'r TGAU wedi'u cynllunio ar gyfer hyn. Dylai fod gan ysgolion y modd o asesu cynnydd dysgwyr a llunio addysgu a dysgu parhaus heb ddibynnu ar TGAU allanol, cost uchel, lle mae llawer yn y fantol.
Mae adroddiad Cymwysterau Cymru yn amlygu cymhlethdod ac amrywiaeth y farn ar y mater o gofrestru’n gynnar. Nid oes un dull addas sy'n addas i bawb, ac rwyf wedi derbyn bob amser y gallai cofrestru’n gynnar fod o fudd i rai dysgwyr o dan rhai amgylchiadau, fel y rhai hynny sy'n barod i ddangos dealltwriaeth lawnach ac sy'n dymuno ymgymryd â dysgu pellach yn y pwnc, ac mae'n rhaid ei ddefnyddio yng nghyd-destun cwricwlwm eang a chytbwys.
Mae cymhelliant yn effeithio ar lefel y dysgwr unigol, ac mae’r adroddiad yn dangos pa mor amrywiol yw safbwyntiau athrawon. Mae yna broblemau gwirioneddol o ran amser dysgu yn cael ei gymryd i baratoi ar gyfer TGAU lle mae llawer yn y fantol. Mae tystiolaeth o gynnydd yn llwyth gwaith athrawon a dysgwyr, a baich asesu cynyddol, a mwy o botensial i ddysgwyr flino ar arholiadau. Mae canfyddiadau Cymwysterau Cymru yn glir: maent o'r farn bod y defnydd eang o gofrestru’n gynnar yn peri risg sylweddol i ddysgwyr ac i'n system arholi. Nid yw’r buddion posibl yn gorbwyso hynny. Felly, mae angen inni weithredu i atal patrymau cofrestru TGAU amhriodol.
Rwyf wedi derbyn argymhelliad clir Cymwysterau Cymru i newid mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 i ymagwedd ‘cofrestriad cyntaf yn unig sy’n cyfrif’. Bydd hyn yn annog ysgolion i gofrestru dysgwyr pan fyddant yn hyderus eu bod yn barod i gael y canlyniadau gorau posibl. Ni fydd yn atal ysgolion rhag cofrestru’n gynnar, na chofrestru eto os ydyn nhw, neu ddysgwr, yn dymuno gwella canlyniadau, ond ni fydd y canlyniadau ailsefyll yn cyfrif tuag at fesur perfformiad yr ysgol, hyd yn oed pan fo'r canlyniad yn uwch. Gadewch imi fod yn gwbl glir, Llywydd dros dro: bydd ein pobl ifanc yn gallu defnyddio eu canlyniad gorau wrth gael mynediad at ddysgu pellach neu’r byd gwaith. Mae'r newid dim ond yn berthnasol i’r modd y byddwn ni yn ystyried perfformiad yr ysgol. Bydd hyn yn rhan o'r fframwaith asesu a gwerthuso ehangach a gyhoeddir y flwyddyn nesaf.
Rwyf hefyd wedi derbyn barn Cymwysterau Cymru y dylai ysgolion allu cofrestru dysgwyr ym mis Tachwedd am y tro cyntaf mewn Cymraeg iaith a Saesneg iaith—rhywbeth sydd ar gael ar gyfer y ddau TGAU mathemateg yn unig ar hyn o bryd. Bydd hyn yn rhoi dewisiadau cofrestru cynharach priodol a hyblyg i ysgolion, os ydynt yn teimlo bod hynny o fudd, yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd mewn perygl o ymddieithrio neu sy'n barod i symud ymlaen i ddysgu pellach. Rwyf wedi gwrando ar bryderon yr ysgolion o ran gwneud newidiadau hanner ffordd drwy'r flwyddyn academaidd. Rwy'n cydnabod bod angen amser ar ysgolion i gynllunio eu haddysgu, eu dysgu a'u hymagweddau at TGAU. Felly, bydd y newidiadau i fesurau perfformiad yn dod i rym ar gyfer adroddiadau haf 2019. Mater i'r rheoleiddiwr yw rhyddhau cofrestru cynnar ym mis Tachwedd ar gyfer Cymraeg iaith a Saesneg iaith, ond rwy'n disgwyl i hyn fod ar gael i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer ysgolion ynghylch pa bryd y gall cofrestru’n gynnar fod o fudd i fathau penodol o ddysgwyr, a phryd nad ydyw, er mwyn gefnogi eu penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae'r newidiadau yr wyf wedi’u cyhoeddi yn ffurfio rhan o'n trefniadau pontio ar gyfer atebolrwydd a byddant yn helpu ysgolion i weithredu er budd gorau'r disgybl ac nid er hunan-fudd canfyddedig y sefydliad. Os ydym ni bob amser yn ymrwymedig i roi buddiannau'r dysgwr yn gyntaf, a sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn, yna gallwn ni fod yn hyderus y byddwn yn codi safonau ac yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.