Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 17 Hydref 2017.
Dengys y ffigurau heddiw fod troseddau casineb wedi codi gan 29 y cant, a chredaf fod hynny'n gynnydd yng Nghymru a Lloegr na welwyd ei debyg o’r blaen. Rwy'n siŵr y bydd y mwyafrif llethol o bobl resymol yn y Siambr hon, yn ein cymunedau a'n gwlad, yn cytuno bod hyn yn annerbyniol. Mae gan bob un ohonom ni yma ddyletswydd i godi llais, i sefyll a gweithredu er mwyn herio a mynd i'r afael â rhagfarn a chasineb ymhle bynnag ac i bwy bynnag y mae’n dangos ei wyneb hyll. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y lle hwn ar yr union fater hwn, ac rwyf wedi egluro na allwn ni gael hierarchaeth casineb.
Fodd bynnag, heddiw fe hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad ar fwlio, ac yn arbennig ar y cynnydd o gam-drin ar-lein. Dangosodd canlyniadau arolwg Stonewall ym mis Awst 2017 fod un o bob 10 o bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol wedi profi cam-drin neu ymddygiad homoffobig, biffobig neu drawsffobig ar-lein a gyfeiriwyd tuag atyn nhw yn bersonol. Mae'r rhif hwn yn cynyddu i un o bob pedwar person trawsrywiol sydd wedi dioddef camdriniaeth neu ymddygiad trawsffobig, a hanner yr holl bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol sydd wedi gweld camdriniaeth homoffobig, biffobig a thrawsffobig neu ymddygiad ar-lein nad oedd wedi'i gyfeirio atyn nhw yn ystod y mis diwethaf. Rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn y fan yma yn ymwybodol bod rhywbeth am y cyfryngau cymdeithasol sydd fel pe byddai yn gwneud i bobl feddwl y gallan nhw ddweud a gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau heb ofni nac ystyried y goblygiadau.
Fe hoffwn i wneud y mater ychydig yn fwy personol a llunio darlun gwell i’r Aelodau sydd yma. Rwy'n cofio, ym mis Chwefror y llynedd, y cawsom ni ddadl gan Aelod unigol i nodi mis hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, ac yn rhan o hynny, fe wnes i ychydig o waith ar y cyfryngau. Roedd un o'r penawdau ar wefan BBC Politics yn darllen Hannah Blythyn: Rwy’n falch o fod yn un o’r ACau cyntaf i fod yn hoyw ar goedd gwlad. Ac er na allai’r bobl a ymatebodd ddod o hyd i mi er mwyn anfon negesau trydar ataf i, dim ond i roi blas i chi o rai o'r pethau y gallaf i eu hailadrodd yn y Siambr o’r hyn y gwnaethon nhw ei drydar yn ôl:
Pam mae pobl yn meddwl bod y mwyafrif helaeth yn hidio beth yw eu dewisiadau rhywiol?
Sut mae hynny’n eich gwneud chi yn well AC
Does gen i mo’r diddordeb lleiaf. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth mooooor ddiiiiflas. Pwy sy'n hidio gyda phwy mae hi'n cysgu.
Fy hoff un yn bendant, ac rwy’n dweud hyn gyda mymryn o goegni, oedd rhywun yn dweud: Lloegr yw’r fan yma. Y rheswm rwy’n tynnu sylw at yr achosion hyn yw oherwydd fy mod o’r farn ei bod—. Wyddoch chi, fe gamais i ar lwyfan bywyd cyhoeddus, ac rwyf wedi penderfynu bod yn agored ynghylch pwy wyf i, oherwydd rwy'n credu ei bod hi’n bwysig bod yn agored. Ond rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldeb hefyd i herio’r pethau hyn, oherwydd fe all yr hyn sy’n gellwair a hiwmor i un person frifo ac arwain at ganlyniadau i rywun arall. Felly, mae arnom ni angen i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus weithredu'n gyflym ac o ddifrif i fynd i’r afael â digwyddiadau o gam-drin ar-lein, gan roi gwybod i unigolion am y cynnydd ac unrhyw gamau a gymerwyd. Rwyf hefyd o'r farn bod angen i’r cyrff cyfryngau cymdeithasol byd-eang fod yn fwy o ddifrif ynglŷn â chasineb a cham-drin ar-lein, a bod â safonau mwy llym a mesurau effeithiol ar waith i ddwyn i gyfrif y rhai sy’n gyfrifol.
Mae angen i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill gydweithio â'r heddlu i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o ymateb i gasineb ar-lein, mewn ymgynghoriad â'r bobl yr effeithiwyd arnynt a'r sefydliadau sydd yno i'w cefnogi. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni fod yn fwy llym o ran caniatáu i'r gwagle hwn fodoli lle mae modd i gasineb ar-lein grynhoi a ffynnu. Ni allwn ni ganiatáu i faes o’r fath barhau i fudlosgi a hefyd i gynyddu casineb, oherwydd fe all y gwagle ar-lein hwnnw droi wedyn yn fodd o gyflawni gweithredoedd casineb oddi ar y we. Ynghylch hynny, rwy'n siŵr nad y fi yw’r unig un sy’n gofidio ein bod ni'n dod yn llai goddefgar tuag at eraill, gyda dirywiad pendant yn natur a chynnwys y ddadl. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw hyn yn ymwneud â chywirdeb gwleidyddol; mae'n ymwneud â pharch ac ystyriaeth sylfaenol o’n gilydd fel cyd fodau dynol.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod a gweithredu ynghylch pam mae pobl o bosib yn teimlo wedi eu dieithrio ac ymhell o'r system wleidyddol, ac rwy'n credu bod llawer o hynny yn ymwneud â’r ffactorau economaidd sydd o dan hynny. Ond credaf y dylem ni fod yn glir nad yw hynny'n golygu y dylem ni ymostwng i’r nodweddion mwyaf annheilwng a chaniatáu defnyddio hynny fel esgus, i ymosod ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a’u troi yn fwch dihangol, gan osod cymunedau a grwpiau yn erbyn ein gilydd.
Rwy'n teimlo weithiau pan fyddwn ni'n cael rhai o'r dadleuon hyn bod yna rai pobl sy'n meddwl rywsut bod cynnydd o ran cydraddoldeb deddfwriaethol wedi troi’r fantol y ffordd arall, a chredaf fod angen i ni fod yn glir iawn ynghylch hynny. Nid yw cydraddoldeb i mi yn golygu llai o hawliau i rywun arall. Cydraddoldeb, yn ôl ei ddiffiniad geiriadurol, yw’r cyflwr o fod yn gyfartal, yn enwedig o ran statws, hawliau neu gyfleoedd. Mae angen inni gofio hynny, ac mae angen inni leisio barn i gefnogi hynny. Felly, y dydd Iau yma, byddaf yn siarad mewn digwyddiad yn eglwys gadeiriol Llanelwy i nodi 50 mlynedd ers dad-droseddu bod yn hoyw. Bydd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar hanes a gobaith ar gyfer y dyfodol. Bydd fy nghyfraniad i yn edrych ar y dyfodol ac ar y Gymru a'r byd y gobeithiwn ni y byddwn ni un diwrnod yn byw ynddynt, Cymru a byd lle rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ni yn y dyfodol fyw ein bywydau fel yr ydym ni ar gyfer pwy ydym ni, heb ofni rhagfarn a chasineb. Mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i wireddu hyn, felly gadewch inni arwain y ffordd o ran codi llais, hawlio cyfrifoldeb a chael gwared ar gasineb a gwahaniaethu. Diolch yn fawr.