6. 6. Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:22, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y dylem ni ddechrau'r ddadl hon trwy ddweud yr hyn sy'n wir: ein bod ni'n byw mewn cymdeithas llawer llai rhagfarnllyd heddiw na 50 mlynedd yn ôl, pan oeddwn i'n ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth da iawn. Rwy’n cymeradwyo strategaeth y Llywodraeth ynglŷn â throseddau casineb ac rwy'n gwerthfawrogi'r modd y dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon. Ond un peth sydd yn peri pryder imi ynglŷn â dadleuon ynghylch troseddau casineb yw ein bod yn dueddol o golli golwg ar union natur hynny.

Mae trosedd casineb, wrth gwrs, yn ffiaidd, ac rwyf yn siarad fel dioddefwr, oherwydd fe dorrwyd fy nhrwyn ar un adeg pan es i helpu ffrind hoyw i mi pan wnaeth criw o labystiaid homoffobaidd ymosod arno, ac aeth y sawl a gyflawnodd y drosedd honno i’r carchar maes o law oherwydd hynny. Rwyf hefyd wedi bod ar restr Byddin Gweriniaethol Iwerddon ers nifer o flynyddoedd, ac felly roeddwn o dan fygythiad o gael fy llofruddio. Felly, rwyf yn deall beth yw ystyr casineb pan ddowch chi wyneb yn wyneb ag ef yng ngwir ystyr hynny. Ond nid oes gennym ni blaid adain dde eithafol gwerth sôn amdani sy'n weithgar yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae Plaid Genedlaethol Prydain wedi diflannu, mae Cynghrair Amddiffyn Lloegr yn ddibwys, a chredaf y dylem ni ddathlu hynny. Nid oes gennym ni’r problemau sydd gan rai gwledydd Ewropeaidd, ac felly ni ddylem ni fod o dan gamsyniad yn hyn o beth.

Credaf fod yn rhaid inni hefyd dderbyn bod y ffigurau a adroddir fel troseddau casineb yn tueddu mewn gwirionedd i orbwysleisio maint y broblem. Cyfeiriodd Mark Isherwood, yn ystod ei araith, at y ffaith mai canfyddiad y dioddefwr sy'n bwysig, nid y gwir realiti, o anghenraid. Y diffiniad yng nghanllawiau gweithredol y Swyddfa Gartref, a dderbynnir gan heddluoedd yng Nghymru, yw, er dibenion cofnodi, mai canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall, yw'r ffactor diffiniol wrth benderfynu ar ba un a yw digwyddiad yn ddigwyddiad casineb. Felly, gall hyd yn oed trydydd parti roi gwybod am drosedd casineb fel y cyfryw, a bydd yr heddlu'n gwneud cofnod ohono’n syth fel trosedd casineb, hyd yn oed mewn achosion lle nad yw'r dioddefwr ei hun wedi dymuno hynny. Mae yna enghraifft wirioneddol yng nghanllawiau gweithredol yr heddlu, sydd, mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn eithaf addysgiadol:

Mae dyn heterorywiol yn cerdded trwy ardal ger clwb hoyw yn cael ei gam-drin ar lafar mewn ffordd sy'n dramgwyddus ond nid yw'n gyfystyr â throsedd yn erbyn y drefn gyhoeddus. Mae'n rhoi adroddiad o’r digwyddiad ond nid yw'n credu ei fod yn homoffobig, nac yn dymuno iddo gael ei gofnodi fel y cyfryw, ond gall y swyddog sy'n ysgrifennu’r adroddiad gofnodi hynny ei hun fel trosedd casineb er nad yw'r dioddefwr eisiau gwneud hynny, ac ni ddylid herio canfyddiad y dioddefwr mewn unrhyw ffordd. Nawr, rwy’n derbyn, os oes angen herio, yna dylid gwneud hynny mewn ffordd sensitif. Ond siawns bod yn rhaid inni seilio polisi cyhoeddus ar ffeithiau gwirioneddol ac nid ar ganfyddiadau yn unig.

Y sylw arall yr hoffwn ei wneud yn y ddadl hon yw'r ymdrech i ddefnyddio'r mater hwn o droseddau casineb fel modd o hogi cyllyll gwleidyddol. Rydym ni’n aml yn ei glywed yn gysylltiedig â Brexit, ac rydym ni’n aml yn ei glywed mewn cysylltiad â phobl sy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn y dylem ni gael rheolaethau synhwyrol ynglŷn â mewnfudo ar gyfer dibenion cydlyniant cymunedol. Rwy'n credu bod hyn yn ein dibrisio ni, a dweud y gwir, ac yn lleihau gwerth ein dadl wleidyddol. Siawns y gallwn ni dderbyn y ffaith, os ydych chi'n poeni am fewnfudo, nad ydych chi o reidrwydd yn hiliol, ac yn sicr nid ydych chi’n credu bod troseddau casineb yn rhywbeth da. Wrth gwrs, mae hilwyr yn bodoli sydd eisiau rheoli mewnfudo am eu rhesymau annheilwng eu hunain, ac mae pobl ymhob rhan wleidyddol o'r sbectrwm, bron iawn, sy’n ymwneud â cham-drin gwleidyddol. Rwyf i, o bryd i'w gilydd, wedi bod yn destun hynny fy hun. Dylai unrhyw un sydd eisiau gwybod beth yw cam-drin ar-lein fynd i weld yr hyn a ysgrifennwyd amdanaf, sy'n aml yn fy ngwahodd i berfformio amrywiol weithredoedd corfforol nad ydyn nhw o fewn fy ngalluoedd corfforol, nac yn wir o fewn galluoedd corfforol unrhyw un, o ran hynny.

Felly, rwy'n ymwybodol iawn, os ydych chi'n cymryd y pethau hyn o ddifrif, y gall fod yn rhywbeth cas iawn. Mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, rydym ni’n dueddol o fod yn groendew iawn, er mwyn i ni allu diystyru’r math hwn o beth. Yn yr hyn y gallech chi ei galw'n gymdeithas arferol, efallai na fyddem ni’n teimlo y byddai hynny’n beth mor hawdd ei dderbyn. Felly, rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r hyn a ddywedodd Hannah Blythyn yn ei chyfraniad—bod a wnelo hyn â pharch sylfaenol at unigolion a'u gwahaniaethau. Nid wyf yn credu y dylai pobl gael eu cam-drin na bod yn destun trais corfforol dim ond oherwydd priodweddau personol na allan nhw eu newid—neu, yn wir, am eu credoau gwleidyddol.

Wrth ddirwyn i ben, rwyf am ddweud, wrth gwrs, ein bod yn hapus i nodi'r cynnig ac, yn wir, fel y dywedais eisoes, i gefnogi strategaeth y Llywodraeth yn gyffredinol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Byddwn yn ymatal ar y rheini, oherwydd rwy'n credu eu bod wedi eu drafftio mewn ffordd braidd yn unochrog, ac mae hynny’n mynd yn ôl i'r hyn a ddywedais wrth agor fy araith. Nid oes gennyf amser, rwy’n ofni, i ymhelaethu ymhellach ar hynny heddiw. Ond rwy'n credu bod derbyniad cyffredinol—derbyniad eang—o'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i bolisi'r Llywodraeth, a byddwn ni yn eu cefnogi yn yr ymdrech honno.