Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 17 Hydref 2017.
Gan fod pawb arall yn sôn am eu profiadau ar-lein, fe ddywedaf innau ychydig am fy rhai i. Yn sicr, rwyf i wedi cael fy nifrïo gan sefydliadau adain dde eithafol am wneud fawr ddim mwy na chefnogi digwyddiad yr es i iddo yn y Senedd ynglŷn â Chymru fel cenedl noddfa. Rwy'n credu bod Leanne Wood wedi ei difrïo gan yr un sefydliadau am fynd i'r un digwyddiad, ac fe gawsom ein cyhuddo o geisio creu califfiaeth Fwslemaidd yng Nghymru, pan mai’r hyn yr oeddem ni yn ceisio'i wneud mewn gwirionedd oedd cynnig lloches i ffoaduriaid Syria a oedd yn ceisio dianc rhag erchyllterau’r rhyfel cartref hwnnw.
Wrth drafod y mater pwysig hwn o fynd i'r afael â throseddau casineb, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at waith sefydliadau fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, a gofynnaf ein bod i gyd y dydd Gwener hwn, 20 Hydref, yn cefnogi Diwrnod Gwisgo Coch 2017. Bydd hynny'n sicr yn rhoi esgus i mi wisgo fy hoff liw, o ran fy ngwleidyddiaeth a'm tîm pêl-droed, felly byddaf yn gwisgo coch ddydd Gwener. Ond, ar nodyn difrifol, mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ffordd ymarferol a gweladwy y gallwn ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i waith Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac i gefnogi eu gwaith gwerthfawr wrth helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ac i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ein cymunedau. Bydd y rhai ohonom ni sy'n dilyn pêl-droed yn cofio’r diwylliant afiach ar y terasau yn y 1970au a'r 1980au—yr hiliaeth amlwg, y llafarganu anhygoel a gyfeiriwyd at chwaraewyr pêl-droed croenddu, a'r meysydd pêl-droed yn cael eu defnyddio fel modd o recriwtio ar gyfer yr adain dde eithafol. Ers y dyddiau tywyll hynny, mae'n amlwg bod llawer o waith wedi'i wneud i symud pethau ymlaen a mynd i'r afael â'r agwedd honno o bêl-droed, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd.
Yn fy swyddogaeth flaenorol yn Unsain, roeddwn yn sicr yn falch iawn o fod yn rhan o'r trefniadau ar gyfer sefydlu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru. Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i Unsain am y cyllid hanfodol a roesant i’r sefydliad hwnnw yn y dyddiau cynnar, pwysig hynny. O ganlyniad, mae gennym ni bellach y fantais o sefydliad sydd wedi ennill enw da am hyrwyddo negeseuon cadarnhaol trwy gynhyrchu adnoddau addysgol, datblygu gweithgareddau i annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i herio hiliaeth, ac i herio hiliaeth mewn pêl-droed a chwaraeon eraill. Rwyf yn annog fy holl gyd-Aelodau yn y Cynulliad i gysylltu â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a manteisio ar y cyfle i weld eu gwaith ledled Cymru, mewn ysgolion, mewn clybiau chwaraeon, ac mewn cymunedau. Oherwydd mae’r math hwn o weithgarwch ar lawr gwlad yn hollbwysig wrth newid agweddau, gan ddarparu esiamplau cadarnhaol, ac wrth adeiladu'r ymyraethau cynnar hynny a fydd yn helpu i ddatblygu mwy o oddefgarwch a chydraddoldeb yn ein cymunedau.
A dyma’r math o waith—newid agweddau a darparu esiamplau cadarnhaol—a fydd hefyd yn ganolog i fynd i'r afael â homoffobia mewn chwaraeon, ond yn enwedig mewn pêl-droed. Dileu casineb tuag at y gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yw'r her fawr nesaf. Ac unwaith eto, fel cefnogwr pêl-droed, byddaf yn gwybod ein bod wedi gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â homoffobia pan fydd chwaraewyr pêl-droed yn gyfforddus â'u rhywioldeb eu hunain mewn chwaraeon ac yn falch o bwy ydyn nhw a heb fod ofn arnyn nhw. Felly, rwy'n siŵr yr hoffai’r Cynulliad annog Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fel un rhan o'r agenda ynglŷn â mynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ond fe ddylem ni hefyd barhau i gefnogi Stonewall Cymru ac eraill wrth i ni helpu i gael gwared ar gasineb, hiliaeth a homoffobia o’n cymunedau.
Mae'r holl waith yr ydym ni’n ei gefnogi i atal y troseddau casineb yn ein cymunedau yn bwysig, ac fe ddylem ni ganolbwyntio’n hymdrechion ar y sefydliadau a'r mentrau hynny sy'n helpu i atal y peryglon. Dyna pam y mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn i'w groesawu'n fawr. Diolch.